Brwydrau Alecsander Fawr

Cyfeirnod: Peniarth MS 481D

Ysgrifennwyd llawysgrif Peniarth 481D ar femrwn yn niwedd y 15fed ganrif. Mae dwy ran i’r llawysgrif, ac mae’n debyg i’r ddwy ran gael eu rhwymo’n un gyfrol o’r cychwyn cyntaf, yn Lloegr yn ôl pob tebyg. Dyma un o lawysgrifau canoloesol harddaf eu haddurn y Llyfrgell, ac mae’n enghraifft brin o oroesiad mewn rhwymiad gwreiddiol.

Cynnwys

Ysgrifennwyd rhan gyntaf y llawysgrif gan Sais, a’i darlunio gan grefftwr o Fflandrys. Mae ynddi ddau destun, sef:

  • Cynghorion a diarhebion a ffurfiai werslyfr Lladin poblogaidd o’r enw Disticha Catonis (‘Cwpledi Cato’), gydag ychwanegiadau o aralleiriad Benedict Burgh mewn penillion rheiol Saesneg Canol (ff. 1-27);
  • Testun Lladin yr Historia de preliis Alexandri Magni (‘Hanes Brwydrau Alecsander’, fersiwn J1), yn seiliedig ar gyfieithiad Lladin Leo o Napoli, a luniwyd yn y 12fed ganrif, o destun Groeg (ff. 30-98).

Ysgrifennwyd ac addurnwyd ail ran y llawysgrif yng Nghwlen (ff. 99-167). Ceir ynddi destun yr Historia trium Regum (‘Hanes y Tri Brenin’), a ysgrifennwyd gan John o Hildesheim yn y 14eg ganrif, ac sy’n esbonio presenoldeb creiriau Tri Gŵr Doeth Efengyl Mathew yn ninas Cwlen yn yr Almaen.

Darluniau

Addurnwyd rhan gyntaf y llawysgrif gyda 30 mân-ddarlun yn arddull Fflandrys. Ceir 4 mân-ddarlun, yn bennaf o’r awdur a’i gyfieithydd, i gyd-fynd â’r Disticha Catonis, a cheir 26 i gyd-fynd â’r Historia de preliis, nifer ohonynt wedi eu rhannu, gan ddarlunio cyfanswm o 47 golygfa. Roedd stori boblogaidd bywyd Alecsander Fawr yn destun delfrydol ar gyfer y darlunydd canoloesol. Addurnwyd ymylon dail y testun yn hardd hefyd, a goreurwyd rhai prif lythrennau.

Rhwymiad

Dyma un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn ei rhwymiad gwreiddiol. Fe’i rhwymwyd mewn cloriau pren wedi eu gorchuddio â melfed rhuddgoch, ac mae ar y cloriau hefyd foglymau efydd, gorchuddion i’r corneli, a phinnau a bachau ar gyfer careiau. Yn ôl pob tebyg, cafodd y llawysgrif ei rhwymo yn Lloegr yn niwedd y 15fed ganrif.

Hanes y llawysgrif

Erys peth dirgelwch ynglŷn â hanes cynnar y llawysgrif. Bu’n eiddo i Syr John Cutts o Childerly, swydd Gaergrawnt (bu f. 1615) a’i gyfoeswr Thomas Gawdy o Snitterton, swydd Norfolk. Wedi hynny, mae’n bosibl iddi fod yn llyfrgell Syr Kenelm Digby (1603-1665), y bu i’w wyres briodi Richard Mostyn (1658-1735) o Benbedw, sir Fflint. Dengys y llyfrblat sydd ynddi fod y llawysgrif ym Mhenbedw ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac fe’i trosglwyddwyd wedyn yn sgil priodas i blasty Peniarth, Meirionnydd. Cafodd ei heithrio o werthiant llawysgrifau Peniarth i Syr John Williams ym 1904, ond fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan Miss Gwendoline a Miss Margaret Davies o Regynog, a’i cyflwynodd yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1921.

Darllen pellach

  • W.Ll. Davies, ‘Disticha Catonis’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.2, rh.1, Haf 1941, 38
  • D.J.A. Ross, Alexander Historiatus: A Guide to Medieval Illustrated Alexander Literature (Llundain, 1963)
  • R. Telfryn Pritchard, The History of Alexander’s Battles: Historia de preliis – the J1 version (Toronto, 1992)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?