Mapiau

Mae’r casgliad mapiau yn cynnwys dros 1,000,000 o ddalennau o fapiau, siartiau a chynlluniau yn ogystal â miloedd o atlasau. Dyma’r casgliad mwyaf o fapiau yng Nghymru, ac un o’r mwyaf ym Mhrydain. Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau, o’r mapio electronig diweddaraf i fapiau a siartiau ar felwm o’r 16eg ganrif. Mae’r casgliad yn arbenigo mewn deunyddiau Cymreig ond mae ynddo hefyd nifer fawr o eitemau sy’n cynnwys gweddill y byd.

Gallwch bori drwy fersiynau digidol o ran o gasgliad mapiau anhygoel y Llyfrgell. Rhannwyd y casgliad yn gategorïau gwahanol:

 

Mapiau o Gymru

Mapiau Sirol

Mapiau Ystadau

Cynlluniau Trefi

Siartiau Morwrol

Mapiau Degwm Cymru

Mapiau'r Rhyfel Byd 1af

Rhaglen Adnewyddu Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Bydd Ystafell Ddarllen y Gogledd ar gau dros dro fel Ystafell Ddarllen o 22 Mai 2019, a'r gwasanaeth yn symud i Ystafell Ddarllen y De. Cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen Gwaith Adeiladu.