Dafydd ap Gwilym a'r Cywyddwyr

O lafar i lyfr

Yn ystod yr Oesoedd Canol, wrth i fwy o bobl, gan gynnwys y beirdd eu hunain, ddysgu darllen ac ysgrifennu, cynyddodd yr arfer o gofnodi barddoniaeth Gymraeg mewn llawysgrifau, er bod cyfansoddi, perfformio a throsglwyddo ar lafar yn parhau'n gyffredin. Gwaith copïwyr lled broffesiynol oedd rhai llawysgrifau, ond o'r bymthegfed ganrif ymlaen, fe drodd rhai o'r beirdd yn gopïwyr hefyd. Trodd ambell un ei law at gofnodi nid yn unig enghreifftiau o'i gerddi ei hun ond hefyd, mewn rhai achosion, waith ei gyfoeswyr neu ei ragflaenwyr, gan ganolbwyntio ar y cywydd yn bennaf.

Dafydd ap Gwilym a'r beirdd

Gwaith Dafydd ap Gwilym (fl. 1320-70), yn anad neb arall, fu'n gyfrifol am boblogrwydd cynyddol y cywydd o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. Mae'n bosibl mai Dafydd ei hun a gopïodd un o'i gerddi yn Llawysgrif Hendregadredd (llsgr. NLW 6680B). Ymhlith y beirdd a fu'n cofnodi eu cerddi eu hunain neu waith beirdd eraill, gellir enwi Gwilym Tew (fl. 1460-80) yn llawysgrif Peniarth 51, Hywel Dafi (fl. 1450-80) yn llawysgrif Peniarth 67, a Huw Cae Llwyd (fl. 1455-1505) yn llawysgrif Peniarth 54. Nid gwaith hawdd oedd i ambell un, megis Dafydd Epynt (fl. 1456-1515), drin yr ysgrifbin, fel y dengys ansawdd ei lawysgrifen yn llawysgrifau Peniarth 54 a 55. Ond ar y llaw arall, gellir disgrifio Llywelyn Siôn (1540-?1615), copïydd llawysgrif Llanstephan 47, fel ysgrifwr proffesiynol. Aros yn anhysbys, fodd bynnag, a wna llawer o'r rhai a ddiogelodd farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, ac nid hawdd yw cynnig dyddiadau pendant i'r llawysgrifau hyn. Yn aml, gwelir o fewn yr un gyfrol, law mwy nag un copïydd, weithiau'n pontio ystod hir o flynyddoedd.

Detholiad o lawysgrifau

Mae pob un o'r llawysgrifau a gyflwynir yma - y gynharaf o'r bymthegfed ganrif a'r ddiweddaraf o'r ail ganrif ar bymtheg - yn cynnwys un neu ragor o gerddi a briodolir i Ddafydd ap Gwilym, ond yn yr un cyfrolau fe ddiogelwyd enghreifftiau o waith nifer helaeth o gywyddwyr eraill hefyd. Awydd yr hynafiaethydd i ddiogelu y traddodiad barddol oedd cymhelliad nifer o'r casglwyr a chopïwyr. Gydag ambell eithriad, megis yr ychydig gerddi ar dair dalen atodol o femrwn sydd yn rhagflaenu prif ran llawysgrif Llanstephan 27, cyfrolau papur, cymharol fychan a di-sylw yr olwg yw'r rhain, wedi eu creu at ddibenion ymarferol yn bennaf.

Ceir cyfeiriadau at y cerddi unigol yn y llawysgrifau hyn yng nghyfrolau J. Gwenogvryn Evans, Report on Manuscripts in the Welsh Language (Historical Manuscripts Commission: London, (1898-1910) ac yng nghronfa ddata'r Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau. Mae golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym yn cael ei baratoi ar hyn o bryd gan arbenigwyr o adrannau y Gymraeg, Prifysgol Cymru, dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston o Brifysgol Cymru Abertawe. Bwriedir cyhoeddi'r golygiad newydd hwn ar ffurf brintiedig, ac ar wefan arbennig fydd yn cynnwys delweddau o lawysgrifau perthnasol.

Darllen pellach

  • Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd & Aberystwyth, 2000)
  • Daniel Huws, Cynnull y Farddoniaeth (Aberystwyth, 2004)
  • E. Stanton Roberts, Llanstephan MS. 6 ([Cardiff], 1916)
  • E. Stanton Roberts, Peniarth MS. 67 ([Cardiff], 1918)
  • E. Stanton Roberts, Peniarth MS.57 ([Cardiff], 1921)
  • W.J. Gruffydd & E. Stanton Roberts, Peniarth 76 (Caerdydd & Llundain, 1927)
  • Thomas Parry, Peniarth 49 (Caerdydd, 1929)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?