Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn helpu i ddod â thrysor prin canoloesol nôl i’w gartref naturiol

Mae Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn dod yn ôl i Gymru ar ôl i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (Ll GC) wneud cynnig llwyddiannus mewn ocsiwn yn Sotheby’s Llundain, heddiw (10 Gorffennaf 2012) gyda chymorth ariannol oddi wrth Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). 

Cafodd y llawysgrif canoloesol prin o’r 14eg  ganrif gael ei werthu am £541,250 ac mae’n cael ei ystyried yn un o drysorau diwylliant y Cymry ac yn symbol hanfodol o hunaniaeth cenedlaethol.

Y llyfr maint poced hwn, a ysgrifennwyd mewn Cymraeg canoloesol ac sy’n cynnwys addurniadau lliw, yw yn o’r llawysgrifau cynharaf o’i fath i gael ei gynnig mewn arwerthiant a chafodd ei roi ar ocsiwn gan Gymdeithas Hanesyddol Massachusetts oedd yn debygol o fod wedi derbyn y llawysgrif fel anrheg oddi wrth ymfudwyr Cymreig yn gynnar yn y 19eg ganrif.  
Mae Cyfreithiau Hywel Dda yn derm disgrifiadol sydd wedi bodoli am amser maith ac  sy’n cwmpasu’r cyfreithiau Cymreig brodorol a gafodd eu cyfundrefnu yn y 10fed ganrif yn Ne Orllewin Cymru. Gellir gweld y testunau sydd wedi goroesi mewn tua 30 o lawysgrifau yn dyddio o’r  13eg – 16eg ganrif yn y Gymraeg a Lladin. 

Mae’r gyfrol memrwn fechan hon yn enghraifft gynnar iawn o destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac fe fyddai wedi cael ei ddefnyddio gan farnwr crwydrol yn Ne Cymru yn y 14eg ganrif. Mae’n cynnig cipolwg newydd ar ddatblygiad hunaniaeth Cymru a’i bywyd diwylliannol. 

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o lawysgrifau Cymreig canoloesol eraill, mae gan Lawysgrif Boston ychwanegiadau mewn llawysgrifen, gan ddangos iddi gael ei defnyddio fel testun cyfreithiol gweithiol. Mae’n llawer agosach i realaeth a gweithredu’r gyfraith ac mae’n cynnig digon o rychwant ar gyfer ymchwil newydd pwysig.  

Prin iawn yw’r cyfleoedd i brynu llawysgrifau canoloesol Cymraeg, ac fe’u disgrifir gan Sotheby's fel achlysuron sydd ‘bron yn chwedlonol’. Gydag amcangyfrif o werth rhwng  £500,000 a £700,000 gwnaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru gais i GDL am grant caffael llwybr carlam i brynu’r llawysgrif bregus a dod â hi adref i Gymru ar ôl absenoldeb o dros 200 mlynedd.

Dywedodd y Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri:
“Roedd yr ocsiwn yma’n gyfle unigryw i ddod ag un o wir drysorau Cymru adref ac rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithredu’n gyflym a chynnig yr ariannu angenrheidiol i wireddu’r broses.
“Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref naturiol y llawysgrif brin hon a gall arbenigwyr nawr ei hastudio a’i dehongli gan sicrhau ei bod yn cael ei deall yn well am y tro cyntaf. Yn ogystal â darparu cyfleon hyfforddi newydd ar gyfer y staff presennol, mae yna gynlluniau i brentisiaid gael rhan mewn datblygu ymchwil newydd ac ennill sgiliau arbenigol tra’n sicrhau’r darn pwysig hwn o hanes Cymru ar gyfer y dyfodol. Hefyd fe fydd yna gyfleon cyffrous i wirfoddolwyr gymryd rhan yn ystod y prosiect cyfan.”

Bydd grant CDL o £467,000 yn golygu y gall y Llyfrgell wneud gwaith cadwraeth hanfodol, creu copïau ar gyfer arddangosfeydd parhaol a digideiddio’r llawysgrif, fydd yn darparu hygyrchedd digidol byd-eang. Mae cynlluniau ar droed hefyd ar gyfer rhaglen o gyfleon addysg a gwirfoddoli ac arddangosfa deithiol.

Bydd y llawysgrif yn mynd trwy driniaeth llawn yn cynnwys dadrwymo’r tudalennau, gwastatau a glanhau’r tudalennau memrwn sydd wedi colli eu siâp, atgyweirio rhwygiadau, atgyfnerthu llythrennau cyntaf bregus a’i ailrwymo mewn defnydd mwy cydnaws.

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
'Mae’r Llyfrgell yn falch iawn ei bod wedi sicrhau pryniant y llawysgrif hon ac mae’n ddiolchgar iawn i GDL (a chefnogwyr eraill fel Llywodraeth Cymru a Chyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol) am eu cefnogaeth hael. Heb gefnogaeth CDL mae hi bron yn sicr y byddai’r llawysgrif hon wedi cael ei cholli i’r cyhoedd yng Nghymru a’r tu hwnt am genhedlaeth arall.
Bellach mae'r llawysgrif yn ychwanegu darn allweddol at y darlun sydd gennym o'r cyfnod ac o'r pwnc ac fe fydd yn cynnig cyfle, nid yn unig i ysgolheigion, ond i blant a phobl o bob oed i weld y trysor hwn, nid yn unig yn y gwreiddiol yn Aberystwyth ond led led Cymru drwy'r defnydd o'r ffacsimili a ledled y byd drwy'r copi digidol fydd ar y we."

Bydd y llawysgrif ar gael i’w gweld gan y cyhoedd am gyfnod penodol (23 Gorffennaf – 10 Awst) cyn iddi gael ei rhoi yng ngofal gwarchodwyr y Llyfrgell i gael ei hailrwymo a’i digideiddio. Dylai’r broses hon fod wedi chwblhau erbyn diwedd 2012. Bydd y llawysgrif wedyn yn cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ynghyd â llawysgrifau eraill o’r un cyfnod, a bydd y fersiwn ffacsimili a chopïau digidol ar gael yn ehangach.


Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Eryl Jones neu Kate Sullivan ar 02920 764100 neu trwy e-bost eryl@equinoxcommunications.co.uk neu  kate(at)equinoxcommunications.co.uk

Swyddfa'r Wasg LLGC 01970 632902 neu post(at)llgc.org.uk

Am CDL
Trwy ddefnyddio arian a gesglir trwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal ac yn trawsnewid amrywiaeth helaeth o dreftadaeth er mwyn i genedlaethau heddiw a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol i archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau celfyddydol, rydyn ni’n buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol.

Mae CDL wedi cefnogi mwy na 30,000 o brosiectau, gan ddyrannu dros £4.5 biliwn ar draws y DU, yn cynnwys mwy na 2,000 o brosiectau gyda chyfanswm o dros £224 miliwn yng Nghymru. I ddarganfod mwy, ewch i www.hlf.org.uk

Dolenni:
Sgwrs am y llawysgrif rhwng Dei Tomos a'r Dr Sara Elin Roberts ar BBC Radio Cymru

Eitem a ffilm ar wefan newyddion BBC Prydeinig