Seryddiaeth Gynnar

Cyfeirnod: NLW MS 735C

Y llawysgrif wyddonol gynharaf yn y Llyfrgell Genedlaethol yw llsgr. NLW 735C, sy'n cynnwys testunau Lladin ar seryddiaeth, wedi eu hysgrifennu mewn llawysgrifen fân Siarlaidd. Cyfrol mewn dwy ran yw hon, y rhan gyntaf (ff. 1-26) wedi ei chopïo tua 1000 yn ardal Limoges yn Ffrainc, fwy na thebyg o fewn cylch Adémar de Chabannes (989-1034), a'r ail ran (ff. 27-50), a gopïwyd tua 1150, yn deillio o scriptorium yn yr un rhanbarth.

 

Cyfieithiad Lladin gan Germanicus (15 CC-19 OC) o'r Phaenomena a gyfansoddwyd yn yr iaith Roeg gan Aratus o Soli (tua 315-tua 240 CC) yw'r prif destun yn y rhan gynharaf. Traethawd yn disgrifio'r cytserau yw hwn, sy'n cynnwys cyfres nodedig o ddiagramau a lluniadau lliw yn dangos i ba raddau yr oedd myth, seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth yn gorgyffwrdd yn y cyfnod. Mae'r delweddau'n cynnwys llun o'r awdur yn derbyn cyfarwyddyd gan ei Awen (f. 11v), symbolau cyffredin megis y tarw yn cynrychioli Taurus (f. 18v) a gefeilliaid ar gyfer Gemini (f. 17r), yn ogystal â phum planed wedi eu cyflwyno fel pennau dynion o fewn medaliynau (f. 21v).

Darlunnir y cytserau hefyd ar ffurf dau ddarluniad o Hemisfferau'r De a'r Gogledd (ff. 3v-4r). Ymhlith y testunau eraill fe geir un a fu'n ddylanwadol iawn yn yr Oesoedd Canol, sef Somnium Scipionis (Breuddwyd Scipio) gan Cicero, ynghyd â'r esboniad arno gan Macrobius, sydd yn anghyflawn yn y llawysgrif hon. Esgorodd y testunau hyn ar nifer o weithiau llenyddol sydd â breuddwyd yn fframwaith iddynt, yn enwedig Le Roman de la Rose a Le Somme le roi, testunau Ffrangeg y ceir copïau llawysgrif ohonynt yng nghasgliadau'r Llyfrgell.

Ychydig iawn a wyddom am hanes cynnar y llawysgrif hon. Fe'i hailrwymwyd ym mlynyddoedd cynnar yr ail ganrif ar bymtheg, mewn gweithdy yn Llundain, yn ôl pob tebyg, efallai gan y sawl a osododd y priflythrennau 'T. M.' yn rhan o'r addurnwaith dall ar y cloriau. Hon yw cyfrol rhif 11 mewn catalog o lyfrgell Plas Power, Sir Ddinbych, a baratowyd ym 1816 gan Richard Llwyd. Yn ei law ef y mae'r nodyn 'Astronomy and very curious' a welir y tu mewn i'r clawr uchaf. Mae'n bosibl fod y llawysgrif wedi cyrraedd Plas Power yn gynharach o lawer, fodd bynnag: efallai mai hon oedd un o'r 'three or four old manuscripts' y cyfeirir atynt mewn catalog o'r flwyddyn 1778, ac mae yna le i gredu hefyd iddi fod ym meddiant Thomas Lloyd (c. 1673-1734), y geiriadurwr o Gymro a dreuliodd ei flynyddoedd olaf ym Mhlas Power. Yno y bu'r llawysgrif tan 1913, pryd y prynwyd hi gan y Llyfrgell Genedlaethol.

Darllen pellach

  • P. McGurk, 'Germanici Caesaris Aratea cum scholiis; a new illustrated witness from Wales', National Library of Wales Journal, xviii (1973-4), 197-216

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?