Symud i'r prif gynnwys

Am Cylchgronau Cymru

Mae gwefan Cylchgronau Cymru yn cynnig mynediad am ddim i dros 450 o gylchgronau Cymreig a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2006, o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Maent yn cynnwys rhediadau cyflawn o gylchgronau yn ogystal â daliadau bylchog. Ceir hefyd rediadau cyflawn o ddetholiad o ryw 50 cylchgrawn o'r 20fed ganrif.

Amrywia'r cynnwys o gyhoeddiadau ysgolheigaidd a gwyddonol i gylchgronau crefyddol, cerddorol, llenyddol a phoblogaidd. Gall defnyddwyr weld delweddau o dudalennau'r cylchgronau, ac hefyd ymgymryd â chwliadau testun llawn arnynt trwy ddefnyddio technoleg Adnabod Nodau'n Optegol (ANO).

Ymgymerodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru â’r gwaith o ddigido'r cylchgronau hyn a'u cyflwyno ar y we gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, JISC, Europeana, WHELF a chydweithrediad parod cyhoeddwyr ac awduron. Roedd hefyd tîm o arbenigwyr llyfryddol ac academaidd yn gefn i'r gwaith.

Er bod y mwyafrif o gynnwys y cylchgronau ar gael i ddefnyddwyr dylid nodi nad oes modd arddangos rhai tudalennau neu rannau o dudalennau am resymau hawlfraint.

Cynnwys

Mae'r wefan yn cynnig mynediad at dros 450 o gylchgronau Cymraeg a Chymreig. Cyhoeddwyd y cylchgrawn cynharaf, 'Tlysau yr hen oesoedd', yn 1735 tra bod rhifynnau diweddaraf rhai cylchgronau yn dyddio o ddechrau'r 21ain ganrif. Perthyn y mwyafrif llethol o'r cyhoeddiadau i'r 19eg ganrif, oes aur cylchgronau Cymru.

Mae gwefan newydd Cylchgronau Cymru yn dwyn ynghyd cynnwys tair hen wefan cylchgronau'r Llyfrgell, yn ogystal â darparu mynediad i gannoedd o gylchgronau nad oeddynt ar gael cynt.

Pwrpas

Ymgymerodd y Llyfrgell Genedlaethol a'i phartneriaid â'r gwaith hwn o ddigido ei daliadau o gylchgronau er mwyn agor ein casgliadau i ddefnyddwyr o bell, a manteisio ar y technolegau diweddaraf i ehangu'r math o fynediad a defnydd a wnaed o'r casgliad. Y gobaith yw y bydd y dulliau newydd hyn yn galluogi ymchwilwyr o bob math i ddarganfod pethau newydd a darganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio'r cynnwys sydd yn cael ei ryddhau. Mae'r Llyfrgell wedi bod yn gartref i ymchwilwyr ar hyd y blynyddoedd a'r her bellach yw darparu gwasanaethau sy'n addas i genhedlaeth newydd.

Partneriaid

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1907 i gasglu, cadw a rhoi mynediad i wybodaeth gofnodedig o bob math a ffurf, yn enwedig gwybodaeth yn ymwneud â Chymru. Mae’n dal y casgliad mwyaf yn y byd o gylchgronau’n ymwneud â Chymru ochr yn ochr â deunydd printiedig arall, archifau, gweithiau celf ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Cartref y Llyfrgell yw Aberystwyth.

  • Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni amrywiol swyddogaethau ar gyfer pobl Cymru a hi yw prif ffynhonnell cyllid Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cafwyd grant ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi project Cylchgronau Cymru Arlein a buddsoddiad sylweddol o'r Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Strategol ar gyfer y rhan o'r project yn ymwneud â chylchgronau'r 18fed a 19eg ganrif.

  • JISC

Mae JISC yn cefnogi addysg bellach ac uwch, ac ymchwil yn y DU trwy ddarparu arweiniad yn y defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu er cynorthwyo dysgu, addysgu, ymchwil a gweinyddu. Mae JISC yn derbyn cyllid oddi wrth holl gynghorau cyllido addysg bellach ac uwch y DU. Cefnogodd prosiect Cylchgronau Cymru Arlein trwy ei Raglen Ddigido.

