Llyfr Du Basing

Cyfeirnod: NLW MS 7006D

Gwaith y bardd a'r copïydd Gutun Owain (bl. 1460-1500), gan mwyaf, yw Llyfr Du Basing (NLW MS 7006D), llawysgrif femrwn sy'n dyddio o ddegawdau olaf y bymthegfed ganrif. Fe'i cysylltir yn draddodiadol ag abaty Sistersaidd Dinas Basing, sir y Fflint, er o leiaf tua 1630, pryd y cododd yr hynafiaethydd Robert Vaughan (?1592-1666) o Hengwrt ddarnau 'o Lyfr manachlog Dinas Basing' i lawysgrif NLW 13074D. Yno yr oedd y gyfrol, mae'n debyg, cyn ac yn ystod diddymiad y fynachlog ym 1536. Cryfhawyd cymeriad Cymreig yr abaty pan apwyntiwyd Thomas Pennant, aelod o un o deuluoedd blaenllaw Gogledd Cymru, yn abad ym 1481, ac yn ystod yr hanner canrif hyd at y diddymiad fe ddaeth Dinas Basing yn ganolfan nawdd i feirdd tebyg i Tudur Aled (bl. 1480-1526) a Gutun Owain. Credir mai Pennant ei hun biau'r nodiadau mewn inc melyn ar ymyl ambell ddalen (e.e. tt. 260-1, 264, 266).

 

Yr oedd Gruffudd ap Huw ab Owain, sy'n fwy adnabyddus fel Gutun Owain, yn fardd a gwr bonheddig a anwyd yn Nydlystun o fewn arglwyddiaeth Croesoswallt. Dysgodd ei grefft farddol wrth draed Dafydd ab Edmwnd (bl. 1450-97), a chyfansoddodd gerddi i nifer o noddwyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan gynnwys abadau Glyn-y-groes a Dinas Basing. Amlygir ei awydd i ddiogelu dysg y beirdd, yn enwedig yng nghyswllt cerdd dafod, hanes, achyddiaeth a herodraeth, yn y llawysgrifau o'i eiddo sydd wedi goroesi. Credir bellach mai yn abaty Glyn-y-groes, sir Ddinbych, ac nid yn Ninas Basing y lluniwyd y gyfrol hon. Roedd cysylltiadau Gutun Owain â Glyn-y-groes yn agosach o lawer: treuliodd bron i ddeugain mlynedd o'i oes yno a llawysgrif o'r abaty hwnnw, sef Peniarth MS 20, oedd un o'r ffynonellau a ddefnyddiodd wrth weithio ar Lyfr Du Basing. Gwaith copïydd oedd fwy na thebyg yn hŷn na Gutun Owain ond yn gweithio yn ystod yr un cyfnod ag ef yw tri chydiad cyntaf y llawysgrif (tt. 1-88). Ceir toriad sydyn yn y testun ar ddiwedd y trydydd cydiad (t. 88), ond mae cyfraniad Gutun Owain (tt. 89-308) yn gyflawn ac eithrio un ddalen sydd ar goll rhwng tt. 104 a 107.

Nodwedd anghyffredin y llawysgrif hon ymhlith llawysgrifau Cymraeg canoloesol yw ei bod wedi cadw ei chloriau pren gwreiddiol wedi eu gorchuddio â chroen llo wedi ei addurno'n wag. Yr un mor anarferol yw'r defnydd o aur yn rhai o'r priflythrennau addurnedig (tt. 1, 41) ac o inc gwyrddlas yn y testun (t. 198).

Dilyniant o destunau cysylltiedig a geir yma, gyda fersiwn o Brut y Brenhinedd yn graidd i'r cwbl (tt. 41-198). Cyfieithiad i'r Gymraeg yw hwn o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, sydd yn olrhain achau'r Brythoniaid i Frutus a ymsefydlodd yn Ynys Prydain gyda'i ddilynwyr ar ôl ffoi o gwymp Caerdroea. O'i enw ef, yn ôl y stori, y tardda'r enw Britannia. Yng nghronicl Sieffre, a ddaeth yn hynod o boblogaidd a dylanwadol yng Nghymru, y ceir bywgraffiad cyflawn cyntaf y brenin Arthur. Ar gychwyn y llawysgrif hon, fel rhagarweiniad i Frut Sieffre, copïwyd Ystoria Dared, sef fersiwn Cymraeg o destun Lladin a elwir yn Dares Phrygius, sy'n adrodd hanes y digwyddiadau a arweiniodd at gwymp Caerdroea (tt. 1-40). Fel parhad i'r Brut copïodd Gutun Owain gronicl arall, Brenhinedd y Saeson, sydd yn cofnodi digwyddiadau yng Nghymru a Lloegr hyd at 1197. Ar gyfer y cyfnod o 1197 i 1332 fe drodd at ddau fersiwn o Frut y Tywysogion, gan barhau'r hanes wedyn hyd at 1461, dyddiad sy'n debygol o fod yn gyfoes â llunio'r gwaith (tt. 199-308).

