Mae cyfrifiad wedi ei gymryd yng Nghymru a Lloegr bob deng mlynedd ers 1801 ag eithrio 1941. Ni chasglwyd manylion personol yn y cyfrifiadau cynnar, dim ond gwybodaeth ystadegol. 1841 oedd y cyfrifiad cyntaf i gynnwys manylion fyddai o ddefnydd i'r achyddwr: enw, oed, cyfeiriad, galwedigaeth ac mewn cyfrifiadau diweddarach man geni ac anabledd. O 1891 gofynnwyd pa iaith siaradwyd - Cymraeg, Saesneg neu'r ddwy.
Copiwyd ffurflenni gwreiddiol bob teulu o 1841 i 1901 gan y cyfrifwyr i lyfrau cyfrifwr, a dyma'r cofnodion cyfrifiad a welir heddiw. Dinistriwyd y ffurflenni gwreiddiol. Ond roedd cyfrifiad 1911 ychydig yn wahanol gan mai dyma'r tro cyntaf i'r ffurflenni gwreiddiol gael eu diogelu a'u rhyddhau.
Ceir nifer o adysgrifau a mynegeion wedi eu creu gan gymdeithasau hanes teuluoedd sirol, dylid chwilio'r Catalog am argaeledd