Llyfr Swynion John Harries Cwrtycadno

Cyfeirnod: NLW MS 11117B

Cyfrol llawysgrif o lyfrgell John Harries (bu f. 1839), o Bantcoy, Cwrtycadno, Sir Gaerfyrddin, astrolegwr a meddyg, yn cynnwys nifer o swynion darluniadol ac arwyddion astrolegol.

John a Henry Harries

Roedd y teulu Harries yn enwog drwy Gymru a siroedd cyfagos dros y ffin yn Lloegr fel meddygon proffesiynol, llawfeddygon dawnus ac astrolegwyr medrus a oedd yn uchel eu parch yn y gymdeithas. Fe ddaethon nhw’n enwog am eu dawn i broffwydo’r dyfodol, darganfod eiddo  a oedd ar goll neu wedi ei ddwyn, brwydro gwrachyddiaeth a chodi ysbrydion rhadlon ac o ganlyniad fe’u condemniwyd yn arw gan grefyddwyr y 19eg ganrif.

Tybir i John Harries (Shon Harri Shon) (c.1785-1839) gael ei eni ym Mhantcoy, Cwrtycadno, Sir Gaerfyrddin, ac fe’i bedyddiwyd ym mhentref Caio ar Ebrill y 10fed 1785. Ef oedd plentyn cyntaf Henry Jones (Harry John, Harry Shon), Pantycoy (1739-1805), saer maen, a’i wraig Mary Wilkins. Fe’i haddysgwyd yn Academi Breifat Fasnachol Y Cowings, Caio, ac yn ysgol ramadeg Hwlffordd, ond ni wyddys ble’r astudiodd feddygaeth cyn dychwelyd i bentref Caio i agor meddygfa.

Dywedir iddo guddio un o’i lyfrau dan glo, gan fentro ei agor unwaith y flwyddyn mewn coedwig ddiarffordd gerllaw, lle byddai’n darllen swynion amrywiol ohoni i alw ysbrydion.  Mae’n debyg bod storm ddifrifol yn digwydd bob tro yr agorid y llyfr. Dyma sail y syniad bod pŵer y teulu’n deillio o’r gyfrol drwchus o swynion yma a oedd wedi ei rhwymo gan gadwyn haearn a 3 chlo. Sonia J. H. Davies yn ei lyfr Rhai o hen ddewiniaid Cymru a gyhoeddwyd ym 1901, mai’r unig lyfr a welodd yn ystod ei ymweliad â Chwrtycadno rai blynyddoedd ynghynt a oedd yn debyg i’r llyfr yma, oedd hen lyfr du gyda dau glo, maint Beibl teuluol, a oedd yn cynnwys offer meddygol amrywiol. Awgryma taw hwn oedd y llyfr dywededig. Yn ei thraethawd anghyhoeddedig mae Ithiel Vaughan-Poppy yn sôn bod y llyfr dan sylw, yn ôl traddodiad teuluol, yn y Llyfrgell Genedlaethol ond ni chafwyd cofnod ohono yn y Llyfrgell.

Dywedir bod John Harries wedi cael rhagargoel y byddai’n marw trwy ddamwain ar Fai yr 11eg 1839, ac er mwyn osgoi hyn, arhosodd yn y gwely drwy’r dydd. Aeth y tŷ ar dân yn ystod y nos a bu farw.

Roedd Henry Gwynne Harries (c.1821-1849), mab John Harries, hefyd yn feddyg adnabyddus ac yn ‘dyn hysbys’. Fe’i bedyddiwyd ar y 7fed o Dachwedd 1821, ac fe gafodd ef hefyd ei addysgu yn y Cowings ac yn ysgol ramadeg Hwlffordd, ac mae’n bosib ei fod wedi astudio ym Mhrifysgol Llundain. Bu farw o’r ddarfodedigaeth ar 16 Mehefin 1849 yn 28 oed.

