Tywysog Harri, y bachgen wylofus: trysor brenhinol a ddaeth i’r golwg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae un o’r portreadau cynharaf a’r mwyaf hynod o’r tywysog a ddaeth yn Frenin Harri VIII yn ddiweddarach, wedi cael ei ddatgelu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Yn llawn ing, fe bortreadir y tywysog fel bachgen galarus 11 mlwydd oed yn wylo wrth wely angau gwag ei fam.  

Wedi ail-ddehongli’n fanwl y cliwiau mewn llawysgrif a gyflwynwyd yn rhodd i’r Llyfrgell yn 1921 gan y dyngarwyr Miss Gwendoline a Miss Margaret Davies Gregynog, daeth y Llyfrgellydd Llawysgrifau, Dr Maredudd ap Huw, i’r casgliad bod y gyfrol yn drysor a fu ar goll am amser maith o lyfrgell frenhinol y brenin Harri VII.

Meddai Dr Maredudd Ap Huw:
 “Mae’r llawysgrif yn cynnwys darlun wedi’i euro a’i liwio sy’n datgelu cyfrol yn cael ei chyflwyno i frenin.  Yn y cefndir dangosir dwy ferch yn gwisgo penwisgoedd duon, a bachgen ifanc yn wylo wrth erchwyn gwely wedi ei orchuddio â chwrlid du.  Awgryma archwiliadau rhagarweiniol mai’r ffigurau cefndir hyn o bosibl yw’r Dywysoges Margaret, 13 oed (yn ddiweddarach, priod Iago IV o’r Alban), a’r Dywysoges Mari, 7 oed (yn ddiweddarach, priod Louis XII o Ffrainc) a’r Tywysog Harri, 11 oed (yn ddiweddarach, y Brenin Harri VIII), yn fuan ar ôl marwolaeth eu mam ym mis Chwefror 1503.”

Fel pe’n atgyfnerthu’r thema o brofedigaeth, mae’r llawysgrif yn cynnwys dau destun Ffrangeg: sef, La Passion de Nostre Seigneur sy’n gwahodd credinwyr i fyfyrio ar ddioddefiannau Crist yn ystod cyfnod ei ddal, ei ymddangosiad gerbron yr awdurdodau, ei Groeshoeliad a’i Atgyfodiad, a’r Le miroir de la mort gan Georges Chastellain, sef gwahoddiad barddol i fyfyrio ar oferedd pleserau’r byd yn wyneb sicrwydd marwolaeth.

Yn ddiweddarach, bu’r gyfrol gain ei rhwymiad a’i haddurn ym meddiant Y Fonesig Joan Guildford (née Vaux, bu f. 1538). Bu hi’n gwasanaethu’r Frenhines Elisabeth o Gaerefrog a gweithredu fel ‘athrawes breswyl fonheddig’ i’r tywysogesau brenhinol Margaret a Mari Tudur, a arferai ei galw yn ‘Mother Guildford’. Roedd ei thystiolaeth ar natur priodas y Tywysog Arthur a Katherine o Aragon yn rhan o achos y brenin Harri’r VIII am ei ysgariad cyntaf.  Bu gŵr Joan, Syr Richard Guildford a’u mab Syr Henry Guildford yn gwasanaethu fel Goruchwylwyr gweision y Brenin.

Ymddengys fod y llawysgrif bresennol wedi aros yn nwylo teulu’r Fonesig Joan,  sef y teulu Vaux o Harrowden, trwy gydol yr unfed ganrif ar bymtheg ac fe’i cuddiwyd pan ddaeth y teulu hwnnw yn Reciwsantiaid a chefnogwyr Cynllwyn Brad y Powdwr Du.  Maes o law, daeth yn rhan o lyfrgell Syr Kenelm Digby (1603-1665) ac yn ddiweddarach cafodd ei throsglwyddo, trwy olyniaeth, i Gymru ac i’r llyfrgell ym Mheniarth, Meirionnydd cyn cael ei phrynu i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Meddai Andrew Green Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
 “Fel rhan o raglen digido barhaus y Llyfrgell, mae’r darganfyddiad hwn yn dangos pa drysorau sy’n dal heb eu darganfod ymysg casgliadau sefydliadau traddodiadol.  Mae llawysgrifau’n cael eu hail-werthuso gan bob cenhedlaeth newydd ac rwyf wrth fy modd bod cyfle ar gael i’r cyhoedd werthfawrogi’r gwaith celfyddydol hwn drostynt eu hunain ar wefan y Llyfrgell.”

Gwybodaeth Bellach:

Elin Hâf Swyddfa’r Wasg LlGC 01970 632534 post@llgc.org.uk

Cysylltiadau Allanol:

Llyfr Pasiwn y Teulu Vaux, wedi’i ddigido ar y ‘Drych Digidol’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Portread o Syr Henry Guildford gan Hans Holbein yr Ieuengaf, o ddarlun gwreiddiol yn y Casgliad Brenhinol, Windsor