  • Europeana

Europeana yw llwyfan digidol yr UE ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol, sy’n casglu a chynnig mynediad arlein i filiynau o eitemau wedi eu digido o lyfrgelloedd, archifau, casgliadau clywedol ac amgueddfeydd ar draws Ewrop. Derbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol fuddsoddiad sylweddol oddi wrth Europeana er mwyn digido a rhoi mynediad i’w chylchgronau o’r 18fed a 19eg ganrif.

  • WHELF

Mae Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) yn hybu cydweithrediad ac yn hwyluso mentergarwch mewn gwasanaethau llyfrgell ar gyfer addysg uwch yng Nghymru. Mae ei gyrff cysylltiedig a’u staff wedi cefnogi prosiect Cylchgronau Cymru arlein trwy gynnig cyngor, llenwi bylchau mewn rhediadau o gylchgronau, a sicrhau bod eu defnyddwyr yn ymwybodol o’r adnodd.

Gwybodaeth am Hawlfraint

Mae digido a chyflwyno ar y we yn golygu 'ailgyhoeddi', felly mae angen caniatâd deiliaid yr hawlfraint, oni bai bod yr hawlfraint wedi dirwyn i ben. Mae'r Llyfrgell wedi gofyn i gyhoeddwyr cylchgronau’r ugeinfed ganrif i gysylltu â'u deiliaid hawlfraint i gael eu caniatâd, ond ni fydd modd dod o hyd i bob un. Mae'r cyhoeddwyr hefyd wedi cynnwys hysbysiad am y prosiect mewn rhifynnau diweddar, gan obeithio cyrraedd y deiliaid hawlfraint.

Ceir gwybodaeth am statws hawlfraint a phriodoledd deunydd penodol sydd ar y wefan hon yn y golofn ‘Mwy o wybodaeth’ wrth ddarllen cylchgrawn.

  • Gwneud cais i dynnu deunydd oddi ar y wefan

Os oes gennych hawl dros waith sy'n cael ei arddangos ar y wefan ac yn gwrthwynebu’r defnydd a wneir ohono, gallwch wneud cais i’w dynnu oddi ar y wefan drwy ysgrifennu at takedown@llgc.org.uk Bydd eich cais yn cael ei brosesu yn unol â’n Polisi Hysbysu a Chymryd i Lawr. Os ydych yn gwybod am unrhyw achosion ble nad yw'r deiliaid hawlfraint wedi eu cydnabod yn gywir rhowch wybod i ni drwy ein Gwasanaeth Ymholiadau, os gwelwch yn dda, fel y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol.

  • Ailddefnyddio cynnwys y wefan

Gellir gwneud copi unrhyw erthygl o'r wefan hon sydd mewn hawlfraint ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil at bwrpas anfasnachol.

Mae nifer o’r erthyglau hynny wedi eu trwyddedu i'w hail-ddefnyddio dan delerau ac amodau penodol.

Ceir rhestr isod o'r cyhoeddiadau, wedi eu trefnu yn ôl y telerau a'r amodau sy'n berthnasol iddynt. Mae hefyd grynodeb o'r defnydd a ganiateir ar waelod prif dudalen pob cyhoeddiad.

Sylwch os gwelwch yn dda fod rhai cyhoeddiadau yn cynnwys erthyglau sydd o dan Hawlfraint y Goron. Gellir defnyddio’r rhain mewn gwefannau, dogfennau neu adnoddau addysgu at bwrpasau addysgol ac anfasnachol. Ceir rhestr lawn o'r erthyglau dan sylw isod.

Deunydd Hawlfraint y Goron

Gwarchodir yr erthyglau a'r eitemau canlynol gan Hawlfraint y Goron ac ni chaniateir eu hailddefnyddio heb ganiatâd gan OPSI (Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus). Mae'r cylchgronau a ganlyn yn cynnwys deunydd Hawlfraint y Goron:

  • Archaeologia Cambrensis
  • Brycheiniog
  • Bulletin of the Board of Celtic Studies
  • Ceredigion
  • Flintshire Historical Society Journal
  • Flintshire Historical Society Publications,
  • Gower
  • Journal of the Pembrokeshire Historical Society
  • Montgomeryshire Collections
  • Morgannwg
  • Radnorshire Society Transactions
  • Welsh History Review

