Cywyddau ac Awdlau

Cyfeirnod: NLW MS 3057D

Cyfrol o awdlau a chywyddau gan nifer o feirdd. Mae'r llawysgrif yn gyfrol gyfansawdd a rannwyd yn bedwar llyfr: Rhan I (tt. 49-434), Rhan II (tt 435-512), (Rhan III 514-942) a Rhan IV (tt 943-998). Ymddengys i dudalennau 57-432 gael eu hysgrifennu cyn 1563 ; mae'r gweddill yn perthyn i ganol y 17eg ganrif. Ceir rhestr fanwl o gynnwys y llawysgrif yn J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language, Cyf. I (Llundain, 1898-1905), tt. 242-255.