Cynlluniau Trefi John Wood

Roedd John Wood, 1780-85-1847, yn dirfesurydd o Gaeredin, Yr Alban. Mae'r casgliad yn cynnwys cynlluniau saith tref yng Nghymru, sef Aberystwyth, Bangor, Aberhonddu, Aberteifi, Casnewydd, Caernarfon a Phwllheli, ynghyd â threfi cyfagos Caer a Chroesoswallt ar y gororau.

Aberystwyth, 1834 Cyfeirnod: MAP 5445

Bangor, 1834 Cyfeirnod: MAP 5447

Aberhonddu, 1834 Cyfeirnod: MAP11023

Aberteifi, 1834 Cyfeirnod: Gogerddan 463 131/4/52

Casnewydd, 1836 Cyfeirnod: Tredegar 277 139/8/14

Croesoswallt, 1833 Cyfeirnod: MAP12105

Caer, 1833 Cyfeirnod: MAP3524

Caernarfon, 1848 Cyfeirnod: MAP5480

Pwllheli, 1834 Cyfeirnod: MAP5755

Tirfesurydd o Gaeredin, yr Alban, oedd John Wood, 1780-85-1847, ac fe gafodd ei ethol yn Gyfarwyddwr Parhaol Cymdeithas y Tirfesurwyr tua 1833. Fe'i cofir yn bennaf am ei atlas nodedig 'Town Atlas of Scotland', 1828, a oedd yn cynnwys pedwar deg wyth o gynlluniau trefol.

Roedd cyhoeddi'r atlas, wedi deng mlynedd o waith caled, yn garreg filltir amlwg yn hanes cartograffeg drefol, gan ei fod yn cynnwys y darluniadau systematig cyntaf o nifer o drefi’r Alban. Cyhoeddwyd adroddiadau disgrifiadol a hanesyddol y trefi yn ogystal â’r cynlluniau. Yn rhyfedd iawn mae'r atlas yn hepgor rhai trefi yr oedd Wood eisoes wedi eu harolygu ac a oedd wedi eu cyhoeddi fel cynlluniau unigol. Nid yw’r holl ddarluniadau yn dod o arolygon Wood ei hun chwaith. Roedd y cynlluniau unigol ar werth mewn trefi lleol a chan y llyfrwerthwr Thomas Brown o Gaeredin.

Creodd Wood hefyd gynlluniau o drefi yng Nghymru ac yn ne-orllewin a gogledd Lloegr. Byddai'n gwneud ei arolygon newydd a chywir ei hunan fel arfer, ond pryd bynnag y byddai’n bosibl, byddai’n defnyddio arolygon dibynadwy a fodolai eisoes fel sail i’w arolwg.

Mae'r cynlluniau Cymreig yn cynnwys mapio manwl ynghyd â gwybodaeth destunol ac ystadegol am ardaloedd trefol a'u cyffiniau o'r 1830au-1840au. Mae'r cynlluniau yma ar raddfa fawr yn rhagddyddio enghreifftiau’r Arolwg Ordnans ar raddfa gymharol. Mae’n nodi amlinelliad neu gynlluniau bloc o adeiladau cyfoes, ynghyd â strydoedd, pontydd, tramffyrdd, camlesi, glanfeydd, dociau, dyfrffyrdd, afonydd, tir amaethyddol a llu o nodweddion eraill. Enwir tirfeddianwyr, yn enwedig rhai o bwys, ac yn aml dangosir ffiniau bwrdeistrefi, wardiau a phlwyfi hefyd.

Rhifwyd rhai adeiladau, fel arfer adeiladau cyhoeddus a masnachol er mwyn croesgyfeirio at restrau ar ymylon pob cynllun. Nodir y pellteroedd i drefi cyfagos, dyddiadau ffeiriau ac ystadegau poblogaeth fel rheol, ac mae cyfliniau mympwyol yn diffinio’r topograffi.

Mae tai ac eiddo masnachol yn cael eu mapio’n fanwl ond yn ddienw gan amlaf; enwir adeiladau a nodweddion amlwg, gan gynnwys neuaddau tref, neuaddau sir, eglwysi, capeli, tai cwrdd, ysgolion, ysbytai, gwestai, tafarndai, banciau, swyddfeydd post, swyddfeydd gwaith, warysau, marchnadoedd, lladd-dai neu "Shambles", tolltai, elusendai, golchdai, tlotai, theatrau, carchardai, ffowndrïau, gwaith nwy, melinau, iardiau coed, odynau calch, tollbyrth, corlannau pwyso, ffynhonnau a mynwentydd. Dangosir rhandiroedd, parciau a thir amaeth hefyd ac weithiau dangosir amlinelliad o ddatblygiadau arfaethedig, megis ffyrdd newydd.

Mae casgliad y Llyfrgell yn cynnwys cynlluniau o saith tref yng Nghymru, sef Aberystwyth, Bangor, Aberhonddu, Aberteifi, Casnewydd, Caernarfon a Phwllheli, ynghyd â threfi cyfagos Caer a Chroesoswallt ar y gororau yn Lloegr sydd wedi eu cynnwys oherwydd eu hagosrwydd a'u cysylltiadau Cymreig cryf.

Gosodwyd mwyafrif y cynlluniau gyda’r Gogledd ar frig y dudalen, ac mae ganddynt raddfeydd o 2 gadwynfedd (1:1,584), 3 cadwynfedd (1:2,376) a 6 cadwynfedd: 1 fodfedd (1:4,752). Yn aml, mewnosodwyd mapiau o’r fwrdeistref ar raddfeydd llai.

Argraffwyd cynlluniau'r Llyfrgell yn bennaf gan dri chwmni o Gaeredin, J. & W. Smith, Leith & Smith a Forrester & Nichol. Mae’r lliw, lle mae'n bodoli, wedi pylu, ond gall fod yn ddefnyddiol iawn i adnabod ffiniau ardaloedd gweinyddol.