Ymsefydlwyr ym Mhatagonia, 1902

Cyfeirnod: NLW MS 10816E

Albwm o doriadau papur newydd, 1902, yn ymwneud â throsglwyddo ymfudwyr o Ddyffryn Camwy, yr Ariannin, i Ganada.

 

Erbyn 1896 roedd dros 2500 o Gymru wedi ymsefydlu ym Mhatagonia. Cafwyd llawer o broblemau’n ymwneud â sicrhau gweithredoedd tir wrth lywodraeth yr Ariannin, bu anghydfod ynglŷn â chynnal hyfforddiant gwasanaeth milwrol gorfodol ar y Sul, ac roedd y llywodraeth wedi sefydlu ysgolion Sbaeneg i ddisodli’r ysgolion Cymreig. Ar ben hyn i gyd bu llifogydd enfawr ym 1899 a 1901 a ddinistriodd yr ardal – collodd nifer eu holl eiddo, a difrodwyd llawer o’r camlesi.

O ganlyniad, denwyd llawer o’r gwladfawyr i ystyried ymfudo i Ganada. Ym mis Chwefror 1902 ffurfiwyd pwyllgor o Gymry amlwg ac aelodau seneddol Cymreig i godi arian i gynorthwyo’r gwladfawyr i fudo i Ganada, a threfnwyd llogi llong i’w hwylio i Lerpwl a Chanada. Ar 15 Mai 1902, hwyliodd 230 o Gymry Patagonia o Borth Madryn i Lerpwl ar fwrdd yr Orissa, ac oddi yno aeth 208 ymlaen i Ganada ar fwrdd y Numidian ar 12 Mehefin 1902.

Mae cynnwys y llawysgrif yma o dorion papurau newydd y cyfnod yn taflu goleuni gwerthfawr ar agwedd y wasg tuag at y gwladychwyr ym Mhatagonia.