Llyfr Offeren Great Easton

Byddai’r llyfr offeren addurnedig hwn o ganol y 15fed ganrif ei ddefnyddio fel rhan o drefn yr oedfa cyn y Diwygiad Protestannaidd. Cafodd ei gynhyrchu yn wreiddiol mewn gweithdy yn Llundain, yn ol pob tebyg, ar gyfer eglwys Great Easton yn Essex; mae’r Calendr yn cynnwys nodyn yn cysegru’r Llyfr i’r eglwys honno ('Dedicacio ecclesie sancti Egidii de Eyston. ad montem') ynghyd â thystiolaeth ei fod yn dal yno yn 1508.

 

Fel y gwelir yn aml mewn llyfrau eglwysig o’r cyfnod hwn, mae cyfeiriadau at y pab, purdan a Sant Tomos o Gaint wedi’u dileu ohono - arwyddion o’r newid a ddaeth gyda’r Diwygiad Protestannaidd a’r ymrannu oddi wrth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Yn ddiddorol, mae ynddo hefyd fersiynau Saesneg o anerchiad yr offeiriad i gyplau a oedd yn priodi, a rheini wedi’i hychwanegu ar ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg ganrif.

Addurniadau

Mae Llyfr Offeren yn cynnwys addurniadau prydferth a thrawiadol. Mae ymylon tudalennau wedi’u harddurno â darluniau o ddail acanthws, blodau arymaidd, ynghyd â blodau eraill a dail, mewn aur a glas, pinc, gwyrdd a brown cochlyd.

Hanes y llawysgrif

Cyflwynodd y Parchg W. H. Maskell y theori mai’r Llyfr Offeren oedd yr unig litwrgi i oroesi o ‘arfer Bangor’, gan arwain at y llawysgrif yn cael ei adnabod fel ‘Llyfr Offeren Bangor’, ond nid yw hyn wedi’i brofi gan awdurdodau mwy diweddar ar astudiaethau litwrgaidd. Mae arysgrif ar ddiwedd y Calendr yn y Llyfr Offeren yn nodi bod y llawysgrif wedi’i chyflwyno i eglwys plwyf Croesoswallt (a oedd yn Esgobaeth Llanelwy bryd hynny) yn 1554 gan Syr Morys Griffith, a oedd yn offeiriad yn Great Easton ar y pryd. Mae ei berchnogion diweddarach yn cynnwys  James Brydges, Dug Chandos (ob. 1744); Thomas Martin (a’i gwerthodd yn 1772); William Maskell (cyn 1844); Henry Huth (1815-78), ac yna ei fab, Alfred Henry Huth (1850-1910); John Meade Falkner (1858-1932); ac yna ei werthu ar 13 Rhagfyr 1932 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cafodd y Llyfr Offeren ei brynu, a’i ddigido yn ddiweddarach, gyda chymorth ariannol Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol.

Darllen pellach

  • Sally Harper, Music in Welsh Culture Before 1650: A Study of the Principal Sources (Aldershot, 2007), p. 377.
  • A. J. Collins, 'The Bangor Missal', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 4 (1945), 57-60 a nodiadau ychwanegol yng Nghylchgrawn LlGC 5 (1947-48), 227.
  • William H. Maskell, The Ancient Liturgy of the Church of England (Oxford, 1882).