Llyfr Pasiwn y Teulu Vaux

Cyfeirnod: Peniarth MS 482D

Ysgrifennwyd llawysgrif Peniarth 482D ar femrwn gan un scrifydd, a hynny yn Llundain o bosibl, unai yn niwedd y 15fed ganrif, neu ar ddechrau’r ganrif ddilynol. Fel ag yn achos llawysgrif Peniarth MS 481D (Brwydrau Alecsander Fawr), mae’n un o lawysgrifau canol-oesol harddaf y Llyfrgell, ac yn enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol. Mae iddi bwysigrwydd hefyd oherwydd ei chyswllt posibl â’r brenhinoedd Harri VII a Harri VIII.

Cynnwys

Cynhwysa’r llawysgrif ddau destun Ffrangeg:

(a)La Passion de Nostre Seigneur (‘Dioddefaint Ein Harglwydd’), hanes Dioddefaint Crist, wedi ei rannu’n 36 pennod. Testun yw hwn a gyfieithwyd yn wreiddiol ym 1398 ar gyfer Isabeau de Bavière (Isabelle o Bavaria), brenhines Ffrainc (ff. 1r-185v);

(b)Le miroir de la mhort (‘Drych marwolaeth’), cerdd grefyddol, mewn 92 o benillion, gan Georges Chastellain (1415-1475), croniclwr Dugiaid Bwrgwyn (ff. 186r-205v).

Mae’r testun cyntaf yn dechrau gydag atgyfodiad Lasarus, ac yn gorffen gyda bucheddau chwedlonol Jwdas a Philat. Ei ddiben yw gwahodd y Cristion i fyfyrio ar ddioddefiannau Crist yn ystod cyfnod ei ddal, ei ymddangosiad gerbron yr awdurdodau, ei Groeshoeliad a’i Atgyfodiad. Mae’r ail destun yn galw ar i ddarllenwyr fyfyrio ar oferedd pleserau’r byd yn wyneb sicrwydd marwolaeth.

Delweddau

Ceir yn y llawysgrif 34 o fân-ddarluniau sylweddol eu maint, wedi eu heuro a’u lliwio, a’u llunio mewn arddull Fflandrysaidd. Mae 33 ohonynt yn darlunio’r Dioddefaint. Mae mân-ddarlun cyntaf y gyfrol (f. 9r) yn dangos gŵr yn cyflwyno cyfrol i frenin, ac yn cynnwys arfbais frenhinol Lloegr (Ffrainc a Lloegr yn chwarterog). Mae herodraeth y delweddau yn awgrymu i’r gyfrol gael ei pharatoi ar gyfer Harri VII o Loegr. Awgryma’r darlun o fachgen ieuanc galarus (efallai’r Tywysog Harri, sef y brenin Harri VIII yn ddiweddarach) yn pwyso ar wely gwag wedi ei orchuddio mewn du yn y cefndir, ynghyd â’r ddwy ferch (efallai'r Dywysoges Margaret, 13 oed, a’i chwaer y Dywysoges Mary, 7 oed) mewn penwisgoedd duon o flaen lle tân i gyflwyniad y gyfrol fod yn gysylltiedig unai â marwolaeth Arthur, Tywysog Cymru ym 1502, neu farw ei fam, y Frenhines Elisabeth, ym 1503.

Rhwymiad

Dyma un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn ei rhwymiad gwreiddiol. Fe’i rhwymwyd rhwng byrddau pren, a orchuddiwyd â melfed rhuddgoch, a’u haddurno â boglynnau efydd. Yn ôl pob tebyg, fe’i rhwymwyd yn Llundain ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae’n debyg iawn i rwymiad llawysgrif Peniarth 481D.

