Brut y Brenhinedd

Cyfeirnod: Peniarth MS 23C

Llawysgrif Peniarth 23 yw un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol Cymreig, a’r unig destun naratif Cymraeg o’r cyfnod, i gynnwys darluniau. Yn y gyfrol, ceir un o gynhyrchion pwysicaf y cyfnod canol oesol, wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg.

Cynnwys

Y testun a geir yn y llawysgrif yw campwaith dylanwadol Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae (‘Hanes Brenhinoedd Prydain’, c. 1135), wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg fel ‘Brut y Brenhinedd’ (ff. 1-106v). Mae’r gwaith Lladin gwreiddiol yn olrhain hanes y Brythoniaid yn ôl i gyfnod Brutus, sefydlydd tybiedig Prydain, a ymsefydlodd yma gyda’i osgordd wedi cwymp Caerdroea. Yn yr Historia y ceir y portread cyflawn cynharaf o’r brenin Arthur, ac roedd yn waith poblogaidd a dylanwadol yng Nghymru’r oesau canol. Ymddangosodd y cyfieithiad Cymraeg yn ystod y 13eg ganrif ac fe’i ceir mewn rhagor na 60 o lawysgrifau. Mae cyswllt rhwng y copi hwn â llsgr. Peniarth 21, sy’n dyddio o ran gyntaf y 14eg ganrif.

Delweddau

Nodwedd anarferol yn y llawysgrif naratif hon yw i rywun ychwanegu ati oddeutu 59 o ddelweddau syml. Cynhwysant 57 portread o frenhinoedd, gan gynnwys Aeneas a Brutus o Gaerdoea (ff. 1r, 10r), Arthur (f. 75v), a Chadwaladr Fendigaid (f. 104v), ynghyd â darluniau o Eni Crist (f. 36v) a’i Groeshoeliad (f. 38r). Aeth yr ysgrifydd, neu ddylunydd arall, ati hefyd i addurno rhai llythrennau gyda delweddau o bennau anifeiliaid a dynion.

Y llawysgrif

Ysgrifennwyd y llawysgrif ar femrwn gan un ysgrifydd cyn diwedd y 15fed ganrif, a hynny, yn ôl pob tebyg, yng Ngogledd Cymru. Awgryma presenoldeb y delweddau i’r gyfrol gael ei chreu ar gyfer noddwr lleyg, ond collwyd tystiolaeth werthfawr yr ysgrifydd am amgylchiadau’r ysgrifennu o dan haen drwchus o fustl ar f. 106v. Ychwanegwyd nodiadau ac enwau ar ymylon nifer o’r dail yn ystod y 16eg ganrif, cyn i’r llawysgrif ddod yn rhan o gasgliad Robert Vaughan yn Hengwrt, sir Feirionnydd. Mae’n bosibl mai yn Hengwrt, yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, y cnowyd ymylon allanol uchaf y dail gan lygod. Rhwymwyd y llawysgrif o’r newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Llyfryddiaeth

  • Acton Griscom a Robert Ellis Jones (gol.), The Historia Regum Britanniæ of Geoffrey of Monmouth with contributions to the study of its place in early British history (London, 1929)
  • John Jay Parry (gol.), Brut y Brehinedd: Cotton Cleopatra Version (Cambridge, Mass., 1937)
  • Brynley F. Roberts, ‘Astudiaeth destunol o’r tri chyfieithiad Cymraeg cynharaf o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, ynghyd ag “argraffiad” beirniadol o destun Peniarth 44’ (traethawd PhD anghyhoeddedig Prifysgol Cymru, 1969)
  • Brynley F. Roberts (gol.), Brut y Brenhinedd: Llanstephan MS. 1 Version (Dublin, 1971)
  • Brynley F. Roberts, ‘Geoffrey of Monmouth, Histora Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd’, yn Rachel Bromwich, A.O.H. Jarman a Brynley F. Roberts (gol.), The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature (Cardiff, 1991), 97-116

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.