Archaeologia Cambrensis

  • Douglas B. Hague: Capel Newydd, Llangian (Caern.). Vol. 105 (1956), p. 142-144, unnumbered.
  • Douglas B. Hague: Maesyronnen Independent Chapel, Glasbury (Radn.). Vol. 105 (1956), p. 144, unnumbered, 145-147.
  • Peter Smith: Coldbrook House.Vol. 106 (1957), p. 64-71.
  • Douglas B. Hague: Ty Draw : a fourteenth-century cruck-hall. Vol. 107 (1958), p. 109-120, unnumbered
  • Peter Smith: A Welsh inscription in Hampshire.Vol. 107 (1958), p. 125.
  • Peter Smith: Ynysymaengwyn, Merioneth.Vol. 109 (1960), p. 173-179.
  • Douglas B. Hague: A small bronze pestle found on Mynydd Dolgoed, Merioneth. Vol. 109 (1960), p. unnumbered, 181.
  • C. J. Spurgeon: An early Christian stone from Carno (Mont.) Vol. 110 (1961), p. 155-156, unnumbered.
  • C. J. Spurgeon: Two Pembrokeshire earthworks. Vol. 112 (1963), p. 154-158.
  • C. J. Spurgeon: The mottes in the Vale of Montgomery. Vol. 114 (1965), p. 69-86.
  • C. H. Houlder: Dinorben. A hill-fort occupied in early iron age and Roman times, by Willoughby Gardner and H.N. Savory : Book review. Vol. 114 (1965), p. 189-191.
  • C. J. Spurgeon: Regional archaeologies - north Wales, by Katherine Watson : Book review. Vol. 114 (1965), p. 191.
  • Douglas B. Hague: Excavations at Sycharth Castle, Denbighshire, 1962-63. Vol. 115 (1966), p. 108-127.
  • Peter Smith: Medieval cruck-building and its derivatives, by F.W.B. Charles : Book review.Vol. 116 (1967), p. 221-222.
  • Harry Brooksby: A twelfth-century relic of Abbey Cwm-hir?Vol. 119 (1970), p. 132-133.
  • Douglas B. Hague: Mines, mills and furnaces: An introduction to industrial archaeology in Wales, by D. Morgan Rees : Book review. Vol. 119 (1970), p. 137.
  • Peter Smith: Illustrated handbook of vernacular architecture, by R.W. Brunskill : Book review.Vol. 121 (1972), p. 124-125.
  • Stephen Briggs: Two Breconshire rood loft illustrations. Vol. 123 (1974), p. 180-181.
  • Stephen Briggs: A prehistoric complex on Cefn Gwernffrwd, Carmarthenshire. Vol. 124 (1975), p. 111-113.
  • Stephen Briggs: Ireland in prehistory, by Michael Herity and George Eogan : Book review. Vol. 126 (1977), p. 154-156.
  • C. J. Spurgeon: Castles, town defences, and artillery fortifications in Britain: a bibliography, 1945-74, by J.R. Kenyon :Book review. Vol. 127 (1978), p. 141-142.
  • Peter Smith: The architectural personality of the British Isles : Presidential address delivered at the one hundred an twenty-sixth annual summer meeting at Bangor, 1979.Vol. 129 (1980), p. 1-36, unnumbered.
  • Peter Smith: C.E.V. Owen (1901-1981). Vol. 130 (1981), p. 151-152.
  • Peter Smith: The vernacular architecture of Brittany, by Gwyn I. Meirion-Jones :Book review.Vol. 133 (1984), p. 160-162.
  • Peter Smith: Das Deutsche Bauernhaus, by Karl Baumgarten :Book review.Vol. 133 (1984), p. 163-165.
  • Douglas B. Hague: Cardiganshire silver and the Aberystwyth mint in peace and war, by George C. Boon :Book review. Vol. 134 (1985), p. 253-254.
  • Richard Suggett: A bibliography of the history of Wales, compiled by Philip Henry Jones: Book review. Vol. 140 (1991), p. 167-169.
  • Richard Suggett: Historic Carmarthenshire homes and their families, by Francis Jones: Book review. Vol. 140 (1991), p. 173-174.
  • Toby Driver: St. Lythans chambered tomb, south Glamorgan. Vol. 141 (1992), p. 181-182.
  • Stephen Briggs: The late bronze age hoard from Allt Gelli Felen, Myddfai, Carmarthenshire, and other recent finds of South Welsh axes. Vol. 144 (1995), p. 37-51.
  • Stephen Briggs: A neolithic and early bronze age settlement and burial complex at Llanilar, Ceredigion. Archaeologia Cambrensis, Vol. 146 (1997), p. 13-59.
  • C.J. Spurgeon, D.J. Roberts & Howard J. Thomas: Salt House, Port Eynon : a sixteenth-century saltworks in Gower. Vol. 146 (1997), p. 117-126.
  • C.J. Spurgeon and Howard J. Thomas: Marsh House, East Aberthaw : a seventeenth-century fortified tobacco store in Glamorgan. Vol. 146 (1997), p. 127-137.
  • C.J. Spurgeon and Howard J. Thomas: Caerphilly Castle : the Civil War redoubt. Vol. 147 (1998), p. 181-193.
  • C. J. Spurgeon: Ludlow Castle. Its history and buildings, edited by Ron Shoesmith and Andy Johnson. Swansea Castle, by Bernard Morris : Book review. Vol. 147 (1998), p. 255-258.
  • C. J. Spurgeon: Hen Domen, Montgomery : a timber castle on the English-Welsh border : a final report, by Robert Higham and Philip Barker, et. al : Book review. Vol. 148 (1999), p. 235-238.
  • Stephen Hughes: Thomas Thomas, 1817-88: the first national architect of Wales. Vol. 152 (2003), p. 69-166.

