Cofnodion yr Eglwys yng Nghymru

Cofrestri Plwyf

Trwy orchymyn Thomas Cromwell yn 1538, gorfodwyd pob plwyf i gadw cofnod o bob bedydd, priodas a chladdedigaeth a weinyddid. Mae'r manylion o fewn y cofrestri'n amrywio o blwyf i blwyf ac o glerc i glerc ond prin iawn yw'r cofrestri sydd wedi goroesi o'r cyfnod cynnar. Bellach mae'r cofrestri gwreiddiol yng ngofal yr Archifdai Sirol. Am ddyddiadau cofrestri plwyf sydd wedi goroesi gweler Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales, gol. C J Williams a J Watts-Williams (Aberystwyth: LLGC, 2000).

Mynediad

  • Dros 500 o blwyfi ar microffilm ar silffoedd agored yn Ystafell Ddarllen y De
  • Mynediad yn rhad ac am ddim drwy Findmypast ac Ancestry Library o fewn y Llyfrgell i holl gofrestri plwyf Cymru.
  • Adysgrifau a mynegeion cofrestri plwyf wedi eu creu gan gymdeithasau hanes teuluoedd sirol, chwilio catalog arlein 

Adysgrifau'r Esgob

O 1598 hyd tua 1860 danfonwyd adysgrifau o gofnodion y cofrestri plwyf at yr esgob ar ddiwedd pob blwyddyn. Prin yw'r adysgrifau cynnar o blwyfi Cymru cyn 1660. Am ddyddiadau adysgrifau'r esgob sydd wedi goroesi, gweler Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales, fel nodwyd yn flaenorol.

Mynediad

  • Plwyfi yn esgobaeth Bangor a Llandaf ar gael ar microffis ar silffoedd agored yn Ystafell Ddarllen y De
  • Adysgrifau gwreiddiol o blwyfi yn esgobaethau llanelwy, Tyddewi, Abertawe ac Aberhonddu gan wneud cais drwy'r catalog arlein 

Ymrwymiadau Priodas

Roedd ymrwymiad priodas yn galluogi rhoi trwydded i briodi heb orfod cyhoeddi gostegion yn yr eglwys ar dri Sul yn olynol cyn y briodas. Mae'r ymrwymiadau yn rhoi manylion diddorol am y ddau oedd yn priodi gan gynnwys enwau, dyddiadau, lleoliad, oed a gwaith y priodfab. Dim ond yr ymrwymiadau ac affidafidion hyd at 1837 sydd wedi mynegeio, ond mae cofnodion yn ymestyn i mewn i'r 20fed ganrif.

Mynediad

  • Cyn 1837 mynegai drwy'r catalog arlein 
  • Ar ôl 1837 dim mynegai ar gael, ond gellir archebu bocs am y flwyddyn berthnasol drwy'r catalog arlein