Cyn i chi ymweld â'r Llyfrgell bydd angen i chi gysylltu â ni i drafod manylion yr ymweliad. Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn gyfrifol am ymweliadau gan ysgolion, grwpiau o fyfyrwyr, colegau, teuluoedd sy'n cyflwyno addysg ffurfiol, a dysgwyr gydol oes.
Anfonwch ebost- addysg@llgc.org.uk
Rhif ffôn: 01970 632913 / 632988 / 632431
Lleolir Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Rhiw Penglais yn Aberystwyth. Ein cyfeiriad post yw: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU. Ceir manylion am sut i gyrraedd y Llyfrgell mewn car, tren neu ar fws ar y dudalen hon. Mae bylchau penodedig ym maes parcio'r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer bysiau, a llefydd parcio cyfleus i'r anabl wrth ochr y Llyfrgell.
Mawr obeithiwn y gwnewch chi fwynhau eich ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r wybodaeth isod ar gyfer grwpiau sy'n ymweld â'r Gwasanaeth Addysg:
Ceir gwybodaeth am hygyrchedd ar y dudalen hon. Os fydd angen cymorth ychwanegol o unrhyw fath ar aelod o'ch grŵp yn ystod eich ymweliad mae'n werth crybwyll hyn wrth drefnu.
Os oes tân yn y Llyfrgell bydd larwm yn canu. Pan glywch y larwm, dylai eich grŵp adael yr adeilad trwy ddilyn yr arwyddion i'r allanfa dân agosaf. Bydd staff y Gwasanaeth Addysg yn esbonio'r drefn dân i chi pan gyrhaeddwch chi'r Llyfrgell.
Os oes angen Cymorth Cyntaf ar unrhyw adeg yn ystod yr ymweliad rhowch wybod i staff y Gwasanaeth Addysg. Cyfrifoldeb yr ysgol yw’r disgyblion yn ystod pob rhan o'r ymweliad, gan gynnwys amser cinio. Gofynnwn yn garedig i athrawon a staff eraill yr ysgol weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol trwy oruchwylio’r plant sydd yn eu gofal ar y safle.
Cofiwch fod ysgolion yn gyfrifol am eu hasesiadau risg eu hunain, ac na allwn ni lenwi, dilysu na llofnodi unrhyw ran o ffurflenni asesu risg ysgolion am mai nid ni sy’n gyfrifol amdanyn nhw.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar agor chwe niwrnod yr wythnos, yn ystod yr oriau canlynol:
I gael gwybod os yw'r Llyfrgell ar agor yn ystod tywydd garw ffoniwch 0800 0325 695. Ceir mwy o wybodaeth am oriau agor ac am unrhyw newidiadau i'n gwasanaethau arferol ar y dudalen hon.