Symud i'r prif gynnwys

Cychwynnwyd cofrestru sifil, sef cofnod o bob genedigaeth, priodas a marwolaeth yng Nghymru a Lloegr ar 1 Gorffennaf 1837. Mae'r mynegai o gyfenwau yn nhrefn y wyddor mewn pedwar chwarter bob blwyddyn - Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. O'r mynegai dylid cofnodi ardal gofrestru, y chwarter, y flwyddyn, rhif cyfrol a thudalen er mwyn archebu copi o'r dystysgrif.

Dylid gwneud cais am gopi o dystysgrif naill ai i'r Cofrestrydd lleol neu i'r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol yn Southport. Cofiwch NAD yw'r Llyfrgell yn dal nac ychwaith yn rhoi allan gopiau o dystysgrifau.

Mynediad

  • Mynediad yn rhad ac am ddim arlein drwy Findmypast ac Ancestry Library o fewn adeilad y Llyfrgell i fynegeion 1837 hyd 2006
  • Copiau microffis o'r mynegeion o 1837 hyd 1998