Llwyd ap Iwan: 'Ymchwildaith i'r Andes'

Cyfeirnod: NLW MS 7257A

'Ymchwildaith i'r Andes', sef dyddiadur Llwyd ap Iwan am ei daith i’r Andes, 1888, ynghyd â mesuriadau 'Camlas y Gaiman' a chamlesi dŵr eraill. Mae’n cynnwys hefyd enwau perchnogion tai/ffermydd yng Nghwm Hyfryd.

 

Hanes ymchwildaith i'r Andes a Dyffryn Aethwy, Chubut, a wnaed ym mis Tachwedd 1894 gan Llwyd ap Iwan a phedwar o ddynion eraill o'r Wladfa. Eu bwriad oedd chwilio am diroedd newydd a bwlch i'r Môr Tawel o'r dwyrain. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan Llwyd ap Iwan. Adroddiad cryno a geir yma, ond mae'n cynnwys nodiadau manwl a wnaed gan Llwyd ap Iwan yn ystod y daith.

Mab hynaf Michael D. Jones a’i wraig Anne Lloyd oedd Llwyd ab Iwan (1862-1909). Cafodd ei addysgu yn ysgol Tan Domen, ac yna mewn prifysgolion ym Mhrydain a’r Almaen, gan gymhwyso’n beiriannydd a thirfesurydd. Symudodd i Batagonia yn 1886 i weithio fel peiriannydd ar Reilffordd Canol Chubut, a oedd yn cael ei hadeiladu i gysylltu Trelew a Phorth Madryn. Ar ddiwedd ei gytundeb derbyniodd gais gan Gyngor y Gaiman i ail-fesur y ffermydd yn Nyffryn Chubut,  i gynllunio’r ffyrdd, ac i gynorthwyo gyda’r cynllun dyfrio. Teithiodd yn helaeth ar draws rhannau o'r wlad lle nad oedd unrhyw Ewropeaid wedi bod o'r blaen i chwilio am diroedd newydd i’w gwladychu.  Defnyddio arweinwyr o blith y Tehuelche i’w arwain gan gofnodi’r enwau brodorol yn ofalus. Ei ddyddiaduron yw’r cofnod pwysicaf o’r cyfnod am yr ardal. Byddai’n ysgrifennu’r hanes am ei deithiau’n fanwl ac yna’n eu hanfon ymlaen at ei dad i’w cyhoeddi yn y Celt. Mae’r llawysgrif yma’n cofnodi ei daith ym 1888 gyda’r Rheolwr (Governor) Fontana a John Daniel Evans i chwilio am leoliad newydd i greu gwladfa newydd yn yr Andes.  Bu’n arolygu’r tir yng Nghwm Hyfryd gan rannu’r tir yn 50 rhan ac fe dderbyniodd un o’r rhannau am ei waith.

Symudodd i fyw yng Nghwm Hyfryd gyda’i deulu ar ddechrau'r 20fed ganrif, gan dderbyn swydd fel rheolwr  cangen Rhyd y Pysgod o'r Chubut Mercantile Company.  Fe’i saethwyd yn farw gan ddau fandit Americanaidd ar 29 Rhagfyr 1909, wrth iddynt ddwyn nwyddau ac arian o’r gangen.

Llyfryddiaeth