Ni wyddys ddim o hanes y llawysgrif yn y cyfnod yn dilyn diddymu'r fynachlog ym 1536, ond erbyn tua 1630, pryd y lluniodd Robert Vaughan ddau nodyn yn y llawysgrif (tt. 300 a 308), yr oedd hi'n eiddo Huw Lewys Dafydd o Lanasa yn sir y Fflint, yn ôl tystiolaeth nodyn arall gan Vaughan yn NLW MS 5262A (ff. 27v, 66v).

Copïwyd Llyfr Du Basing gan John Jones (c. 1585-1657/8), Gellilyfdy, i lawysgrif Peniarth 264 tra y bu yng Ngharchar y Fflyd, Llundain, ym 1635-6, ac ef, fwy na thebyg, a oedd yn gyfrifol am dudalennu'r gyfrol. Erbyn 1663 yr oedd y llawysgrif ym meddiant Thomas Jones, Cricin, Rhuddlan, sydd wedi nodi ei ach ar dudalen iv, ond yn 1686 fe dorrodd Foulke Owen, Nantglyn, sir Ddinbych, ei enw arni (tt. iii, iv), cyn gadael y gyfrol yn gymynrodd i'w nai, Foulke Jones, y gwelir ei enw yntau a'r dyddiad 1692 ar dudalen iii. Erbyn tua 1700 fe'i cawn yn eiddo i'r hynafiaethydd John Griffith (1678-1763), Cae Cyriog ger Wrecsam, ac ychwanegodd ef nifer o nodiadau yn y gyfrol. Arhosodd y llawysgrif yn eiddo i'r teulu hwn nes i un o'i ddisgynyddion, Montague C. Ll. Griffith, Cae Cyriog ei chyflwyno ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru; fe'i prynwyd yn dilyn ei farwolaeth ef ym 1933.

Ymhlith eraill a ysgrifennodd nodiadau yn y gyfrol neu a'i llofnododd y mae Humphrey Humphreys (1648-1712), esgob Bangor ac yn ddiweddarach Henffordd (t. iv), yr hynafiaethydd William Maurice (c. 1620-1680), Cefn-y-braich (tt. 41, 45, 51, etc.), y bardd John Davies ('Siôn Dafydd Las', m. 1694) (t. 96), y geiriadurwr Thomas Lloyd (c. 1673-1734), Plas Power (t. 308), a Peter Roberts, a gyfieithodd rannau o'r llawysgrif ar gyfer ei gyfrol The Chronicle of the Kings of Britain (London, 1811) (t. 308). Ychwanegwyd yr englynion ar dudalen 314 gan law o'r unfed ganrif ar bymtheg.

Wrth dynnu'r lluniau digidol daeth dau fraslun ar ymyl dalen i'r golwg, y ddau mae'n debyg o waith y copïydd (t. 48). Cyflwynir darluniau manylach o'r rhain a'r llythrennau addurnedig (tt. i, 41, 199) ar wahân, yn dilyn delweddau'r tudalennau perthnasol.

Darllen pellach

  • J. J. Parry (gol.), Brut y Brehinedd. Cotton Cleopatra Version (Cambridge, Mass., 1937)
  • J. E. Caerwyn Williams, 'Gutun Owain', yn A. O. H. Jarman, Gwilym Rees Hughes & Dafydd R. Johnston (gol.), A Guide to Welsh literature, volume 2: 1282-c.1550(ail argr., 1997), tt. 240-55
  • E. Bachellery, L'oeuvre poétique de Gutun Owain, 2 gyfrol (Paris, 1950-1)

Dolenni perthnasol

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?