Siartiau Morwrol Lewis Morris a William Morris

Yma mae gennym ddetholiad o siartiau gan Lewis Morris (1701-1765), heidrograffydd hunan-ddysgiedig o Sir Fôn. Ni dderbyniodd ei waith mewn arolygu morol lawer o sylw tan yn ddiweddar. Roedd ei arolwg o arfordir Cymru, a wnaed bron yn llwyr heb ddim cefnogaeth swyddogol, yn gamp arloesol wych.

Diwygiodd ac ehangodd William Morris (1758-1808), mab Lewis Morris, waith ei dad, gan greu platiau newydd. Roedd y siart cyffredinol yn awr yn dangos morlin Cymru gyfan tra bod y gyfrol yn cynnwys rhai cynlluniau porthladd ychwanegol. Mae’r ychwanegiadau yn aml yn dangos porthladdoedd a oedd wedi cynyddu mewn pwysigrwydd yn ystod y blynyddoedd cyfamserol, megis Lerpwl, Amlwch, Aberaeron, Cei Newydd, Caerfyrddin, Tywyn ac Abertawe.

Plans of harbours, bars, bays and roads in St. George’s Channel, Lewis Morris Cyfeirnod: Ab 1043

Plans of the principal harbours, bays, and roads in St. George’s and the Bristol Channels, William Morris Cyfeirnod: Ab 1037

Roedd Lewis Morris yn perthyn i deulu enwog Morrisiaid Môn a gofir am eu gweithgarwch diwylliannol gan gynnwys sefydlu Cymdeithas y Cymmrodorion. Roedd Lewis Morris ei hun yn ŵr galluog ac amryddawn: yn hynafiaethydd, llenor, ieithydd, mwynolegydd, swyddog tollau, tirfesurydd a heidrograffydd.

Hyd yn ddiweddar ychydig iawn o sylw a dalwyd i'w waith fel syrfëwr tir a môr. Roedd ei arolwg o arfordir Cymru, a wnaed bron yn llwyr heb ddim cefnogaeth swyddogol, yn waith arloesol i heidrograffydd hunan-ddysgedig fel Morris. Erbyn heddiw caiff ei gydnabod fel un o gartograffwyr pwysicaf Prydain am yr arolwg morwrol hwn. Dim ond yn yr hanner can mlynedd ddiwethaf y daeth yr arolwg i amlygrwydd oherwydd gwaith Dr A H W Robinson ac Olwen Caradoc Evans, a'r ffacsimili o Plans of harbours ... (1748), sy'n cynnwys rhan o'i waith hydrograffig, a gyhoeddwyd yn 1987.

Magwyd Lewis Morris ar fferm yn agos i Fae Dulas, Môn. Er na chafodd ond ychydig addysg ffurfiol yr oedd yn awyddus iawn i addysgu ei hun. Wrth fyw yn agos i'r glannau buasai wedi gweld y llongau yn teithio yn ôl a blaen i Lerpwl ar fusnes a thystio i'r llongddrylliadau niferus ar hyd glannau peryglus y gogledd, neu glywed sôn amdanynt.

Oherwydd ei allu mathemategol fe gafodd swydd yn 1724 fel syrfëwr ystad i Owen Meyrick, Bodorgan, ac am bum mlynedd bu'n gyfrifol am fapio tiroedd Meyrick ar yr ynys. Mae ei lyfr maes, sy'n cynnwys brasluniau o ffermydd a thyddynnod stad Bodorgan wedi'u cadw yn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor. Mae'r gwaith gorffenedig mewn dwy gyfrol ffolio ym Modorgan Roedd llawer o diroedd Meyrick yn arfordirol ac mae'n debyg mai wrth weithio ar y mapiau hyn y daeth i'w feddwl i wneud arolwg o'r arfordiroedd.

Yn 1729 fe'i hapwyntiwyd yn swyddog tollau yng Nghaergybi a Biwmares ac yno clywai gwynion y morwyr am safon isel y mapiau morwrol oedd yn bodoli. Bryd hynny defnyddid siartiau Greenvile Collins, Great Britain's coasting pilot, a gyhoeddwyd yn 1693 ac a oedd, fel y gwyddai pawb, yn llawn o gamgymeriadau.

Er mwyn sicrhau gwell diogelwch ar y môr penderfynodd Morris, dan nawdd y Morlys, wneud arolwg o arfordir Cymru, tasg enfawr, a hynny heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol fel môr-fapiwr. Hyd hynny esgeuluswyd y gwaith o fapio arfordir Cymru ac o'r herwydd cafwyd colledion ar y môr yn aml. Oherwydd cyflwr gwael ffyrdd y wlad ar y pryd, roedd teithio ar y môr yn llawer mwy cyffredin.