Brycheiniog

  • C. J. Spurgeon: Builth Castle. Vol. 18 (1978/79), p. 47-59.

Bulletin of the Board of Celtic Studies

  • Stephen Briggs: A middle bronze age palstave from near Llanidloes., Vol. 27, Pt. 2 (May 1977), p. 327.
  • H. J. Thomas: Excavations of burnt mounds at Carne, nr. Fishguard, 1979 and 1981 /Vol. 33 (1986), p. 245-265.

Cambria

  • C. H. Houlder: Man in the Welsh Quaternary /Vol. 4, no. 1 (1977), p. 98-104.

Ceredigion

  • Bob Owen: Ymfudo o Sir Aberteifi i Unol Daleithau America o 1654 hyd 1860. Vol. 2, no. 4 (1955), p. 234, Plan of Brogynin.
  • C. H. Houlder: The excavation of a barrow in Cardiganshire. Vol. 3, no. 1 (1956), p. 11-23.
  • C. H. Houlder: Recent excavations in old Aberystwyth /Vol. 3, no. 2 (1957), p. 114-117.
  • C. H. Houlder: The excavations of a barrow in Cardiganshire. Vol. 3, no. 2 (1957), p. 118-123.
  • L.A.S. Butler: The excavation of a long hut near Bwlch yr Hendre. Vol. 4, no. 4 (1963), p. 404, The upper Rheidol Valley.
  • D. Morgan Rees: Industrial archaeology in Cardiganshire. Vol. 5, no. 2 (1965), p. 117 Map shewing the Llywernog Watercourses.
  • Ieuan T. Hughes: Lwm Bwa. Vol. 5, no.4 (1967), p. 433, Lwm Bwa.
  • C. H. Houlder: The Aberystwyth Archaeological section / Vol. 5, no. 4 (1967), p. 434-438.<
  • H. J. Thomas: Excavations at Princess Street, Aberystwyth. Vol. 6, no. 4 (1971), p. 438.
  • D.K. Leighton and D.M. Metcalfe: A cairn cemetery on Esgair Gerwyn Ceredigion. Vol. 8, no. 3 (1978), p. 360-362
  • C.S. Briggs: A plano-convex knife from Craig y Pistyll. Vol. 8, no. 4 (1979), p. 478
  • K.J. Cooper: Rhydir Uchaf. Vol. 9, no. 3 (1982), p. 247 Conjectural diagram and ground plan of Rhydhir uchaf before the eighteenth century rebuilding.
  • C.S. Briggs: Historical notes on the study of Megalithic and Bronze Age sites and finds from Ceredigion. Vol. 9, no. 3 (1982), p. 264-280
  • John Thomas: Saint David's College, Lampeter. Vol. 10, no. 1 (1984), p. 67. Alms-houses at Ewelme, Oxfordshire (after 1437) ; interior of quad.
  • A.J. Parkinson: Wheat, peat and lead. Vol. 10, no. 2 (1985), p. 111-130
  • C. J. Spurgeon: The castle in England and Wales: an interpretative history, D. J. Cathcart King : Book review. Vol. 11, no. 1 (1988/89), p. 87-88.
  • Stephen Briggs: A review of the archaeological potential of the Hafod landscape. Vol. 11 no. 2 (1990), p. 191-210.
  • Richard Suggett: Ty John Morgan and its roof : the medieval king-post in Cardiganshire. Vol. 11 no. 2 (1992), p. 425-432.
  • J.L. Davies and T.G. Driver: The discovery of a Roman coin hoard at Salem, Trefeurig, Aberystwyth. Vol. 13, no. 3 (1999), p. 1-4
  • Richard Suggett: The place-names of Cardiganshire, by Iwan Wmffre: Book rveiew. Vol. 15 no. 2 (2006), p. 123-126.

