Chaucer Hengwrt

Cyfeirnod: Llsgr. Peniarth 392D

Heb os, ‘Chaucer Hengwrt’ (The Hengwrt Chaucer) yw un o brif drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae’n enwog ymhell y tu hwnt i Gymru. Mae’n un o’r testunau pwysicaf o waith Geoffrey Chaucer i oroesi, a thanlinellwyd ei bwysigrwydd ymhellach yn ddiweddar trwy adnabod y scrifydd, sef Adam Pinkhurst, un a oedd yn gweithio gyda Chaucer yn Llundain. Mae’n bosibl i’r llawysgrif gael ei hysgrifennu ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Geoffrey Chaucer

Ystyrir Geoffrey Chaucer (ganed cyn 1346 - bu farw yn 1400) y mwyaf o feirdd Saesneg yr Oesoedd Canol. Cydnabuwyd ei athrylith yn ystod ei oes a phrofodd ei waith yn ddylanwadol ar lenyddiaeth Saesneg drwy gydol y bymthegfed ganrif. Ceisiodd llawer ddynwared ei gyfuniad unigryw o hiwmor, realaeth, ei hyfedredd fel bardd a'i reolaeth ar ddialog a chymeriadu dros y canrifoedd, ond methu fu eu hanes. Nodweddir ei waith â hiwmor, sydd weithiau'n hiwmor garw, aflednais, ac y mae ef ei hun yn gyff gwawd yr hiwmor hwnnw o bryd i'w gilydd.

Chwedlau Caergaint

Yr enwocaf o weithiau Chaucer yw Chwedlau Caergaint (The Canterbury Tales), sef casgliad anorffenedig o straeon neu chwedlau a adroddir gan grŵp o gymeriadau sydd yn cyd-deithio ar bererindod at feddrod Thomas Becket yng Nghaergaint. Disgrifir y deg pererin ar hugain mewn prolog cyffredinol lle cyflwynir fframwaith y gwaith, sef bod disgwyl i bob pererin adrodd dau hanesyn ar y ffordd yno, a dau hanesyn arall ar y ffordd yn ôl, gyda'r chwedleuwr gorau yn ennill ei swper yn rhad ac am ddim. Corff y gwaith yw dau ddwsin o chwedlau sy'n cynnwys dwy a adroddir gan Chaucer ei hunan. Mae'r cyfan yn cydblethu'n effeithiol i greu drama gymdeithasol sy'n arbennig o fywiog a lliwgar.

Adam Pinkhurst a Chaucer Hengwrt

Yn 2004, llwyddodd yr Athro Linne Mooney i adnabod y scrifydd a luniodd lawysgrif Chaucer Hengwrt, sef Adam Pinkhurst. Pinkhurst oedd hefyd yn gyfrifol am lunio llawysgrifau eraill o weithiau Chaucer, gan gynnwys Chaucer Ellesmere (The Ellesmere Chaucer, Llyfrgell Huntington, San Marino, Llsgr. EL 26 C9), a’r Boece (Llsgr. Peniarth 393D) yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Credir hefyd mai ef yw gwrthrych y gerdd ‘Chaucer words unto Adam his scrivener’, lle mae’r bardd yn dwrdio Adam, ei scrifydd, am ei fynych gamgymeriadau wrth gopïo testunau llawysgrif. Mae’r cyswllt hwn rhwng awdur a’i scrifydd, ynghyd ag ystyriaethau palaeograffyddol, yn ei gwneud yn bosibl i Chaucer Hengwrt gael ei ysgrifennu cyn marw Chaucer yn 1400, neu’n fuan wedyn.

