Mae’r casgliad mapiau yn cynnwys dros 1,000,000 o ddalennau o fapiau, siartiau a chynlluniau yn ogystal â miloedd o atlasau.
Gallwch bori drwy fersiynau digidol o ran o gasgliad mapiau anhygoel y Llyfrgell. Rhannwyd y casgliad yn gategorïau gwahanol:
Cedwir dros filiwn o fapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae'r pecyn hwn yn cynnig gorolwg o rai o rannau pwysicaf y casgliad mapiau.
Adnoddau sydd yn defnyddio mapiau a deunyddiau eraill i ddysgu'r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru yng Nghyfnod Allweddol 2,3 a 4.
Mapiau Degwm Cymru: chwiliwch a phorwch dros 300,000 o gofnodion a’r dogfennau pennu sy’n cyd-fynd â nhw gan ddefnyddio mapiau gwreiddiol a chyfoes.
Mae'r adnoddau hyn yn defnyddio mapiau o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf i ddatblygu sgiliau disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wrth drafod pwyntiau'r cwmpawd, graddfa map, ffigurau grid a mesur pellter.
Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o fapiau yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys mapiau sy'n dangos y sefyllfa wleidyddol ar y noson cyn y Rhyfel, mapiau milwrol a sifil yn dangos y newidiadau ar flaen y gad yn ystod y Rhyfel, a mapiau sy'n dangos newidiadau i'r ffiniau cenedlaethol oherwydd y Rhyfel.