YMATEB I GYLLIDEB DDRAFFT LLYWODRAETH CYMRU 2016-2017

Bu i  Lyfrgell Genedlaethol Cymru ymateb heddiw (Dydd Mercher, 9 Rhagfyr 2015) i’r cyhoeddiad ei fod am dderbyn 4.7% o ostyngiad  yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

Meddai Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol:

‘Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cyllideb Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei leihau o 4.7%. Rydym yn sylweddoli  fod gan y Gweinidogion rai penderfyniadau anodd i'w gwneud ac rydym yn cydnabod  bod setliad y gyllideb hon yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth ar ddiwylliant a threftadaeth.  Er mwyn sicrhau na fydd y gostyngiad hwn mewn cyllid yn cael effaith andwyol ar y casgliad cenedlaethol a mynediad, bydd angen i ni sicrhau cyllid ychwanegol o ffynonellau eraill gan gynnwys ymdrechion codi arian.

'Yn barod, rydym wedi ymgymryd â phroses ailstrwythuro corfforaethol helaeth er mwyn canfod  ffyrdd o leihau costau ac i weithredu'n fwy effeithiol ac effeithlon a bydd y broses yn parhau i’r dyfodol. . Mae'n gyfnod heriol i'r Llyfrgell, ond hefyd yn un sy'n cynnig   gyfleoedd newydd  i gynyddu budd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol y mae’r Llyfrgell yn ei gynnig a hynny drwy arloesi a chydweithio '.

'Ar hyn o bryd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio ar strategaethau newydd uchelgeisiol i ehangu ei chyrhaeddiad digidol a chorfforol i gymunedau a sectorau ledled Cymru a thu hwnt.  Bydd buddsoddi mewn technolegau digidol ac adeiladu partneriaethau newydd cyffrous yn y dyfodol yn sicrhau bod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru yn cael ei defnyddio'n llawn gan economi Cymru i ysbrydoli, arloesi a thyfu’.

'Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn croesawu bron i 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn a rhagwelir bod ei hadnoddau digidol yn mynd i gyrraedd un miliwn o ddefnyddwyr eleni.  Mae partneriaeth newydd arloesol gyda Wikimedia DU ers Ionawr 2015, wedi cynyddu effaith ein casgliadau digidol gyda’r delweddau wedi eu gweld ymhell dros 10 miliwn o weithiau ar Wicipedia’.

Mae digwyddiadau ‘Estyn Allan’ ac addysg hefyd yn cael eu cynnal mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chyrff diwylliannol eraill i hybu  adfywiad diwylliannol ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ac ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion.

'Fel llawer o sefydliadau cyhoeddus, mae'r Llyfrgell wedi profi toriadau sylweddol i’w chyllideb yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r rheolwyr a staff wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau nad yw defnyddwyr wedi gweld unrhyw ddirywiad yn y gwasanaeth a’r  ddarpariaeth. Er gwaethaf y toriadau hyn, byddwn yn gweithio'r un mor galed yn y dyfodol er mwyn cynnal gwasanaethau a darpariaeth y Llyfrgell.’

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn gweithredu fel cof y genedl. Mae'n storfa o drysorau a ffeithiau, mae’n lledaenu gwybodaeth, yn lleoliad, yn gyrchfan, ac yn le i gadw'r gorffennol yn ddiogel ac yn cynnig mynediad hawdd i bawb ddefnyddio a chael eu hysbrydoli, yn awr ac yn y dyfodol.

Wedi'i leoli yn Aberystwyth, mae’r Llyfrgell yn chwarae rhan ganolog yn niwylliant a threftadaeth Cymru; fel un o’i sefydliadau cenedlaethol mawr.  Fel un o'r chwe llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Gyfunol  ac Iwerddon, mae casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n  enfawr ac yn amrywiol gyda mynediad am ddim i bawb.  Maent yn cynnwys 950,000 o ffotograffau, 150,000 awr o recordiadau sain, 250,000 awr o ddelweddau symudol, 25,000 o lawysgrifau, 50,000 o weithiau celf, 1,500,000 o fapiau, yn ogystal â 6,000,000 o lyfrau. Mae mwy na 5,000,000 o eitemau unigol o’r casgliadau hyn wedi eu digido ac ar gael yn am ddim ar y rhyngrwyd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i raglen lawn a pharhaus o ddigwyddiadau cyhoeddus sy'n cynnwys arddangosfeydd parhaol a dros dro, o ansawdd uchel gyda gweithgareddau addysgol a chyflwyniadol cysylltiedig.  Mae'r rhain yn hanfodol i genhadaeth LlGC sef dehongli'r casgliadau ac annog cyfranogiad gan ystod eang o gynulleidfaoedd boed ar y safle, mewn lleoliadau allanol neu ar-lein.