Piers Plowman

Cyfeirnod: NLW MS 733B

Mae Piers Plowman gan William Langland (?c. 1330-c. 1386) yn un o'r cerddi enwocaf mewn Saesneg Canol. Mae'r testun i'w weld mewn tua hanner cant o lawysgrifau, ond gwelir llawer o wahaniaeth rhwng y tri prif fersiwn o'r gerdd, sydd â'u hyd yn amrywio o tua 2,500 o linellau o farddoniaeth gyflythrennol i dros 7000 o linellau. Rhennir y gerdd yn saith adran neu passus ('cam' yn Lladin). Yn y rhan agoriadol mae Will, y cymeriad sydd yn adrodd yr hanes, yn mynd i gysgu tra'n crwydro bryniau Malvern, a disgrifiad o'r gweledigaethau a ddaw i'w ran a geir yng ngweddill y gerdd. Gweledigaethau alegorïaidd yw'r rhain, sydd yn codi cwestiynau am foesoldeb, diwinyddiaeth a bywyd y Cristion. Cyflwynir Piers yr Aradrwr yn ystod yr ail weledigaeth, ar lun pererin sy'n arwain eraill ar y ffordd i iachawdwriaeth, ond yn nes ymlaen fe ddaw i ymdebygu Crist ei hun. Mae'n debyg fod Langland wedi byw yn ardal Malvern er iddo symud yn ddiweddarach i Lundain. Credir mai clerigwr ydoedd, ac iddo dreulio ugain mlynedd olaf ei oes yn gloywi ei gerdd.

 

Llawysgrif a gopïwyd ar femrwn o ansawdd gwael yn gynnar yn y bymthegfed ganrif, ac sydd bellach yn anghyflawn, yw llsgr. NLW 733B. Mae'r llawysgrif yn cynnwys fersiwn anarferol o'r gerdd, sydd yn cyfuno amrywiadau o'r prif fersiynau. Ni thalwyd llawer o sylw i'r llawysgrif yn y gorffennol, ond dengys ymchwil ddiweddar y gall gynnig tystiolaeth werthfawr am ddatblygiad y gerdd. Ychydig iawn o wybodaeth am ei hanes cynnar a gynigir gan y gyfrol ei hun, ond ceir llofnod un o'i pherchnogion cynnar, o'r bymthegfed ganrif, ar dud. 14, 75, 107 a 137. O farnu yn ôl cyflwr gwael y dail cyntaf a'r olaf, gellir casglu fod y llawysgrif wedi bod heb gloriau rywbryd yn ei hanes. Cafodd ei hailrwymo yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif mewn croen llo gydag addurnwaith dall, ond fe gedwid ynddi fel dail rhwymo dwy ddalen, wedi eu tocio, o lawysgrif o'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn cynnwys testun Lladin ar gyfraith eglwysig. Mae'n bosibl fod y dail hyn yn perthyn i'r rhwymiad gwreiddiol.

Fe ddaeth y llawysgrif hon i'r Llyfrgell Genedlaethol ym 1913 o Blas Power, Sir Ddinbych, cartref y teulu Lloyd. Mae'n bosibl iddi ddod i feddiant y teulu trwy law Thomas Lloyd (c. 1673-1734), yr ysgolhaig a geiriadurwr Cymreig a dreuliodd ei flynyddoedd olaf ym Mhlas Power, a bod hon, ynghyd â llsgr. NLW 735C (gweler Seryddiaeth Gynnar), ymhlith y 'three or four old manuscripts' y cyfeirir atynt yng nghatalog llyfrgell y Plas ym 1778.

Darllen Pellach

  • Lawrence Warner, 'The Ur-B Piers Plowman and the earliest production of C and B', The Yearbook of Langland Studies, 16 (2002), 3-39

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?