Llyfr Oriau 'De Grey'

Cyfeirnod: NLW MS 15537C

Ar sail y niferoedd sydd wedi goroesi, gellir honni mai Llyfrau Oriau oedd llawysgrifau mwyaf poblogaidd Gorllewin Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol a'r Dadeni. Diogelwyd enghreifftiau hynod addurnedig a choeth ar y naill law, ac eraill nad ydynt ond testunau moelion heb arlliw o addurn ar eu cyfyl ar y llall. Cynhyrchwyd degau o filoedd ohonynt yn fasnachol, a diogelir miloedd o enghreifftiau heddiw mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd a chasgliadau preifat trwy'r byd.

 

Trwy gyfrwng Llyfrau Oriau, gallai lleygwyr defosiynol trwy Orllewin Ewrop ddilyn patrwm o addoli yn eu cartrefi yn seiliedig ar wasanaethau dyddiol yr eglwys, sef Plygain, Lauds, Prime, Terce, Sext, Noe, Gosber a Chwmplin. Ond, â chynifer o'r Llyfrau yn weithiau addurnol, daethant hefyd yn symbolau poblogaidd o gyfoeth a statws ymysg haenau uchaf cymdeithas yn ystod rhan olaf yr Oesoedd Canol.

Cynnwys

Cnewyllyn pob Llyfr Oriau oedd 'Oriau'r Forwyn', sef cyfres o wyth dilyniant o salmau ac o weddïau er anrhydeddu'r Forwyn Fair, i'w hadrodd yn ystod pob un o oriau canonaidd y diwrnod. Yn aml, addurnwyd dechrau pob dilyniant gan fân-ddarlun o ddigwyddiad ym mywyd y Forwyn, o Gyfarchiad yr Angel (Plygain) hyd ei Choroniad (Cwmplin), mân-ddarluniau wedi eu gosod yn aml i wynebu cyfres o ddarluniau o Ddioddefaint Crist. Mae'r darluniau hyn yn rhoi i ni gipolwg gwerthfawr o fywyd beunyddiol yn ystod yr Oesoedd Canol.

Ar ddechrau pob Llyfr Oriau ceir calendr yn rhestru gwyliau pwysig yr Eglwys yn ystod pob mis o'r flwyddyn, gan gynnwys gwyliau saint rhyngwladol a lleol. Weithiau, cynhwyswyd darluniau o oruchwylion beunyddiol ac o arwyddion y Sidydd i gyd-fynd â'r misoedd a restrir.

Llyfr Oriau 'De Grey'

Ysgrifennwyd Llyfr Oriau 'De Grey', sydd o Arfer Caersallog, ar felwm, ac mae'n un o nifer o lawysgrifau tebyg a luniwyd yn Fflandrys ar gyfer y farchnad yn Lloegr yng nghanol y 15fed ganrif. Mae'n cynnwys yr elfennau a ganlyn:

Yn cyd-fynd â'r testun mae tros drigain o ddelweddau, gan gynnwys mân-ddarluniau sy'n

Hanes y Llawysgrif

Mae'r gwyliau a enwir yn y Calendr, ynghyd â phresenoldeb y mân-ddarlun o Thomas Sant o Gaergaint (f. 28v), yn dangos yn eglur i'r gwneuthurwr deilwra'r gyfrol ar gyfer prynwr o Loegr. Mae arysgrif o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg yn y Calendr ar gyfer mis Mawrth (f. 3v) yn cyfeirio at farwolaeth Elizabeth Grey, gwraig Syr John Grey o Blisworth, Swydd Northampton, ac mae'r arfbeisiau a ychwanegwyd ar ymylon y dalennau mewn mannau eraill yn y gyfrol yn gysylltiedig â'r un teulu. Roedd Syr John Grey yn or-ŵyr i Reginald, y trydydd Barwn de Grey o Ruthun, y gŵr y bu i'w elyniaeth ag Owain Glyn Dŵr arwain at wrthryfel. Ni wyddom beth oedd hanes y llawysgrif rhwng dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ym 1895, prynwyd y gyfrol gan Henry Yates Thompson, casglwr llawysgrifau mwyaf ei genhedlaeth o bosibl, a bu'n rhan o'i gasgliad ef (fel MS 27) hyd nes ei werthu gan Sotheby's ar 23 Mawrth 1920, rhif lot 42, a'i brynu gan Miss Gwendoline E. Davies, Gregynog, Powys. Cyflwynodd Miss Margaret S. Davies, Gregynog y gyfrol, ynghyd â 'Llyfr Offeren Sherbrooke' (NLW MS 15536E), i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1951.

Llyfryddiaeth

  • A Descriptive Catalogue of Fifty Manuscripts from the Collection of Henry Yates Thompson (Cambridge, 1898)
  • Christopher De Hamel, A History of Illuminated Manuscripts (London, 1994)
  • Janet Backhouse, Illumination from Books of Hours (London, 2004)