Llawysgrifau Chaucer a Chymru

Mae cysylltiadau Cymreig y llawysgrif gynnar a phwysig hon o Chwedlau Caergaint yn adlewyrchu patrwm cyffredin iawn yn hanes diwylliannol Cymru. O'r Oesoedd Canol diweddar ymlaen, cafodd llawysgrifau Saesneg eu darllen, eu casglu, eu copïo a'u trysori yng Nghymru, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg ceir tystiolaeth yn aml fod llawysgrifau Saesneg ym meddiant Cymry. Ymysg llawysgrifau eraill o weithiau Chaucer yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae:

  • copi o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o’r Boece, cyfieithiad Chaucer i’r Saesneg o De Consolatione Philosophiae Boethius (Llsgr. Peniarth 393D)
  • tair dalen, yn dyddio o ran gynta’r bymthegfed ganrif, a elwir 'Dernyn Merthyr', ac sy'n cynnwys rhan o'r Nun's Priest's Tale (llawysgrif LlGC 21972D)
  • tri chopi o'r Tretyse on the Astrolabe, ac iddynt gysylltiadau cynnar Cymreig (Llsgrau. Peniarth 359, LlGC 3049D a LlGC 3567B).

Hanes diweddar Chaucer Hengwrt

Dengys ychwanegiadau i'r gyfrol ei bod hi ar y Gororau erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, ym meddiant Fouke Dutton, brethynnwr o Gaer, mae'n debyg, a fu farw ym 1558. Erbyn y 1570au cysylltir y llawysgrif â'r teulu Banestar neu Bannester, hwythau'n gysylltiedig ag ardal Caer, eithr ganed y tri phlentyn ieuengaf yn Llanfair-is-gaer ger Caernarfon. Cyfeiria nodyn arall, dyddiedig 1625, at Andrew Brereton, eto o Lanfair-is-gaer, a fu farw ym 1649. Oddi yno y daeth y llawysgrif i lyfrgell enwog Robert Vaughan (c. 1592-1667), Hengwrt, Meirionnydd. Yn Hengwrt y bu ei gasgliad ef tan 1859 pryd y daeth, trwy gymynrodd, i feddiant W.W.E. Wynne o Beniarth. Gwerthodd ei fab yntau'r llawysgrifau i Syr John Williams ym 1904, a phum mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd Syr John lawysgrifau Peniarth, gan gynnwys rhai Hengwrt, yn rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol a oedd newydd ei sefydlu. Bu 'Chaucer Hengwrt' yn un o brif drysorau'r Llyfrgell fyth ers hynny, ac fe’i cynhwyswyd, ymysg llawysgrifau eraill Peniarth, ar ‘Restr Cof y Byd’ Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn 2010.

Copïo Chaucer Hengwrt

Hyd yn hyn, rhoddid mynediad i ddefnyddwyr at ddelweddau o’r llawysgrif trwy gyfrwn

  1. lluniau printiedig du a gwyn yn The Canterbury Tales: a facsimile and transcription of the Hengwrt manuscript, with variants from the Ellesmere manuscript, golygwyd gan Paul C. Ruggiers (Norman, Oklahoma: University of Oklahoma Press, 1979)
  2. copi meicroffilm du a gwyn, a grëwyd yng Ngorffennaf 1995, ar gyfer defnydd darllenwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  3. lluniau lliw digidol (o ansawdd uchel 225 dpi) mewn CD-Rom a gyhoeddwyd gan Scholarly Digital Editions ym mis Mawrth 2001, ac a baratowyd ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Canterbury Tales Project, oedd yn gysylltiedig â Phrifysgol De Montfort, Caerlŷr.

Gobeithir y bydd modd i ddefnyddwyr y delweddau gwe newydd hyn wneud defnydd hefyd o’r adnoddau ychwanegol a gyflwynir yn y cyntaf a’r trydydd o’r tarddellau uchod.

Darllen pellach

  • John M. Manly ac Edith Rickert, ‘The Hengwrt Manuscript of Chaucer’s Canterbury Tales’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1 (1939), 59-75.
  • Norman F. Blake, The Canterbury Tales, edited from the Hengwrt Manuscript, York Medieval Texts, second series (London: Edward Arnold, 1980).
  • Linne R. Mooney, ‘Chaucer's Scribe’, Speculum, 81 (2006), 97-138
  • Linne R. Mooney & Estelle Stubbs, Scribes and the City: London Guildhall clerks and the dissemination of Middle English literature (York: York Medieval Press, 2013
  • Gwefan prosiect Late Medieval English Scribes

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.