Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dal dros 950,000 o ffotograffau sy’n gysylltiedig â Chymru. Mae’r rhain yn amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol o ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth i sawl portffolio gan ymarferwyr cyfoes y gelfyddyd.
22 cerdyn post gan y ffotograffydd W. Benton, yn cofnodi tanchwa drychinebus Glofa'r Universal, Senghennydd, ar ddydd Mawrth, 14 Hydref 1913 pan laddwyd 439 o weithwyr.
Tir a phobl Cymru trwy gamera John Thomas (1838-1905), Lerpwl.
Yma gwelwch fersiynau digidol o beth o gasgliad ffotograffig y Llyfrgell.