Y ‘best-seller’ gwyddonol cyntaf o dan y chwyddwydr mewn arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

DATGANIAD I’R WASG
1-7-2015

Bydd cyfle i ryfeddu at ddoniau’r athrylith Robert Hooke (1635-1703), awdur Micrographia, y llyfr darluniadol cyntaf ar ficrosgopeg a’r ‘best-seller’ gwyddonol cyntaf, mewn arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n agor ar 7 Gorffennaf.

Bydd copi gwreiddiol o Micrographia, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol ym 1665, i’w weld yn ‘Dirgel ffyrdd natur: Robert Hooke a gwyddoniaeth gynnar’, arddangosfa arbennig sy’n nodi 350 o flynyddoedd ers cyhoeddi’r llyfr.

Ystyr Micrographia yw ‘lluniau bychain’ ac yn y llyfr darluniodd Hooke bob math o bryfaid, planhigion a gwrthrychau a welodd trwy ei ficrosgop.  Mae’r lluniau yn syfrdanol o ran eu manylder ac yn cyflwyno byd newydd a fuasai y tu hwnt i ddychymyg y mwyafrif o ddarllenwyr ar y pryd.  

Er mai microsgopeg yw prif bwnc Micrographia, mae’r llyfr yn cynnwys syniadau gwreiddiol Hooke ar nifer o bynciau eraill, megis tarddiad ffosilau a seryddiaeth.  Hooke hefyd oedd y cyntaf i ddefnyddio’r gair ‘cell’ i ddisgrifio strwythur deunydd organig.  

Yn ogystal â chopi caled o’r llyfr, bydd fersiwn ddigidol o Micrographia i’w darllen.  Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys microsgop (c.1700) a thelesgop (c.1680) ar fenthyg o Amgueddfa Hanes Gwyddoniaeth Rhydychen (Museum of the History of Science).

Mae’r bardd amlwg Matthew Francis, sy’n Athro Ysgrifennu Creadigol yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, wedi cyfansoddi cerddi wedi’u hysbrydoli gan ddelweddau Micrographia.  Mae fideo yn yr arddangosfa o Matthew yn darllen detholiad o’r cerddi hynny gyda’r delweddau.

Mae’r arddangosfa yn dwyn ynghyd nifer o lawysgrifau a llyfrau gwyddonol cynnar eraill o blith casgliadau’r Llyfrgell er mwyn bwrw golau ar Chwyldro Gwyddonol yr ail ganrif ar bymtheg, a gyflwynodd y dull gwyddonol newydd o arbrofi ac arsylwi.  

Mae argraffiad cyntaf o waith Galileo, Dialogo . . . sopra i due massimi sistemi del mondo (Florence, 1632) yn un o’r llyfrau hynny.  Mae ‘Deialog ynghylch dwy system fawr y byd’ yn cynnig prawf gwyddonol fod y byd a’r planedau yn troi o gwmpas yr haul ac fe arweiniodd at arestio Galileo gan Chwil-lys (Inquisition) yr Eglwys am heresi.  

Mae cyfraniad nifer o wyddonwyr Cymreig i hanes y Chwyldro Gwyddonol hefyd yn cael ei ddathlu yn yr arddangosfa:

Lewis Morris: Mae copi Morris o De Historia Piscium (1686) - ‘hanes pysgod’ gan John Ray a Francis Willughby – yn cynnwys cyfoeth o nodiadau a lluniau ychwanegol gan Morris.  Maent yn rhoi ei arsylwadau personol ef ac yn cofnodi hanesion gan lygad-dystion am y mathau o bysgod a welid ar arfordir Môn a gogledd Cymru.  Hon yw un o’r llawysgrifau pwysicaf i ddod i’r Llyfrgell yn ddiweddar a bydd fersiwn ddigidol i’w gweld yn yr arddangosfa.

Thomas Pennant: Bydd modd gweld copi personol Pennant o’i lyfr, A History of Quadrupeds (1781), sy’n cynnwys lluniau dyfrlliw gwreiddiol gan yr artist Moses Griffith.  Roedd gan Charles Darwin gopi o’r llyfr ar fwrdd y Beagle pan deithiodd i Dde America.

Robert Recorde: Mae’r Cymro hwn o Sir Benfro yn enwog am ddyfeisio yr hafaliad (=) neu ‘equals sign’.  Mae ei lyfr ar gosmoleg, The Castle of Knowledge (1556), sydd i’w weld yn yr arddangosfa, yn cynnwys un o’r cyfeiriadau cynharaf at System Copernicus, sef y ddamcaniaeth bod y planedau yn cylchdroi o amgylch yr haul.

William Jones: Roedd William Jones yn dod o Ynys Môn ac mae ei lyfr Synopsis palmariorum matheseos... (Llundain, 1706), sydd yn yr arddangosfa, yn cynnwys y defnydd cyntaf mewn print o'r symbol π (pi) i ddynodi’r gymhareb o gylchedd cylch i'w ddiamedr.

Meddai Dr Aled Gruffudd Jones, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Roedd Robert Hooke yn ffigwr dylanwadol dros ben ac ni ellir gorbwysleisio effaith cyhoeddi ei lyfr, Micrographia, ar y byd gwyddonol.  Fe ddatgelodd Micrographia fyd newydd o ryfeddodau a gydiodd yn nychymyg y cyhoedd hefyd.

“Mae’r arddangosfa yn dod â naws arloesol y cyfnod hwnnw yn fyw ac mae’n braf hefyd gallu dathlu cyfraniad nifer o Gymry i ddatblygiadau cyffrous y Chwyldro Gwyddonol.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hannah Thomas ar hannehelinor@googlemail.com neu 07810 794853 neu Lydia Whitfield yn Effective Communications ar LWhitfield@effcom.co.uk neu 07890 953402

Nodiadau’r golygydd:

•    Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli ar Allt Penglais, Aberystwyth.  Mae arwyddion i’r Llyfrgell o’r brif ffyrdd i mewn i’r dref.
•    Mae mynediad i’r Llyfrgell yn rhad ac am ddim.  Mae’r Llyfrgell ar agor Llun-Gwener, 9.30am-6.00pm a rhwng 9.30am-5.00pm ar ddydd Sadwrn.
•    Ganed Robert Hooke ar Ynys Wyth, Lloegr ar 28 Gorffennaf 1635.  Mae mwy o wybodaeth amdano ar gael drwy’r ddolen ganlynol: en.wikipedia.org/wiki/Robert_Hooke