Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 20143A

Mae’r ffaith ei bod yn cynnwys darluniau yn anghyffredin iawn i lawysgrif o Gyfreithiau Hywel Dda a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg. Golyga hyn, yn fwy na thebyg, bod lluniwr Llawysgrif NLW 20143A wedi cael ei gomisiynu i baratoi’r copi arbennig hwn o gyfreithiau Cymreig i'w gyflwyno i berson pwysig iawn. Llawysgrif NLW 20143A, yw’r llawysgrif gyntaf o Gyfreithiau Hywel Dda yn yr iaith Gymraeg i ni ei digido yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyfreithiau Hywel Dda

Defnyddir y term 'Cyfreithiau Hywel Dda' ar gyfer system o gyfraith frodorol Gymreig a enwyd ar ôl Hywel Dda (bu farw 950). Ef sy'n cael y clod am gyfundrefnu'r cyfreithiau hynny. Nid oes un o'r llawysgrifau cyfreithiol sydd wedi goroesi, fodd bynnag, yn gynharach nag ail chwarter y 13eg ganrif. Er eu bod yn cynnwys cyfreithiau sy'n tarddu o'r 12fed a’r 13eg ganrif, mae'r ysgolheigion yn gytûn bod y llawysgrifau'n cynnwys cnewyllyn o ddeunydd sy'n llawer iawn cynharach o ran dyddiad. Bychan o ran maint yw'r mwyafrif o'r llawysgrifau gan gynnwys Llawysgrif NLW 20143A  (166 x 131 mm.). Cawsant eu cynllunio mae'n debyg yn llyfrau poced i'w cludo hwnt ac yma gan gyfreithwyr, yn hytrach na chael eu cadw ar silffoedd llyfrgelloedd.

Hanes y llawysgrif

Rhwng 19 Tachwedd a 6 Rhagfyr 1698, fe gopïwyd y llawysgrif ar gyfer Edward Lhuyd (1659/60?–1709) gan ei gynorthwyydd, William Jones, yn llawysgrif NLW 6209. Ym 1835 cyflwynwyd hi i Lyfrgell Cymdeithas Athronyddol a Hynafiaethol Castell Nedd gan Ddeon Llandaf, William Daniel Conybeare (1787-1857). Prynwyd y llawysgrif gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1969.

Darllen pellach

  • Aneurin Owen (gol.), Ancient Laws and Institutes of Wales, Cyf. I-II (1841)
  • Daniel Huws, 'Descriptions of the Welsh Manuscripts', tt. 415-424, yn T.M. Charles- Edwards, Morfydd E. Owen & Paul Russell (gol.), The Welsh King and his Court (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
  • T.M. Charles- Edwards, Writers of Wales, The Welsh Laws (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)