Y Fonesig Jane Guildford a hanes cynnar y llawysgrif

Ni lwyddwyd eto i adnabod nifer o addurniadau herodrol y gyfrol, a gallai ymchwil bellach ganfod pwy a’i comisiynodd.
Bu’r llawysgrif yn eiddo i’r Fonesig Jane (neu Joan) Guildford (née Vaux) (f. 206r), y bu ei mam, Y Fonesig Katherine Vaux, brodor o Provence, yn foneddiges breswyl i Margaret o Anjou, gwraig Harri VI. Enwir Jane fel un o’r boneddigesau a fynychodd goroni Elisabeth o Gaerefrog ym 1487, ac roedd yn ddigon agos i’r teulu Brenhinol fel ag i Harri VII a’i Frenhines fynychu ei phriodas â Syr Richard Guildford (c.1450-1506) ym 1489. Erbyn 1494, dyrchafwyd Syr Richard yn Oruchwyliwr gweision y Brenin, ac mae’n bosibl mai ef yw’r unigolyn a welir yn cario gwialen ar flaen y mân-ddarlun ar f. 9r. Ymddengys i’r Fonesig Jane wasanaethu'r Frenhines Elisabeth o Gaerefrog a Katherine o Aragon fel boneddiges breswyl. Cyd-deithiodd hefyd gyda’r Dywysoges Mary i Ffrainc ym 1514 ar gyfer ei phriodas â Louis XII.

Teulu Vaux

Ar f. 206r y llawysgrif, ceir enghraifft o lawysgrifen Syr Henry Guildford (1489-1532), mab Jane Guildford. Yn gyfaill i Erasmus, gweithredodd yntau fel Goruchwyliwr gweision y Brenin, ac roedd yn wrthrych portread gan Holbein. Ar farwolaeth Jane Guildford ym Medi 1538, gadawodd ei ‘book of French’ i’w nai, Thomas, Ail Farwn Vaux. Un o ysgutorion ei hewyllys oedd ei chefnder Syr William Penison, y gwelir ei enw wedi ei ysgrifennu ar f. 206r y llawysgrif. Mae arysgrif arall (f. iiv) yn cofnodi i’r gyfrol gael ei rhoi’n rhodd gan Thomas Vaux i Syr John Fermor (1516-1571), ei frawd yng nghyfraith. Daeth Fermor i’r amlwg mewn bywyd cyhoeddus fel Aelod Seneddol tros swydd Northampton ym 1553 a 1555, a hynny o dan y Frenhines Mari. Wedi hynny, bu teuluoedd Vaux a Fermor yn Reciwsantiaid Catholig, ac mae’n bosibl iddynt ddiogelu’r gyfrol hon yn ddirgel trwy weddill yr unfed ganrif ar bymtheg, a rhan gyntaf y ganrif ddilynol.

Hanes diweddar

Fel ag yn achos llawysgrif Peniarth 481D, mae’n bosibl i’r gyfrol ddod yn rhan o lyfrgell Syr Kenelm Digby (1603-1665), y bu i’w wyres briodi Richard Mostyn (1658-1735) o Benbedw, sir Fflint. Mae llyfrblat Penbedw yn y gyfrol yn dangos iddi fod yno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn iddi gael ei throsglwyddo, trwy olyniaeth a phriodas, i Beniarth, Meirionnydd. Ni chafodd ei chynnwys yng ngwerthiant llawysgrifau Peniarth i Syr John Williams ym 1904, ond fe brynwyd y llawysgrif yn ddiweddarach gan y dyngarwyr Miss Gwendoline a Miss Margaret Davies, Gregynog. Cyflwynasant hwy y llawysgrif yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1921.

Llyfryddiaeth

  • Mary Williams, ‘French Manuscripts in the National Library of Wales’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.1, rh.4, 1940, 211-216
  • Armel H. Diverres, ‘Le Miroir de Mort by Georges Chastellain’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.1, rh.4, 1940, 218-219
  • Godfrey Anstruther, Vaux of Harrowden: a recusant family (Newport, Mon., 1953)
  • Edelgard E. DuBruck (gol.), La Passion Isabeau: une édition du manuscrit Fr. 966 de la Bibliothèque Nationale de Paris (New York, 1990)
  • George Chastelain, Le Miroir de la Mort, gol. Tania Van Hemelryck (Louvain-la-Neuve, 1995)
  • Erthygl Sean Cunningham ar ‘Sir Richard Guildford’ yn yr Oxford Dictionary of National Biography
  • Erthygl L.L. Ford ar ‘Nicholas Vaux, first Baron Vaux’, yn yr Oxford Dictionary of National Biography

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?