Flintshire Historical Society Journal

  • Stephen Briggs: Captain William Latham, topographical artist in Flintshire, 1816-25.Flintshire Historical Society Journal, Vol. 28, (1977/1978), p. 63-69.
  • Peter Smith: Myrddyn Bevan-Evans, M.A., F.S.A.Vol. 29, (1979/1980), p. unnumbered, 1-2.

Flintshire Historical Society Publications

  • C. H. Houlder: Rescue excavations at Moel Hiraddug :I.-Excavations in 1954-55. Vol. 19, (1961), p. 1-20.

Gower

  • Douglas B. Hague: Notes on Swansea Castle. Vol. 10 (1957), p. 3-9.
  • Douglas B. Hague: Burry Holms excavation 1965-1966. Vol. 17 (1966), p. 34-41.
  • Douglas B. Hague: Whiteford Point Lighthouse. Vol. 23 (1972), p. 44-46.
  • David Leighton: Some aspects of life and economy in medieval Pennard: the evidence of a fourteenth-century manor court roll. Vol. 55 (2004), p. 29-47.

Journal of the Pembrokeshire Historical Society

  • Tomb Effigy reputed to be that of the Lord Rhys at St. David's Cathedral: Vol. 8, (1998\1999), p. front cover.
  • Roger Turvey: The death and burial of an excommunicate prince : : the Lord Rhys and the Cathedral Church of St. David's: Vol. 8, (1998\1999), p. 5.
  • Roger Turvey: The death and burial of an excommunicate prince : : the Lord Rhys and the Cathedral Church of St. David's: Vol. 8, (1998\1999), p. 10.
  • Mark W. Merrony: Richard Fenton's 'Roman villa' at Ford revisited: Vol. 13, (2004), p 12.

Montgomeryshire Collections

  • Douglas B. Hague: Pontysgawryd, Montgomeryshire. Vol. 54. (1955-1956), p. 65-70.
  • Douglas B. Hague: Additional notes on Pontysgawryd, Meifod. Vol. 54, (1955-1956), p. 160-162.
  • Douglas B. Hague: The Old Pack-Horse Inn Welshpool. Vol. 55, Part 2 (1958), p. 125-127.
  • C. J. Spurgeon: The castles of Montgomeryshire. Vol. 59, Parts 1/2 (1966-6), p. 1-59.
  • C. J. Spurgeon: Gwyddgrug Castle (Forden) and the Gorddwr dispute in the thirteenth century. Vol. 57, Part 2 (1962), p. 125-136.
  • Richard Suggett: Ty-mawr in context. Vol. 89 (2001), p. 219-228.

