Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru

Mae Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cofnodi enwau 35,000 o filwyr , yn ddynion a merched o Gymru ynghyd ag aelodau o gatrodau Cymreig, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhestrwyd yr unigolion yma fesul catrawd a bataliwn ochr yn ochr ag enwau’r rhai a allai’n hawdd fod wedi marw gyda nhw.

 

Yn dilyn ymgyrch yn y Western Mail ar ddechrau’r dauddegau, casglwyd arian i godi Cofeb Ryfel Genedlaethol i Gymru. Ar ôl cryn drafod, cafodd ei lleoli ym Mharc Cathays, Caerdydd. Gan nad oedd enwau wedi’u nodi ar y gofeb ei hunan, penderfynodd y pwyllgor greu ‘rhestr anrhydedd’, a dyma yw Llyfr y Cofio.

Mae dyluniad cywrian y Llyfr yn eithriadol o drawiadol. Gwaith y ceinlythrennydd uchel ei barch Graily Hewitt ydyw ac fe gwnaed yn ei weithdy yn Lincoln’s Inn, Llundain. Mae’n gyfrol enfawr oddeutu 32 x 48 x 15cm mewn maint, wedi ei rhwymo mewn lledr Morrocco, gyda llythrennu aur a llinellau ar y cloriau a’r meingefn. Ceir y geiriau canlynol ar y clawr: "HEREIN ARE RECORDED THE NAMES OF THE MEN AND WOMEN OF WELSH BIRTH AND PARENTAGE AND OF ALL THE MEN BELONGING TO THE REGIMENT OF WALES WHO GAVE THEIR LIVES IN THE WAR OF 1914-1918 A:D: THEY ARE COMMEMORATED BY THEIR FELLOW COUNTRY MEN IN THE MEMORIAL ERECTED NEAR BY." Mae’n cynnwys tua 1,100 o dudalennau gyda thua 40 enw ar bob tudalen. Ysgrifennwyd pob enw unigol yn gain, ac mae’r technegau goreuro yn adfywiad o’r technegau a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol, gan droi rhestr foel o enwau yn waith celf. Ond, er mor fawr a hardd yw’r gyfrol, rhaid cofio ei bod yn gofnod o aberth bywydau tua 35,000 o Gymry, ac mai dim ond cyfran fechan oedd y rhain o’r 17 miliwn o bobl a laddwyd dros y byd yn ystod y rhyfel.

O’r miloedd o enwau yn y gyfrol, mae ynddi un sy’n symbol o aberth cenhedlaeth gyfan o Gymry ifanc. Collodd Ellis Humphrey Evans (1887-1917) o Drawsfynydd, sef y Prifardd Hedd Wyn ei fywyd ar yr 31ain o Orffennaf 1917. Roedd wedi ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn dilyn Deddf Gorfodaeth Filwrol 1916 gan hwylio allan i Ffrainc ym Mehefin 1917. Postiodd ei awdl, ‘Yr Arwr’, i Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917 o bentref Fléchin yng Ngogledd Ffrainc. Pan alwyd ar ‘Fleur-de-lis’ i godi a derbyn ei wobr yn yr Eisteddfod bu’n rhaid hysbysu’r dorf o farwolaeth y bardd buddugol, Hedd Wyn, chwe wythnos ynghynt ar faes y gad yng nghaeau Fflandrys ger Ypres. Gorchuddiwyd y gadair â gorchudd du ac o hynny ymlaen cafodd yr eisteddfod honno ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Ddu, a throdd y Gadair Ddu yn symbol a gynrychiolai’r holl gadeiriau gwag mewn cartrefi ledled Cymru.

Mae arwyddocâd symbolaidd Llyfr y Cofio yr un mor bwysig â’i swyddogaeth fel cofnod o’r rhai a syrthiodd. Yn seremoni dadorchuddio Cofeb Genedlaethol Cymru, nodwyd yn y rhaglen: “The collection of the names… was a work of considerable magnitude… and although the list can scarcely be claimed to be absolutely accurate and complete the greatest care has been taken to make it so.” Yn y seremoni i gysegru’r gofeb ar y 12 Mehefin 1928, llofnodwyd tudalen flaen y Llyfr sy’n cynnwys y geiriau ‘Er Côf’ gan Edward, Tywysog Cymru.

Y Deml Heddwch

Cedwir Llyfr y Cofio yn y mewn claddgell danddaearol a adeiladwyd yn arbennig yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Sefydlwyd y Deml Heddwch gan yr Arglwydd David Davies (1880-1944), gwleidydd, dyngarwr, rhyngwladolwr a chyn-filwr, fel rhodd i’r genedl Gymreig. Roedd wedi bod yn dyst i wrthdaro yn ffosydd y Somme a chredai mai’r ffordd i osgoi tywallt gwaed mewn rhyfel byd arall oedd drwy gydweithredu rhyngwladol, yn enwedig drwy waith Cynghrair y Cenhedloedd. Roedd am greu "cofeb i'r dynion [a menywod] dewr hynny o bob cenedl a roddodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i orffen pob ryfel" ac felly cyflwynodd yr adeilad er cof am y bywydau a gollwyd yn Rhyfel 1914-1918. Crëwyd yr adeilad o ddefnyddiau crai o wahanol wledydd er mwyn pwysleisio natur ryngwladol y gwaith a wnaed o fewn yr adeilad. Agorwyd yr adeilad ar 23 Tachwedd 1938 gan Minnie James o’r Dowlais, a oedd yn cynrychioli mamau Cymru a oedd yn galaru ar ôl y rhyfel - roedd hi wedi colli tri mab. Wrth gyflwyno’r adeilad, dywedodd Mrs James: “[it is] a constant reminder of the debt we owe to the millions who sacrificed their all in a great cause and as a symbol of our determination to strive for justice and peace”.

Cafodd Llyfr y Cofio Cenedlaethol Cymru, a oedd tan hynny wedi ei gadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ei arddangos mewn casyn o wydr ac efydd Ffrengig ar bedestal o farmor Belgaidd, gan mai ar dir Ffrainc a Gwlad Belg y bu farw y rhan fwyaf ohonynt.

Digido Llyfr y Cofio

Digidwyd Llyfr Cofio gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru fel rhan o brosiect Cymru dros Heddwch. Trwy ei ddigido a’i gyhoeddi ar y we, bydd gan Gymry ar draws y byd fynediad at y miloedd o enwau y tu mewn i’r cloriau. Er mwyn ei gwneud yn haws canfod unigolion, datblygodd y Llyfrgell feddalwedd arbennig i ganiatáu i wirfoddolwyr adysgrifio’r cynnwys. Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi bod yn brysur yn adysgrifio a thagio’r enwau – gweithred ddigidol o goffáu i gofio pob unigolyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dolenni Perthnasol