Yn dilyn cyhoeddiad Cambriae Typus, map Humphrey Llwyd o Gymru, yn 1573, dechreuodd cartograffwyr eraill gynhyrchu mapiau mwy manwl o Gymru, gyda nifer ohonynt yn canolbwyntio ar siroedd a rhanbarthau unigol.
Dyma ddetholiad o fapiau digidol o siroedd Cymru o’r 16eg ganrif hwyr ymlaen:
Mapiau Christopher Saxton o 13 sir Cymru, 1579
Map George Owen o Sir Benfro, 1602
Mapiau unigol John Speed o 13 sir Cymru, 1610
Atlas sirol bychan Thomas Taylor o Gymru, 1718
Mapiau o Ddinbych a Fflint, c.1720, Sir Aberteifi, 1803, a Sir Fynwy, 1785