Prosiect Cynefin

Cynhaliwyd prosiect Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru ‘Cynefin: Mapio Cymru: Ymdeimlad o Le’ rhwng 2014 a 2017. Yn ystod y prosiect cafodd mwy na 1,100 o fapiau degwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru eu trwsio a’u digido a thrwy gymorth ar-lein gan wirfoddolwyr trawsgrifiwyd tua 27,000 o gofnodion o fapiau degwm Cymru a’r dogfennau pennu sy’n cyd-fynd â nhw, gan eu cysylltu â rhifau caeau perthnasol ar y mapiau.

Cafwyd cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda chymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau mewn da gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru.

Fel rhan o’r prosiect Cynefin cyffredinol, goruchwyliwyd chwe phrosiect llai gan swyddfeydd archifau lleol drwy Gymru, gyda phob prosiect yn edrych ar agwedd o’r mapiau degwm oedd yn apelio atynt gan weithio gyda’u cymuned leol. Cynlluniwyd y prosiectau mewn ffordd oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr o wahanol gefndiroedd ac oed, yn amrywio o wyth i wyth deg oed.

Dyma grynodebau byr y chwe phrosiect Cynefin lleol.

Mae tref bresennol Penmaenmawr yn perthyn i’r cyfnod ar ôl dyfodiad y rheilffordd a defnyddiodd y prosiect lleol hwn fap degwm Dwygyfylchi a ffynonellau sylfaenol ac eilaidd eraill i lunio hanes economi a thirwedd y plwyf cyn i’r rheilffordd gyrraedd yn 1849.

Cynhaliwyd y prosiect gydag aelodau Grŵp Hanes ac Amgueddfa Penmaenmawr, a rhyngddynt, mae ganddynt wybodaeth helaeth am hanes y plwyf, ac maent yn awyddus i’w rhannu. Cynhaliwyd y prosiect yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg er mwyn cynnwys newydd-ddyfodiaid brwdfrydig i’r ardal.

O ganlyniad i’r prosiect, paratowyd llyfryn, taflen ‘taith hanesyddol’, sesiynau grŵp a gweithdai, yn cynnwys ymweliadau ag Archifdy Conwy a Sir Ddinbych, ymweliadau ag ysgolion a gweithdai gydag ysgolion lleol Ysgol Pencae ac Ysgol Capelulo a gynhaliwyd ar y cyd gan y grŵp a’r Swyddog Prosiect, taith dywys a digwyddiad i gloi’r prosiect i lansio gwefan newydd Lleoedd Cymru.

Mae ardal Hiraethog yng Nghonwy yn wledig iawn ac wedi’i nodweddu gan aneddiadau bach mewn ardaloedd o rostir, tir amaethyddol a choedwigoedd. Cymraeg sy’n cael ei siarad yn bennaf yma a chynhaliwyd y prosiect yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Arweiniwyd y prosiect gan Gymdeithas Hanes Bro Hiraethog a Grŵp Archifau Bro Aled. Defnyddiodd y gwirfoddolwyr y mapiau degwm a ddigidwyd i ddarganfod mwy am eu pentref, eu tai a’u hynafiaid. Cymharwyd caeau 1840 â rhai heddiw a chynhaliwyd cyfweliadau gyda phobl leol i gofnodi eu hatgofion. Defnyddiwyd rhai o’r rhain yn ddiweddarach yn nhestun y llyfryn.

O ganlyniad i’r prosiect cynhyrchwyd llyfryn dwyieithog a thaflen deithiau, sesiynau grŵp gyda’r Swyddog Prosiect, taith dywys a digwyddiad i gloi’r prosiect a ddenodd nifer o bobl.

Ceredigion, hanes a chwrw

Mae ‘Peint o Hanes Plîs!’ yn brosiect am fapiau degwm a thafarndai dan arweiniad Fforwm Hanes Lleol Ceredigion, ac yn sgil brwdfrydedd mawr gwirfoddolwyr y prosiect, mae wedi parhau ar ôl i brosiect Cynefin ddod i ben.

