Yn dilyn Deddf Cymudo'r Degwm yn 1836, lluniwyd mapiau degwm manwl o bob plwyf yn dangos holl diroedd y plwyf. Penodwyd comisiynwyr ar gyfer pob plwyf a fyddai'n asesu faint o ddegwm oedd yn daladwy ar sail faint oedd gwerth y tir.
Y dosraniad neu'r atodlen ysgrifenedig yw'r allwedd i'r map degwm. Mae'r dosraniad yn cyflwyno'r wybodaeth ganlynol:
Mae dros 1,200 o fapiau degwm ynghyd â'r rhestrau pennu perthnasol ar gyfer Cymru gyfan ar gael i'w gweld a'u chwilio ar wefan Lleoedd Cymru y Llyfrgell.
Llungopiau ar silffoedd agored yn Ystafell Ddarllen y De.