Llyfrgell yn prynu llawysgrif un o noddwyr Shakespeare

21.04.2016

Ar drothwy digwyddiadau i goffáu 400-mlwyddiant marw William Shakespeare y penwythnos hwn, cyhoeddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru iddi brynu llawysgrif fu’n eiddo i un o noddwyr ‘Ffolio Cyntaf’ 1623.

Yn Rhagfyr, mewn arwerthiant yn Llundain, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru lawysgrif, a ysgrifennwyd tua 1624, o waith George Owen (c. 1598-1665) o sir Benfro. Cyflwynwyd y gyfrol, sy’n cynnwys hanes ac achau Ieirll Penfro o’r Goncwest Normanaidd hyd ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, i William Herbert (1580-1630), trydydd Iarll Penfro, noddwr pwerus yn llys brenhinol y dydd. Ef oedd un o’r ddau y cyflwynwyd y casgliad cyntaf o ddramâu Shakespeare iddynt yn 1623 gan y golygyddion, John Heminge a Henry Condell, cyfeillion y diweddar ddramodydd.

Ymddengys fod cyflwyniad y llawysgrif hon o waith George Owen yn ymgais arall i geisio ffafr William Herbert mewn cylchoedd brenhinol, ac roedd yr awdur a’i ddarpar noddwr hefyd yn perthyn o bell i’w gilydd. Dal llygaid uchelwr a chreu argraff ffafriol oedd bwriad y gyfrol a brynwyd gan y Llyfrgell felly, ac ymddengys i’r achau deniadol a’r arfbeisiau godidog sydd ynddi gyflawni’r amcan hwnnw.

Mab gordderch oedd George Owen i’r hynafiaethydd o’r un enw a ystyrir yn hanesydd sirol cyntaf Cymru. Bu George Owen yr hynaf, awdur The Description of Penbrockshire (1603) farw yn 1613, ac mae ei fab yn honni iddo ysgrifennu’r gyfrol hon ar hanes iarllaeth Penfro ‘i gwblhau gwaith ei dad ... er budd ei blant ieuengaf’. Beth bynnag fo’r union gymhelliad, ymddengys i’r nawdd a dderbyniodd o law William Herbert ddyrchafu George Owen o ddinodedd ei gartref yn sir Benfro i ganol bwrlwm y Llys yn Llundain. Yn dilyn ei enwebu i swydd herodrol Rouge Croix pursuivant yn Chwefror 1625, fe’i dyrchafwyd ymhellach i swydd bwysig ‘Herodr Caerefrog’ yn Rhagfyr 1633. Yn y swyddi cyfrifol a dylanwadol hyn, gallai ymarfer ei ddoniau fel hanesydd ac achyddwr, ac ennill arian. Er iddo droi ei gefn ar y Brenin trwy gefnogi plaid y Senedd yn ystod y Rhyfeloedd Cartref, cafodd faddeuant yn Adferiad 1660, gan ymddeol i sir Benfro y flwyddyn ddilynol wedi gyrfa lwyddiannus yn Llundain.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol ei fod yn falch o groesawu i Aberystwyth ‘y testun unigryw hwn, yr enghraifft gyntaf o waith George Owen yr ieuengaf i’w gynrychioli yng nghasgliadau’r Llyfrgell’. Ychwanegodd fod amseriad y pryniant yn bwysig, ‘gan ei fod yn dod a ni’n agos iawn at gymeriadau a diwylliant y llys brenhinol yn Llundain yn hanner cynta’r ail ganrif ar bymtheg, yr union amgylchfyd lle blodeuai Shakespeare a’i gymheiriaid’.

Er bod copi o’r Ail Ffolio (1632) o ddramâu Shakespeare i’w weld yn arddangosfa bresennol y Llyfrgell, Geiriau’r Gyflafan, ni chredir fod copi o’r Ffolio Cyntaf wedi ei ddiogelu yng Nghymru. Er hynny, mae yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gerdd gyfoes unigryw sy’n cyfarch John Heminge a Henry Condell, cyfeillion agos Shakespeare, gan eu canmol am gyflwyno i ddarllenwyr drysor mwy gwerthfawr nag aur Mecsico rhwng cloriau Comedies, Histories, & Tragedies 1623.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodyn i olygyddion

Gellir gweld y gerdd sy’n cyfarch Heminge and Condell yn Llawysgrif Salusbriaid Lleweni
(mae’r gerdd ar dud. 141).

Delweddau

  1. William Herbert, Iarll Penfro, o gyfrol Horatio Walpole, A Catalogue of the Royal and Noble Authors of England, Scotland, and Ireland, cyfr. II (London, 1806).
  2. George Owen, ‘A Catalogue of all the Earles of Penbroke’ (NLW MS 24076B), y llawysgrif sydd newydd ei phrynu.