Mae’r prosiect wedi cofnodi gwybodaeth am dafarndai yng Ngheredigion. Hen dafarndai, tafarndai newydd, gwestai, ystafelloedd aros mewn gorsafoedd rheilffordd a bragdai. Ac i sicrhau cydbwysedd, ambell westy Dirwestol a thŷ coco. Mae gwefan y prosiect a’r gronfa ddata ar-lein yn cynnwys manylion bron i 1,000 o dafarndai a safleoedd eraill sydd wedi bodoli yn y sir dros y blynyddoedd.

Cymerodd ‘Archwilio Coetir Hynafol Gŵyr’ fapiau degwm fel man cychwyn ar gyfer cyfres o arolygon coetiroedd hynafol ar benrhyn Gŵyr. Cynhaliodd gwirfoddolwyr o wahanol sefydliadau amgylcheddol arolygon o rywogaethau dangosyddion coetiroedd hynafol mewn ardaloedd o goetir a oedd wedi’u nodi ar y map degwm, gan gadarnhau drwy gofnodi’r fflora, statws hynafol y coetiroedd a mesur eu bioamrywiaeth gymharol.

O ganlyniad i’r prosiect, yn ogystal â data'r arolygon, cynhyrchwyd taflen yn disgrifio chwe thaith gerdded yng nghoetiroedd hynafol Gŵyr a beth i chwilio amdano, a phecyn athrawon gydag adnoddau ar-lein cysylltiedig i helpu athrawon ysgolion cynradd i drefnu gweithgareddau mewn coetir. Lansiwyd y daflen a’r pecyn athrawon yn ystafell ddosbarth y goedwig yng ngwarchodfa natur Coed yr Esgob ar ddiwrnod mwdlyd a gwlyb iawn o wanwyn gyda phlant o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, Abertawe.

Roedd ‘I fyny a throsodd’ yn brosiect mewn dau Gwm i’r gogledd i Ben-y-bont ar Ogwr (Garw a Llynfi) ac fe’i cynhaliwyd gan Gelfyddydau Cymuned Cwm a Bro. Nod y prosiect oedd ail-greu harddwch a hanes archifau, atgofion personol ac ar y cyd drwy gyfrwng tecstilau, gan ddefnyddio mapiau degwm a mapiau hanesyddol eraill fel ysbrydoliaeth mewn dau frodwaith a grëwyd gan grwpiau lleol.

Roedd y tecstilau, ymysg eraill, yn cynnwys ffotograffau gyda llinellau pwythau a lliw wedi’u hychwanegu gan y gwirfoddolwyr. Crëwyd darnau unigol yn cynnwys adegau pwysig yn eu bywydau, fel achlysuron teuluol a chwaraeon, siwrneiau bob dydd yn ôl a blaen i’r ysgol a’r gwaith, neu deithiau ysbrydoledig gyda hoff olygfeydd. Hefyd cafodd tirnodau hanesyddol a phobl o’r cymunedau y credai’r grwpiau yr oedd angen eu crybwyll eu cynnwys hefyd.

Creodd y prosiect bartneriaethau cymunedol newydd drwy’r gweithiau celf hyn trwy gysylltu’r ddau ddarn, a Chwm Garw a Llynfi, gan fod cysylltiad wedi bod rhyngddynt erioed, trwy lwybrau dros y mynydd cyn i’r mapiau degwm hyn gael eu creu.

Roedd y cyfnod pan oedd y mapiau degwm yn cael eu paratoi yn gyfnod cyffrous iawn yn hanes Cymru, yn cynnwys Protest y Siartwyr, 1839. O ganlyniad i dreialon yr arweinwyr a’r protestwyr a ddilynodd, cynhyrchwyd nifer fawr o ddogfennau a oedd eisoes wedi’u digido cyn dechrau’r prosiect. Rhoddwyd y delweddau hyn ar-lein i wirfoddolwyr weithio arnynt.

Trawsgrifiodd gwirfoddolwyr ‘O Deithiau i Dreialon; ddogfennau’r treialon cyn eu geo-tagio â’r mapiau degwm cyfoes. Mae hyn yn golygu ei bod bellach yn bosibl adnabod y lleoliad daearyddol o fewn y dogfennau a’u defnyddio mewn rhyngwynebau chwilio daearyddol modern yn y dyfodol.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?