Gohebiaeth Lewis Jones, 1862-1892

Cyfeirnod: NLW MS 12204E

Casgliad o lythyrau a anfonwyd gan Lewis Jones a llythyrau a anfonwyd ato, 1862-92, yn trafod y cynllun ymfudo a phynciau cysylltiedig. Mae’r llythyrau yma’n ychwanegu at ddyddiaduron Lewis Jones o’r cyfnod 1862-1863 (NLW MS 12198-9A)

 

Ganwyd Lewis Jones (1836-1904) yng Nghaernarfon ar 30 Ionawr 1836.  Bu’n cyd-olygu’r Pwnsh Cymraeg yng Nghaergybi am gyfnod cyn symud i Lerpwl, lle daeth yn un o brif arweinwyr y Mudiad Gwladfaol.  Anfonwyd ef a’r Capten Love Jones-Parry i archwilio Patagonia ym 1862 i weld a oedd yr ardal yn addas ar gyfer sefydlwyr Cymreig. Llwyddodd y ddau i arwyddo cytundeb gyda Dr Rawson, chynrychiolydd y llywodraeth yn Buenos Aires,  yn sicrhau 25 cuadra (tua 100 erw) o dir i bob teulu. Dychwelodd ag adroddiad ffafriol a oedd wedi ei orliwio, er mwyn perswadio’r Cymry i fentro yno. Yr oedd y disgrifiadau blodeuog o'r crastir anial a digroeso yn galonogol ac fe lwyddwyd i berswadio 153 o Gymry i droi eu cefnau ar y caledi a’r gorthrwm yng Nghymru a mudo ar y Mimosa.

Fe aeth Lewis Jones allan gyda Edwin Cynrig Roberts i baratoi’r lle i’r fintai gyntaf ond fe wnaeth gweryla gyda’r ymfudwyr a oedd yn cwyno nad oedd y wlad yn addas a gadawodd am Buenos Aires, lle bu’n gweithio fel argraffydd am ddeunaw mis. Aeth yn ôl i Batagonia ym 1867 i berswadio’r ymfudwyr i aros.  Cychwynnodd ddau bapur newydd, Ein Breiniad yn 1878 a’r Dravod yn 1891, a cyhoeddodd lyfr, Y Wladfa Gymreig ym 1898. Bu’n rhaglaw dros lywodraeth yr Ariannin am gyfnod, gan ddadlau dros fuddiannau'r Cymry gyda llywodraeth Ariannin, ond hefyd cafodd ei garcharu am amddiffyn hawliau'r Cymry. Bu farw ym mis Tachwedd 1904.

Mae’r saith llythyr holograff yn cynnwys:

  • Llythyr oddi wrth John Duguid, Rosario, at Lewis Jones, 1862 yn cefnogi ei gynllun mudo;
  • Copiau carbon o ohebiaeth oddi wrth Lewis Jones, Chubut, at Weinidog Cartref Llywodraeth yr Ariannin, 1871-1872 yn trafod colli'r brig Monteallegro, perchnogaeth tir a’r dyfodiad disgwyliedig o ragor o ymfudwyr, 1887;
  • Llythyr oddi wrth Samuel R. Phibbs o Swyddfeydd Conswl yr Ariannin, Lerpwl, at Lewis Jones fel cadeirydd y ‘Liverpool Welsh Patagonian Emigration Committee’, ym Muenos Aires a Lerpwl, 1862-1863, yn cefnogi’r mudo arfaethedig a gwrthodiad o’r cytundeb gan Gyngres yr Ariannin;
  • Llythyr oddi wrth W. Cadwaladr Davies, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, at Lewis Jones, 1892, yn trafod iechyd yr awdur a’r rhoddion i’r Coleg gan y Wladfa Gymreig.

 

Llyfryddiaeth

  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Y Bywgraffiadur Cymreig, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016;
  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Wicipedia, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016;
  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Wikipedia, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016;
  • Erthygl Lewis Jones ar wefan Cymruhanes, gwelwyd 16 Rhagfyr 2016;