Llyfr Llandaf

Cyfeirnod: NLW MS 17110E

Un o lawysgrifau eglwysig cynharaf Cymru yw Llyfr Llandaf (Liber Landavensis), llawysgrif sylweddol ei maint sy’n cynnwys 128 o ddalennau memrwn. Oddi mewn i’w chloriau fe groniclir hanes cynnar esgobaeth Llandaf, ac mae’r cynnwys yn taflu goleuni hefyd ar gyflwr a sefyllfa’r eglwys mewn un rhan o Gymru yn fuan wedi’r goncwest Normanaidd.

Cefndir llunio'r llawysgrif

Tybir i Lyfr Llandaf gael ei ysgrifennu rhwng 1120 a 1140, a hynny o dan gyfarwyddyd Urban, a benodwyd yn esgob Llandaf gan frenin Lloegr ym 1107, a’i gysegru gan Archesgob Caergaint.

Cred haneswyr i’r Llyfr gael ei ysgrifennu o ganlyniad i gynnen rhwng Urban ac esgobion Tyddewi a Henffordd ynglŷn â ffiniau esgobaeth Llandaf, a hynny yn y gobaith y byddai’r cynnwys yn cryfhau hawliau’r esgobaeth honno i diroedd ac eiddo yn ne ddwyrain Cymru.

Cynnwys y llawysgrif

Aeth y copïwr gwreiddiol ati i gofnodi yn y gyfrol nifer helaeth o siarteri, - rhai’n ddilys ac eraill yn ffugiadau diweddarach, - a fanylai ar eiddo a hawliau tiriogaethol Esgobaeth Llandaf, yn seiliedig ar roddion tybiedig tros gyfnod o 700 mlynedd, - rhwng y 5ed ganrif a’r 11fed ganrif ar ddeg. Y bwriad oedd dyrchafu statws yr esgobaeth, a chadarnhawyd hynny trwy gofnodi yn y gyfrol hefyd fucheddau (vitae) tri o esgobion cynharaf Llandaf, sef Dyfrig (Dubricius, ?465), Teilo (?500) ac Euddogwy (Oudoceus, ?630).

Yn ystod y 12fed ganrif, ac yn gynnar yn y 13eg ganrif, ychwanegodd 8 copïwr arall fucheddau Samson ac Elgar at y testun, ynghyd â llythyrau amrywiol.

Y rhwymiad

Rhwymwyd Llyfr Llandaf mewn cloriau derw yn wreiddiol, a gorchuddiwyd y cloriau hynny gan haen denau o arian. Y clawr isaf presennol yw’r unig ran sy’n weddill o’r rhwymiad hwnnw. Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd yn arfer addurno cloriau'r llyfrau gwerthfawrocaf, llyfrau efengylau yn enwedig, ond anghyffredin oedd defnyddio dim mor sylweddol â'r ddelw o Grist mewn gogoniant a fu am ganrifoedd ar glawr Llyfr Llandaf. Gwnaethpwyd y ddelw o waith efydd cain yn Lloegr yng nghanol y 13eg ganrif.

Hanes diweddarach y llawysgrif

Ar ddechrau’r 17eg ganrif, daeth y llawysgrif i feddiant yr hynafiaethydd John Selden (1584-1654), ac yna Robert Davies (1658-1710), Llannerch a Gwysanau, sir Fflint, erbyn diwedd y ganrif honno. Gosododd yntau glawr derw newydd ar flaen y gyfrol ym 1696, a bu Llyfr Llandaf yn Llannerch cyn iddo gael ei osod ar adnau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynnar yn yr 1940au. Prynodd y Llyfrgell y gyfrol ym Mehefin 1959.

Atgynhyrchwyd testun Liber Landavensis o lawysgrif Gwysaney gan J Gwenogvryn Evans gyda chymorth John Rhys ac fe'i cyhoeddwyd mewn argraffiad cyfyngedig ym 1893; ymddangosodd argraffiad facsimile ym 1979.

Digido ac ail-rwymo’r llawysgrif

Rhwymwyd Llyfr Llandaf o’r newydd, gan ddefnyddio’r hen gloriau, ym 1892, a hynny yn y Llyfrgell Brydeinig. Oherwydd anystwythder y rhwymiad hwnnw, sylweddolwyd na fyddai modd digido cynnwys y llawysgrif heb golli llawer o wybodaeth oedd ynghudd yn y gwter rhwng y dalennau. Er mwyn cyflwyno delweddau cyflawn o bob tudalen, aethpwyd ati i ddadrwymo’r llawysgrif yn Hydref 2006, gan wahanu’r dail unigol oddi wrth ei gilydd, a thrwy hynny ddadlennu rhai geiriau newydd a fu ynghudd am ganrifoedd.

Bwriedir ail-rwymo Llyfr Llandaf yn 2007, gan wahanu’r cloriau gwreiddiol oddi wrth ddail y testun. Gosodir y cloriau ar floc pwrpasol ar gyfer eu harddangos, a rhwymir y testun mewn cloriau archifol newydd er mwyn eu diogelu ar gyfer astudiaeth bellach yn y dyfodol.

Llyfryddiaeth

  • Wendy Davies, An early Welsh Microcosm: studies in the Llandaff Charters (London, 1978)
  • Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979)
  • J Gwenogvryn Evans, The Book of Llan Dâv (Aberystwyth, 1979)
  • Daniel Huws, 'The Making of Liber Landavensis', yn Medieval Welsh Manuscripts (Cardiff & Aberystwyth, 2000), tt. 123 - 157
  • John Reuben Davies, The Book of Llandaf and the Norman Church in Wales (Woodbridge, 2003)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?