Cyfeirnod: NLW MS 3026C
Bu'r llawysgrif hon a luniwyd rhwng 1488 a 1489 yn rhan o gasgliad teulu Mostyn a chyfeirir ati weithiau dan ei hen enw, Mostyn MS 88. Llawysgrif femrwn gyda rhwymiad cain o femrwn gwyn ydyw. Mae'r llawysgrif yn ei stad bresennol yn cynnwys cydiadau o femrwn wedi eu rhwymo â thair dalen bapur i ffurfio pedwar plyg. Yn ôl safonau llawysgrifau Cymreig y cyfnod mae'r memrwn o ansawdd arbennig o dda ac yn wahanol i'r mwyafrif o lawysgrifau Cymreig yr oesoedd canol mae'n cynnwys darluniau lliwgar. Mae'n debyg, felly, y crëwyd hi ar gyfer unigolyn neu fynachlog gyfoethog.
Mae'r cynnwys fel a ganlyn :
Cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth a geir yn rhan gyntaf y llawysgrif. Yr oedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ar hyd a lled Ewrop erbyn y bymthegfed ganrif. I bobl yr Oesoedd Canol roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill a iechyd a thriniaeth feddygol gan y byddent yn effeithio ar hiwmorau'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar 'hiwmor' (tud. 35) yn parhau ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar y cydbwysedd rhwng yr hiwmorau gan achosi afiechyd.
Ail destun y llawysgrif yw 'Buchedd Martin', sef hanes bywyd Martin o Tours, nawdd sant Ffrainc ar y pryd. Daeth cwlt y sant i Brydain yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar ac fe'i cryfhawyd gan y Goncwest Normanaidd. Cafodd ddylanwad yng Nghymru ac fe gysegrwyd eglwys Llanfarthin ger Croesoswallt iddo.
Testun achyddol anghyflawn yw rhan olaf y llawysgrif. Mae'n dechrau drwy restru'r llinachau beiblaidd. Mae'r ail ran yn dilyn hanes disgynyddion Brutus a'r rhan olaf yn rhestru brenhinoedd Prydain yn dilyn gwaith Sieffre o Fynwy.
Ysgrifennwyd rhan helaethaf y llawysgrif, sef tt. 9-83, gan Gutun Owain. Fe'i ganed i deulu uchelwrol yn Arglwyddiaeth Croesoswallt a'i enw bedydd oedd Gruffydd ap Huw ab Owain. Bu'n ddisgybl i Dafydd ab Edmwnd (fl. 1450-97) a dywedir bod y ddau fardd yn bresennol yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1450. Adwaenir ef yn bennaf fel bardd ond yr oedd yn hyddysg mewn nifer o feysydd. Yr oedd yn un o achyddwyr pennaf ei gyfnod a bu'n aelod o'r comisiwn a benodwyd gan Harri VII i olrhain achau ei daid Owain Tudur. Bu hefyd yn gyfrifol am gopïo nifer o lawysgrifau pwysig Cymraeg yr Oesoedd Canol, er enghraifft Brenhinedd y Saeson a Brut Tysilio yn Llyfr Du Basing. Roedd ganddo wybodaeth hefyd am syniadau meddyginiaethol ei gyfnod ac am seryddiaeth. Adlewyrchir ei ddysg yn y llawysgrif hon.