Proffwydoliaethau Taliesin a Myrddin

Cyfeirnod: Peniarth MS 137

Llawysgrif mewn mewn mwy nag un llaw o'r 16eg ganrif, gan gynnwys John ap Rhys, yn cynnwys proffwydoliaethau a briodolir i Myrddin, Taliesin ac eraill; barddoniaeth Tudur Aled; achau; rhaniadau Arglwyddiaeth Powys a'r Olew Fendigaid. Ceir nifer o ddyddiadau yn y llawysgrif, er enghraifft 1541 (t.183) a 1588 (t.219); ysgrifennwyd y tudalennau eraill yng nghyfnod Harri VIII ac Elizabeth I. Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, cyfrol I (Llundain, 1898-1905), 861-867.