Yr ail fab, John Harries, (c.1827-1863), oedd yr olaf o ddynion hysbys enwog Cwrtycadno. Arferai ymhél rywfaint ag astroleg ond ‘ni wnaeth fyth ddisgleirio’ (NLW MS 11119B), ac awgrymwyd iddo elwa ar enw da ei deulu.

Y Llawysgrif

Rhoddwyd llyfr swynion holograff John Harries (NLW MS 11117B) i’r Llyfrgell yn 1935 fel rhan o gasgliad mwy o lawysgrifau a phapurau (NLW MSS 11701-11718) o lyfrgell John a Henry Harries. Dengys sut y medra’r ‘dyn hysbys’ alw ysbrydion rhadlon; rhestra nodweddion pob ysbryd, gyda diagramau yn cynrychioli’r ysbryd i’w alw;  ceir arwyddion astrolegol a chyfrifon, biliau a thudalennau o gyfriflyfrau, 1814-31, rhybudd terfynol argraffedig a ddefnyddiwyd ganddo i gasglu dyledion a ‘Prophetic Almanack’, 1825, ayb. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys memoranda ac amcanrifau, 1849-56, yn ogystal â llythyr cynigion Rees Evans, Bwlchyrhyw ac Anne Thomas, Esgereithry, Caio, Sir Gaerfyrddin, 1859.

Nid y llyfr mawr o swynion a ddisgrifiwyd gan sylwedyddion y cyfnod yw NLW MS 11117B, ond awgryma Lisa Tallis na fyddai’n ymdebygu i’r gwreiddiol beth bynnag gan i’r llawysgrif gael ei hailrwymo. Awgryma hefyd y gallai 22 tudalen gyntaf y llawysgrif hon fod yn rhan o’r llyfr swynion hwnnw o eiddo John Harries a gedwir, yn ôl Ithiel Vaughan-Poppy, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llawysgrifau Cysylltiedig

NLW MSS 11701-11718, yn cynnwys cofnodion o bresgripsiwn a thaliadau cleifion, horosgopau drafft, almanac astrolegol printiedig, gohebiaeth cleifion, nodiadau ac adysgrifau o ddarlithoedd meddygol, traethawd meddygol, llyfrau cyfrifon cyffredinol, papurau amrywiol ayb.

NLW, Cwrtmawr MSS 97A, The Book of Harries, Cwrtycadno
Llyfr presgripsiwn John Harries (c.1785–1839)

NLW, Cwrtmawr MS 672A
Cyfrol yn cynnwys adysgrifau o draethawd meddygol ar 'Galvanism', cyfres o destunau astrolegol, a detholiadau o 'Sibly's Astrology', yn rhannol yn llaw John Harries (c.1785–1839).

Llyfryddiaeth

  • NLW MS 11119B: Arthur Mee, Harrieses of Cwrtycadno
  • NLW Facs 374/14: Tystysgrifau marwolaeth y teulu, 1839-1863
  • NLW MS 14876B: Nodiadau achyddol gan y Parch Henry Lloyd, ficer Caio
  • NLW Misc Rec. 329: Ithiel Vaughan-Poppy, "The Harries Kingdom - Wizards of Cwrtycadno," traethawd heb ei gyhoeddi, 1976, tt. 8-12, 15-16
  • K. Bosse-Griffiths, Byd y Dyn Hysbys – Swyngyfaredd yng Nghymru, 1977
  • J. H. Davies, Rhai o hen ddewiniaid Cymru, 1901
  • Richard C. Allen, Harries, John (c.1785–1839), ODNB, gwelwyd ar 6 Tachwedd 2013
  • Richard C. Allen: 'Wizards or Charlatans - Doctors or Herbalists? An Appraisal of the 'Cunning Men' of Cwrt y Cadno, Carmarthenshire', North American Journal of Welsh Studies, Cyf, I, II (Haf 2001) gwelwyd ar 6 Tachwedd 2013
  • Lisa Tallis, 'The 'Doctor Faustus' of Cwrt-y-Cadno: a new perspective on John Harries and popular medicine in Wales', Welsh history review, Cyf. 24, rh. 3 (Mehefin 2009), tt. 1-28