Mai 14eg, 2015

Ymddiriedolwr newydd yn taflu goleuni ar ddirgelion dogfen hanesyddol


Darganfu hanesydd a phaleograffydd wybodaeth newydd mewn dogfen femrwn werthfawr 700 mlwydd oed, dogfen a grëwyd ar yr 21ain o Fai, 1328, ac sy’n cadarnhau etholiad y Meistr Henry de Gower fel Esgob Tyddewi.

A hithau wedi ei phenodi i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Ionawr, mae ymchwil diweddar gan Dr Susan J. Davies i’r ddogfen femrwn Ladin, - a ysgrifennwyd bron i 700 mlynedd yn ôl ac a brynwyd gan y Llyfrgell yn arwerthiant  Bonhams yn Llundain ym mis Mawrth, - wedi datgelu amgylchiadau etholiad eithriadol Henry de Gower, cymeriad pwysig yn hanes Cymru.

Sefydlodd Gower Ysbyty Dewi Fendigaid yn Abertawe yn 1332, ailadeiladodd sawl rhan o’r Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi, ac adeiladodd y palas esgobol godidog y gellir ei weld yn Nhyddewi heddiw.  

Ar ôl marwolaeth y deilydd blaenorol, yr Esgob David Martin, ym mis Mawrth 1328, roedd ethol Gower, gŵr 50 mlwydd oed, gan Gabidwl y Gadeirlan ar yr 21ain o Ebrill yn enghraifft anghyffredin o Gymro’n cael ei ddyrchafu i esgobaeth yn y cyfnod canoloesol diweddar, gan i ddylanwad brenhinol a phabaidd fel arfer arwain at benodi ymgeiswyr o’r tu allan, gwŷr nad oeddynt yn Gymry.

A hithau wedi’i hysgrifennu mewn llawysgrifen goeth a ffurfiol, sy’n nodweddiadol o’r 14eg ganrif, cadarnha’r ddogfen etholiad y Meistr Henry de Gower fel Esgob Tyddewi ar yr 21ain o Fai, 1328.  Ond dim ond yn awr, yn sgil ymchwil y Dr Davies, y mae’r union amgylchiadau o sut y cafodd ei hysgrifennu wedi dod i’r golwg.  Mae’r darn yn dangos yn eglur y ffordd hynod ofalus roedd yr Eglwys ganoloesol yn sicrhau y cedwid wrth weithdrefnau cywir mewn amgylchiadau anarferol.

Roedd Henry de Gower (1277/9-1347), brodor o Benrhyn Gŵyr, eisoes yn adnabyddus yn esgobaeth Tyddewi cyn iddo gael ei ethol yn esgob.  Roedd yn ysgolhaig eithriadol, a gwasanaethodd fel Canghellor Prifysgol Rhydychen o 1322-5, ac fel Archddiacon Tyddewi, roedd eisoes yn adnabod yr esgobaeth yn dda.

Yn unol â phroses sefydledig bryd hynny, roedd angen i etholiad Gower gan Gabidwl Tyddewi gael ei gadarnhau gan Archesgob Caergaint.  Roedd y cadarnhad ffurfiol hwn yn hanfodol cyn y câi’r esgob newydd ei gysegru yng Nghaergaint a’i orseddu yn ei gadeirlan ei hun.

Gan fod yr archesgob blaenorol wedi marw, nid oedd yna archesgob yng Nghaergaint yng ngwanwyn 1328.  Serch hynny, aeth Gower (fel darpar esgob)  ynghyd â chynrychiolydd swyddogol (proctor) y Cabidwl yn Nhyddewi ati’n gyflym ar y daith faith i Gaergaint lle, fis yn ddiweddarach, cawsant eu derbyn yn ffurfiol gan Brior Cabidwl y Gadeirlan fynachaidd, Henry o Eastry, a allai, drwy drefniant sefydledig, weithredu ‘awdurdod metropolitan’ pan oedd swydd yr archesgob yn wag.

Dywedodd y Dr Davies: “Mae’r ddogfen gadarnhau hon yn cofnodi bod y Prior yn fodlon â’r hyn a ddywedwyd wrtho, sef bod y darpar esgob yn llwyr deilwng, bod y broses o ethol wedi’i chynnal yn gywir ac yn briodol, ac na fynegwyd unrhyw farn i’r gwrthwyneb.  Ar ôl holi rhagor ar y darpar esgob yn bersonol, cadarnhaodd y Prior yr etholiad yn ffurfiol ‘yn ein henw ac yn enw ein Cabidwl gan awdurdod metrowleidyddol ein Heglwys’, ac felly ni adawyd unrhyw amheuaeth ynghylch dilysrwydd ei rôl a’i awdurdod ei hun pan oedd y swydd yn wag.

“Mae ffynonellau eraill yn datgelu bod Gower wedi’i gysegru yng Nghaergaint ar y 12fed o Fehefin gan Stephen Gravesend, Esgob Llundain, a bod yr etholiad wedi’i gadarnhau’n ddiweddarach gan y Pab Ioan XXII ym mis Rhagfyr 1328, ond mae amseriad ei orseddu yn Nhyddewi yn aneglur.”

Gellir gweld beddrod allor a delw o Gower, sydd bellach yn anffodus wedi’u hanffurfio, yn y Gadeirlan yn Nhyddewi.  Yn ystod ei gyfnod ef fel esgob yr ysgrifennwyd Buchedd Dewi Sant gan Ancr Llanddewibrefi yn 1346, ac yr addolai’r bardd Dafydd ap Gwilym yn eglwys Llanbadarn.

Cred y Dr Davies fod y ddogfen hon fwy na thebyg wedi’i chadw gan Briordy Cadeirlan y Drindod Sanctaidd neu Eglwys Crist, Caergaint, ac efallai’i bod wedi’i cholli ar ôl cynnwrf diddymu’r tŷ Benedictaidd hwnnw yn 1540.  Ni wyddys ddim am ei hynt rhwng hynny a’r 21ain ganrif: efallai’i bod wedi’i chadw gan hynafiaethwyr lleol yng Nghaint.

Ymwelodd y Gwir Barchedig Wyn Evans, Esgob Tyddewi, â’r Llyfrgell Genedlaethol i gael golwg ar y ddogfen ar yr 28ain o Ebrill, a mynegodd ei lawenydd fod darn pwysig o dystiolaeth hanesyddol yn ymwneud ag un o’i ragflaenwyr wedi ei ddiogelu.

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Llyfrgell, y Dr Aled Gruffydd Jones: “Mae’r Llyfrgell yn parhau i gasglu cofnodion hanesyddol pwysig ar gyfer y Genedl, fel mae’r pryniant hwn yn tystiolaethu.  Mae goroesiad hynod y ddogfen hon yn tanlinellu prinder truenus o gofnodion cyffelyb o esgobaethau canoloesol Cymru, a’r pwysigrwydd o barhau i fuddsoddi i ddiogelu ein treftadaeth ddogfennol, boed hynny ar femrynau neu mewn fformatau digidol.”

Gellir gweld deunyddiau mynachaidd eraill a oroesodd ddiddymiad y tai crefydd yn arddangosfa Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, rhwng yr 31ain o Ionawr a’r 27ain o Fehefin, 2015.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Lydia Whitfield ar 02920 838 315 neu lwhitfield@effcom.co.uk