Canu'r carchar T. E. Nicholas

Cyfeirnod: NLW MS 13692A

 

Cyfrol yw hon a ysgrifennwyd gan T. E. Nicholas, neu Niclas y Glais tra'r oedd yng ngharchardai Abertawe a Brixton rhwng 11 Gorffennaf a 22 Hydref 1940. Ysgrifennai ar lechen yn y lle cyntaf (fel y disgrifir yn y soned 'Llechen Arfon' (f. 113) ac 'I'm Llechen' (f. 77) a 'Sonedau' (f. 192)), cyn copio'r cerddi ar bapur tŷ bach y carchar; neu dro arall ar gefn darnau o lythyrau (er enghraifft f.21v-24v acf. 200v).

Gwelwn ei fod wedi ysgrifennu 'Brixton' ar frig y tudalennau cyntaf (f. 1-29), ac yna ceir blaen ddalen ar gyfer "LLYGAD Y DRWS. Sonedau'r carchar." gyda'i enw a'i rif carcharor "T. E. Nicholas, Estron 2740" (f. 31). Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r sonedau yn Llygad y Drws: Sonedau'r Carchar (Aberystwyth, 1940) a Canu'r Carchar (Llandysul, 1942), a chyfieithiadau ohonynt yn The Prison Sonnets of T. E. Nicholas (Llundain, 1948).

Y bardd wedi ei garcharu - yr awen yn rhydd

Carcharwyd Niclas y Glais a'i fab T. Islwyn Williams ar ffug gyhuddiadau gan Brif Gwnstabl Ceredigion oherwydd eu daliadau gwleidyddol. Chwiliwyd eu tai heb warant, ni chafwyd cyhuddiad na thystiolaeth yn eu herbyn ac fe'u rhyddhawyd yn dilyn gwrthdystiadau gan nifer o gapeli a mudiadau Llafur. Derbyniodd ef dros fil o gardiau pen-blwydd a thelegramau yn y carchar ar ei ben-blwydd ar 6 Hydref 1940.

Disgrifir Thomas Evan Nicholas (1879-1971) fel pregethwr, darlithydd a deintydd o ran ei alwedigaeth ond hefyd fel bardd, Sosialydd, Comiwnydd, heddychwr a chwyldroadwr. Roedd yn arloeswr y mudiad llafur, yn un o aelodau cychwynnol Y Blaid Gomiwnyddol ym Mhrydain, a safodd mewn etholiad dros y Blaid Lafur Annibynnol (I.L.P.) yn 1918. Galwyd ef yn Niclas y Glais oherwydd bu'n weinidog yn y Glais o 1904 i 1914, yn ogystal â gweinidogaethu yn Llandeilo, Dodgeville (UDA), Llangybi a Llanddewi Brefi. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Salmau'r Werin, yn 1909 a chyhoeddodd naw cyfrol arall o farddoniaeth ar ôl hynny.

Cerddi'r Carchar

Bu'r cyfnod yn y carchar yn gynhyrchiol iawn iddo fel bardd - ysgrifennodd 150 o sonedau mewn llai na phedwar mis - ac mae'r sonedau ymhlith y farddoniaeth orau a ysgrifennwyd ganddo.  Nid oes teitlau wedi eu gosod ar y rhan fwyaf o'r sonedau yn y llawysgrif hon, a cheir rhai gwahaniaethau i'r hyn sydd yn y deipysgrif (NLW MS 13693C) a'r hyn a ymddangosodd yn y pendraw yn y cyfrolau cyhoeddedig. Ni ymddangosodd rhai cerddi, megis y soned feirniadol at 'Golygydd y Cymro' (f. 94), a rhai o'r sonedau Saesneg yn y llyfrau printiedig.

Mae llawer o'r cerddi'n ymwneud â'r profiad o fod o dan glo a hefyd yn cydymdeimlo ag eraill sy'n dioddef gormes a chaethiwed. Gweler 'Y Negro' (f. 28), 'I Aderyn y To' (f. 80), 'Cath y Carchar' (f. 88), 'Indiaid' (f. 97), [Blodau'r Carchar] (f. 139), [Llygad y Drws] (f. 185), 'Sonedau' (f. 192), 'Troseddwyr' (f. 194), a '2740' (f. 193).  Cyfieithwyd y gerdd 'I Aderyn y To' (f. 80) gan Wil Ifan fel 'To a Sparrow' (f. 32 a 33).

Llawysgrifau Niclas y Glais yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cyflwynodd T. E. Nicholas y gyfrol hon i'r Llyfrgell yn 1941 ynghyd â thair llawysgrif arall (NLW MS 13693-5). Copi teipysgrif o 'Canu'r Carchar' yw NLW MS 13693C sydd hefyd yn cynnwys adroddiad manwl gan T. E. Nicholas ei hun am hanes ei garcharu. Mae'r llawysgrifau eraill yn cynnwys llythyrau ato oddi wrth William Rees (NLW MS 13694A), a chyfieithiad o'r gerdd 'Sara' (NLW MS 13695D).

Ceir nifer o lyfrau lloffion, gohebiaeth a thapiau sain ym Mhapurau Islwyn Nicholas a ddisgrifir yn Adroddiad Blynyddol 1980-81. Ceir llythyrau oddi wrth T. E. Nicholas a gwybodaeth amdano ymhlith papurau eraill sydd yn y Llyfrgell, er enghraifft Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas (ffeil 4), Papurau Gwenallt (ffeil CH138), Papurau Dewi Emrys (ffeil 26), ym mhapurau Ithel Davies (ffeil 313-34), Idris Cox (ffeiliau 26, 72-6), a NLW ex 1491.

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.