Gwasanaeth Addysg

Mae Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu sesiynau ac adnoddau ar gyfer athrawon ac addysgwyr, disgyblion a myfyrwyr, a phobl o bob oedran sydd eisiau dysgu mwy am gasgliadau'r Llyfrgell.

 

Mae holl weithgareddau’r Gwasanaeth Addysg yn rhad ac am ddim ac ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Dilynwch y dolenni i ddysgu mwy am ein gwaith a beth allwn ni gynnig i ddisgyblion, myfyrwyr, addysgwyr, a dysgwyr gydol oes. Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag ymholiadau, cwestiynau neu adborth.

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.