De Consolatione Philosophiae

Cyfeirnod: Peniarth MS 393D

Dyma gopi o c.1380, o gyfieithiad Saesneg y bardd nodedig Geoffrey Chaucer (c. 1340-1400) o De Consolatione Philosophiæ (The Consolation of Philosophy) gan Boethius. Mae’r llawysgrif hon o bwysigrwydd a diddordeb enfawr, gan y credir i'r testun neu’i addurn fod yn llaw Adam Pinkhurst neu ‘Adam the scrivener’ fel y'i hadwaenir.


Dim ond yn 2004, wedi cyfnod o dros 600 mlynedd, y darganfuwyd mai Adam Pinkhurst oedd yr ysgrifydd. Roedd Adam Pinkhurst yn fab i dirfeddiannwr a oedd yn berchen ar fferm o’r enw Pinkhurst yn Surrey. Ffrwyth gwaith ymchwil Yr Athro Linne Mooney oedd y darganfyddiad hwn, ac erbyn heddiw credir efallai mai llawysgrifen Pinkhurst a geir yn y ddau gopi mwyaf awdurdodedig o The Canterbury Tales, sef Yr ‘Hengwrt Chaucer’ (Llsgr. Peniarth 392D), sydd yma yn y Llyfrgell, a llawysgrif Ellesmere, a geir yn Llyfrgell Huntington, San Marino, California.

Pinkhurst oedd un o sgrifyddion Chaucer, a cheir cyfeiriad ato yn ei gerdd, ‘Chaucer’s Wordes Unto Adam His Own Scriveyne'.  Yn y gerdd mae Chaucer yn beirniadu Pinkhurst am yr holl gamgymeriadau a wnaeth wrth gopïo gwahanol weithiau, gan gynnwys De Consolatione Philosophiae

Adam scrivener, if ever thee befall
Boece or Troilus for to write new,
Under thy longe locks thow maist have the scall,
But after my makinge thou write mor trew,
So oft a day I mot thy werke renewe
It to correct, and eke to rubbe and scrape,
And all is thorowe thy necligence and rape.

Y llawysgrif

Mae’r llawysgrif yn anghyflawn gyda dim ond 27 o ddalennau memrwn yn bodoli allan o’r 64 a oedd efallai yn y llawysgrif wreiddiol. Er bod y memrwn yn dangos arwyddion o frychni, mae’r testun mewn cyflwr da iawn. Defnyddir ambell ddyfais weledol yn y llawysgrif megis priflythrennau addurnedig, gyda’r lliwiau coch, glas ac aur yn addurno’r dalennau. Ailrwymwyd y llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1940.

Hanes y llawysgrif

Mae’n aneglur sut y daeth y llawysgrif i fod yng Nghymru. Nodir ar y ddalen olaf, fod y llawysgrif wedi cael ei rhoi i’r hynafiaethydd a’r botanegydd William Morris o Gaergybi (1705-1763) gan Edward Jones, Caernarfon yn 1737. Wedi hyn tybir efallai iddi fod ym mherchnogaeth John Lloyd o Hafodunos (1749-1815). Cyn i’r llawysgrif ddod i’r Llyfrgell Genedlaethol yn 1909, roedd yn rhan o gasgliad Peniarth, Meirionnydd.

Pwy oedd Boethius a beth yw De Consolatione Philosophiæ?

Ysgrifennwyd De Consolatione Philosophiæ yn wreiddiol gan yr awdur, bardd ac ysgolhaig Anicius Manlius Boethius (c.480-524) yn 524. Roedd yn gonswl ac yn ddyn pwerus iawn yn Llys Tewdrig Fawr (454-526), sef Brenin yr Eidal. Yn 523 camgyhuddwyd Boethius o frad, o gynllwynio ac o ymarfer dewiniaeth ddu yn erbyn y Brenin. Carcharwyd ef am flwyddyn yn Ticinum (Pavia heddiw), yng ngogledd yr Eidal ac yno fe'i harteithiwyd nes iddo farw.

Tra’r oedd yn y carchar credir bod Boethius wedi ysgrifennu cyfres o fyfyrdodau sef De Consolatione Philosophiæ, ar ffurf sgwrs rhyngddo ef ac Ysbryd Athroniaeth. Yn ei waith mae’n ystyried ei gamgyhuddiad ac ystyr bywyd. Daeth De Consolatione Philosophiæ yn waith dylanwadol iawn yn niwylliant Ewrop, ac ar hyd y canrifoedd fe’i cyfieithwyd gan nifer o awduron nodedig fel Chaucer. Cafodd y gwaith ddylanwad enfawr ar nifer o weithiau enwog Chaucer, gan gynnwys The Canterbury Tales a Troilus and Criseyde. Dywed V. E. Watts ‘almost all the passages of philosophical reflection of any length in the works of Chaucer can be traced to Boethius’.

Darllen pellach

  • Alan J. Fletcher, ‘The Criteria for Scribal Attribution: Dublin, Trinity College, MS 244, Some Early Copies of the Works of Geoffrey Chaucer, and the Canon of Adam Pynkhurst Manuscripts’, yn The Review of English Studies, New Series, 58 (Tachwedd, 2007), tt. 597-632
  • Alexandra Gillespie, ‘Reading Chaucer’s Words to Adam’, yn Chaucer Review, 42.3 (2008), tt. 269-83
  • Estelle Stubbs, ‘A new manuscript by the Hengwrt / Ellesmere Scribe? Aberystwyth, National Library of Wales, MS. Peniarth 393 D’, yn Journal of the Early Book Society, 5 (2002), tt. 161-8
  • Linne Mooney, ‘Chaucer’s Scribe’, yn Speculum: A Journal of Medieval Studies, 81 (2006), tt. 97-138
  • P.G. Walsh (gol.), Boethius The Consolation of Philosophy (Rhydychen: Gwasg y Brifysgol, 1999)
  • Richard West, Chaucer 1340-1400, The life and times of the first English poet, (Llundain: Robinson, 2002)
  • V.E. Watts (gol.), Boethius The Consolation of Philosophy (Middlesex: Penguin Books Ltd., 1969)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?