Llythyrau ymfudwyr

Cyfeirnod: Llsgr. 22846D

Mae'r mwyafrif o'r llythyrau a gyflwynir yma gan Henry Jones (1824-52) a ymfudodd i Holland Patent, Efrog Newydd, yn 1850, a'i chwaer, Mary Jones (1831-61), a fudodd i Ballarat, New South Wales yn 1856. Maent wedi'u cyfeirio at aelodau o'u teulu yn Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd. Hefyd ceir penillion gan Mary Jones, 'Hiraeth am fy ngwlad' (ff. 39-40).

Mudo i America

Er bod y niferoedd o Gymry a fudodd i America ac Awstralia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn is o lawer nac o wledydd llai diwydiannol, megis Iwerddon, gadawodd nifer sylweddol o Gymry yn y gobaith o fywyd gwell. Amcangyfrifir bod tua 60,000 o bobl wedi mynd o Gymru i'r Unol Daleithiau yn ystod y cyfnod 1850-70.

Awgrymwyd nifer o ffactorau am fudo o Gymru yn ystod blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd llawer o'r tenant ffermwyr a gweision fferm Cymreig yn byw mewn tlodi. Hefyd, golygai'r ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd glo a dur bod cyflogaeth llawer o'r gweithwyr dur a'r glowyr yn annibynadwy.

Pan siaradai radicaliaid fel Samuel Roberts ('S.R.'; 1800-85) a Michael D. Jones (1822-98) o blaid ymfudo, yr oedd llawer yn barod i wrando. Gwelwyd ymfudo'n aml fel cyfle i fod yn berchen ar dir mewn cyfnod pan oedd y mwyafrif o dir Cymru yn nwylo'r bonedd. Aeth eraill i weithio yng nglofeydd a chwareli yr ardaloedd diwydiannol.

Heidiodd llawer o'r ymfudwyr yma i gymunedau o Gymry America, fel Cambria yn Pennsylvania, Gallia yn Ohio ac Oneida yn nhalaith Efrog Newydd. Ymfudodd cymaint o Gymry i Wisconsin fel y bu angen cyfieithu cyfansoddiad y dalaith i'r Gymraeg.

Yr achos enwocaf o ymfudiad Cymreig oedd yr ymgais a wnaed gan Michael D. Jones ac eraill i sefydlu gwladychfa ym Mhatagonia, yr Ariannin. Glaniodd yr ymfudwyr Cymreig cyntaf ym Mhorth Madryn yn 1865 ac mae poblogaeth fechan o drigolion sy'n medru'r Gymraeg yn parhau yno hyd heddiw.

Ymfudo i Awstralia

Erbyn i Mary Jones ymfudo i Ballarat yn 1856 yr oedd llawer o ymfudwyr Cymreig eraill eisoes wedi ymsefydlu yno. Cyrhaeddodd nifer fawr yn ystod y rhuthr am aur a gafwyd yn yr 1850au. Yr oedd gan y mwyafrif o'r trefi a'r dinasoedd mawrion yn Awstralia gapeli Cymraeg ac roedd rhai'n cynnal eisteddfod flynyddol. Er hyn, ni oroesodd y diwylliant Cymreig mor hir yma ag a wnaeth ym Mhatagonia a rhai rhannau o America. O fewn cyfnod byr cymhathwyd y Cymry i mewn i brif ffrwd cymdeithas a diwylliant Awstralia.

Cynnwys y llythyron

Ymgartrefodd Henry Jones mewn ardal lle roedd poblogaeth Gymreig eisoes yn bodoli. Yn Holland Patent, Talaith Efrog Newydd heddiw mae gan dros 16% o'r boblogaeth wreiddiau Cymreig. Yn ei lythyron hir a manwl disgrifiai ei gartref newydd a'i fywyd gan gyfeirio at fewnfudwyr Cymreig eraill. Yn anffodus, bu fyw am 2 flynedd yn unig ar ôl cyrraedd ei gartref newydd.

Pan ddechreuai llythyrau Mary roedd hi'n byw yn y Trallwng ond yna teithiodd o Lerpwl i Awstralia ar long o linell y White Star. Yn un llythyr mae hi'n disgrifio'i thaith, bywyd ar fwrdd y llong a rhai o'i chyd-deithwyr. Tra roedd hi'n byw yn Awstralia lluniodd faled o'r enw 'Hiraeth am fy ngwlad'. Cyhoeddwyd honno ar ôl ei marwolaeth yn 1861.

Darllen pellach