Bob blwyddyn mae miloedd o blant ysgol, myfyrwyr, teuluoedd sy'n dysgu plant adre a dysgwyr gydol oes yn derbyn cyflwyniadau a gweithdai gan y Gwasanaeth Addysg. Oherwydd natur ac amrywiaeth casgliad y Llyfrgell mae'r pynciau sy'n cael eu cyflwyno hefyd yn amrywiol iawn. Gallwn baratoi gweithdy ar unrhyw bwnc dan haul cyn belled â bod adnoddau pwrpasol ar gael yn y Llyfrgell.
Cysylltwch â ni i drafod trefnu gweithdy yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gallwch ddewis hefyd o rai o'r gweithdai parod sydd ar gael i ysgolion.
Gallwn gyflwyno'r gweithdai canlynol heb waith paratoi ychwanegol. Mae'r cyfnodau allweddol a hyd pob gweithdy yn ganllawiau bras, a gallwn addasu cynnwys y sesiynau i ateb eich gofynion chi. Cysylltwch â ni i archebu neu drafod un o'r gweithdai isod, neu i wybod mwy am drefnu gweithdy ar bwnc arall. Mae holl weithdai Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim.
Gweithdy sy'n edrych ar fywydau pobl Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda phwyslais arbennig ar fywydau plant. Defnyddir ffilm, deunyddiau gwreiddiol o'r cyfnod, ac yn arbennig casgliad ffotograffau Geoff Charles wrth gyflwyno'r gweithdy ymarferol a rhyngweithiol hwn. Hyd: 2 awr
Cyfnodau Allweddol 2, 3, a 4.
Dyma gyfle i ddisgyblion ddysgu am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn drwy ddefnyddio deunydd ffilm, ffotgraffau, mapiau, erthyglau papur newydd a ffynonellau gwreiddiol eraill. Bydd y gweithdy'n edrych ar sut aed ati i foddi’r cwm, gwrthwynebiad yn lleol a thu hwnt, ac effeithiau tymor hir Tryweryn ar hanes Cymru. Hyd: 2 awr.
Cyfnodau Allweddol 2, 3, 4, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru.
Gweithdy sy'n rhoi cyflwyniad i hanes y Tuduriaid, eu cysylltiad â Chymru, Diddymu'r Mynachlogydd, y Deddfau Uno, erledigaeth grefyddol a Beibl William Morgan. Bydd y disgyblion yn cael y cyfle i weld a gweithio gydag eitemau gwreiddiol o'r 16eg ganrif yn ystod y gweithdy hwn. Hyd: 2 awr.
Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
Drwy fynychu’r gweithdy hwn bydd eich disgyblion yn cael y cyfle i edrych ar wahanol fathau o bortreadau, sut mae portread yn cael ei greu, a beth allwn ni ddysgu am y cyfnod a’r bobl sydd yn y portread. Mae'n cynnig y cyfle i ddisgyblion weithio gyda phortreadau gwreiddiol o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hyd: 2 awr.
Cyfnodau Allweddol 2, 3, a 4.
Bydd y disgyblion yn dysgu am dwf y mynachlogydd, eu pwysigrwydd yn yr Oesoedd Canol, nawdd y tywysogion Cymreig, pam bod Harri’r VIII wedi penderfynu eu diddymu a beth ddigwyddodd i’w cyfoeth wedyn. Byddwn yn canolbwyntio’n arbennig ar hanes Ystrad Fflur, ac yn cyflwyno eitemau gwreiddiol o'r 15fed a'r 16eg ganrif. Hyd: 2 awr.
Cyfnodau Allweddol 2, 3, 4, Safon Uwch.