Yn 1734 fe aeth Morris â chynllun ei arolwg at Arglwydd Gomisiynwyr y Morlys yn Llundain, ond mae'n amlwg o'i lythyron nad oeddent wedi dangos llawer o ddiddordeb ynddo. Gwrthododd y Morlys a Chomisiynwyr y Tollau ddarparu llong i'w alluogi i wneud yr arolwg, a bu'n rhaid iddo hurio llong ar ei gost ei hun.

Cychwynnodd Morris ar ei waith ym Miwmares fis Gorffennaf 1737. O fewn mis yr oedd wedi mapio'r rhan fwyaf o arfordir Môn, cyn dechrau ar ei arolwg morwrol. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno yr oedd yn anfon at y Morlys un map ar ddeg mewn llawysgrif, ynghyd â chyfeiriadau hwylio, o dan y teitl Cambria's coasting pilot. Ond unwaith eto ni chafodd unrhyw gefnogaeth ganddynt ac yn 1738 bu'n rhaid iddo barhau â'i arolwg ar ei gost ei hun. Yn 1739 daeth siom pellach i'w ran pan wrthododd Comisiynwyr y Tollau ganiatáu amser iddo fynd ymlaen â'r arolwg.

Heblaw am ymyrraeth ei hen gyflogwr, Owen Meyrick, ni fyddai'r arolwg wedi'i orffen. Ymestynnai dylanwad Meyrick mor bell â Swyddfa'r Morlys a llwyddwyd i berswadio'r Arglwydd Gomisiynwyr i gefnogi ailafael yn yr arolwg yn 1742. Yn 1744 roedd Morris yn Ninbych-y-pysgod, ond wrth i'r rhyfel â Ffrainc ddwyn yr holl sylw, fe ddaeth cefnogaeth y Morlys i ben a rhoddwyd diwedd ar unrhyw waith pellach.

Yn 1748, pan oedd yr economi ar i fyny a'r Morlys yn ei annog, fe gyhoeddwyd ei fap morwrol o Gymru a'i gynlluniau o borthladdoedd unigol. Fe'u cyhoeddwyd yn breifat fis Medi'r flwyddyn honno. Roedd y siart mawr yn dangos yr arfordir o Landudno hyd at Aberdaugleddau. Ar gyfer ei ddefnydd ei hun y paratôdd Morris y cynlluniau o'r porthladdoedd unigol i ddangos y cildraethau a'r llochesau yr oedd yntau wedi'u defnyddio ar adeg tywydd mawr. Roedd y gyfrol fechan o bum cynllun ar hugain yn llwyddiant mawr a gwerthwyd hi i 1230 o danysgrifwyr ac eraill. Roedd ei holl fapiau morwrol yn llawer gwell na'u rhagflaenwyr gan gynnwys toreth o wybodaeth ar raddfa fawr am lifoedd, angorfeydd a pheryglon. Ymddangosodd y mapiau morwrol hyn ryw bymtheng mlynedd a thrigain cyn i'r Morlys gynhyrchu ei arolygon ei hun.

Diwygiwyd ac ehangwyd siart mawr Lewis Morris gan ei fab William yn 1800, a digwyddodd yr un peth i'r gyfrol yn 1801. Er bod y platiau yn rhai newydd, roedd y cynnwys yn deillio o waith ei dad. Mae'r map cyffredinol erbyn hyn yn dangos holl arfordir ein gwlad ac yn y gyfrol ceir cynlluniau rhai porthladdoedd ychwanegol. Ymhlith yr ychwanegiadau ceir porthladdoedd a oedd wedi tyfu yn eu pwysigrwydd ers i Lewis Morris wneud ei arolwg yntau, llefydd fel Lerpwl, Amlwch, Aberaeron, Cei Newydd, Caerfyrddin, Porth Tywyn ac Abertawe.

Llyfryddiaeth

  • Dr A H W Robinson, Marine cartography of Britain, 1962
  • Olwen Caradoc Evans, Marine plans and charts of Wales, in the Map Collectors' Circle, 1969
  • Dafydd Wyn Wiliam, Lewis Morris : deugain mlynedd cyntaf ei oes 1700/1-42, 1997. Lewis Morris : 1742-65, 2001
  • A facsimile edition of Morris's chart volume Plans in St. George's Channel-1748, published in 1987

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.