Morgannwg

  • H. J. Thomas: The old parish church of St. Nicholas, Barry, Glamorgan. Vol. 121 (1972), p. 108-110.
  • Harry Brooksby: Archaeological notes. Vol. 17 (1973), p. 59-60; p. 62-64.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes.Vol. 17 (1973), p. 64-65.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes.Vol. 21 (1977), p. 92-95; p. 99-100.
  • C. J. Spurgeon and H. J. Thomas: Medieval Glamorgan: an interim report on recent fieldwork. Vol. 22 (1978), p. 14-41.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes :Barry, St. Nicholas Churchyard (ST 1045 6696) /Vol. 27 (1983), p. 66-69.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes : Penmark, Greencliffe (ST 0811 6862) /Vol. 27 (1983), p. 74-77.
  • H. J. Thomas: Archaeological Notes:Coldknap, Barry (ST. 1035 6634) /Vol. 32 (1988), p. 91.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes :Eglwysnynnid farmhouse, Margam (SS 8031 8474 /Vol. 32 (1988), p. 93.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes: old harbour, Barry (ST 1071 6684) /Vol. 33 (1989), p. 72-73.
  • H. J. Thomas: Archaeological Notes : St Cadoc's church, Cadoxton-Juxta-Barry (ST1300 6935)Vol. 33 (1989), p. 73-74.
  • H. J. Thomas: Archaeological Notes : Llanfyrnach church (SS9794 7460)Vol. 33 (1989), p. 74.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes: Margam, West Glamorgan (SS 802 865) /Vol. 34 (1990), p. 94.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes: St Nicholas's Church, Barry, South Glamorgan (ST 1045 6694) /Vol. 35 (1991), p. 89-90.
  • H. J. Thomas: Archaeological Notes : Cole farm, Coldknap, Barry, south Glamorgan (ST 1032 6635)Vol. 35 (1991), p. 92-93.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes : Crynant chapel, West Glamorgan (SN 794 047) /Vol. 38 (1994), p. 122-123.
  • H. J. Thomas: Archaeological Notes : Cwmcidy sawmills, Porthkerry park, south Glamorgan (ST 094 675)Vol. 38 (1994), p. 126.
  • H. J. Thomas: Archaeological notes: Treguff House, Llancarfan, South Glamorgan /Vol. 39 (1995), p. 74-75.
  • Hilary M. Thomas: Llanmihangel, near Cowbridge : A tale of family fortunes and misfortunes: The first floor hall. Vol. 41 (1997), p. 12.
  • Harry Brooksby: Old Gower farmhouse and their families, by Bernard Morris :Book review. Vol. 42 (1998), p. 95-98.
  • Ralph A. Griffiths: Owain Glyndwr and the siege of Coity Castle, 1404-1405. Vol. 45 (2001), p. 13; p. 18; p. 24.
  • R.O. Roberts: The early zinc works at Casllwchwr (Loughor) near Swansea. Vol. 48 (2004), p. 7; p. 24.

Radnorshire Society Transactions

  • C. J. Spurgeon: Letters. Vol. 34 (1964), p. 64-65.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 38 (1968), p. 8-25.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 39 (1969), p. 48-67.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 40 (1970), p. 29-39.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 41 (1971), p. 22-54.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 42 (1972), p. 39-54.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 43 (1973), p. 64-78.
  • Harry Brooksby: The houses of Radnorshire. Vol. 48 (1978), p. 20-26.
  • Harry Brooksby: Llanddewi Hall. Vol. 50 (1980), p. 68-72.
  • David Percival: The boundary of the medieval grange of Dolhelfa. Vol. 63 (1993), p. 42-44, unnumbered.

Welsh History Review

  • Peter Smith: Farmhouses and cottages : Book review.Vol. 2, no. 3 (1965), p. 296-298.
  • Richard Suggett: Romilly’s visits to Wales, 1827-1854, by M. G. M. Morris : Book review. Vol. 19 no 4 (Dec. 1999), p. 760-862.
  • Stephen Hughes: Tarmac Papers: the archive and history initiative of tarmac, heavy buildings materials, volume II, by Revd Roy Fenn : Book review. Vol. 20, no. 3 (June 2001), p. 606-606.
  • Toby Driver: The Welsh border. Archaeology, history and landscape, by Trevor Rowley : : Book review. : Vol. 21, no. 3 (June 2003), p. 582-584.
  • Brian Malaws: A maritime fortress: the collections of the Wynnfamily at Belan fort, c. 1750-1950, by Michael Stammers : Book review, Vol. 21, no. 3 (June 2003), p. 600-601.