Hunangofiant Smyglwr

Cyfeirnod: NLW MS 21834B

Hunangofiant William Owen y 'smyglwr nodedig' a grogwyd am lofruddiaeth yng Nghaerfyrddin ar 2 Mai 1747.

Glyn Parry, 'Autobiography of a smuggler', yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 24, tt. 84-92

Yn arwerthdy Sotheby's, 22-23 Gorffennaf 1982, prynodd y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif hynod (NLW MS 21834B) yn cynnwys hunangofiant William Owen y 'smyglwr nodedig' a grogwyd am lofruddiaeth yng Nghaerfyrddin ar 2 Mai 1747. Mae'r gyfrol yn mesur 200 mm wrth 125 mm ac wedi'i rhwymo mewn felwm. Mae'r testun yn llenwi 161 tudalen o'r 176 yn y gyfrol (tua 18,000 o eiriau). Ysgrifennwyd yr hunangofiant yn wreiddiol un ai gan Owen ei hun neu fe'i harddywedwyd ganddo i'r Parchg. John Davies (fwy na thebyg y John Davies a oedd yn rheithor Aberteifi, 1743-63), a dystiodd iddo ymweld ag Owen yn ystod ei gyfnod yn y ddalfa.

Mae'r llawysgrif ei hun yn gopi yn llaw Daniel G. Matthias a dorrodd ei enw, ynghyd â'r dyddiad, Ionawr 1811, y tu fewn i'r clawr blaen. Ond er gwaethaf ymchwil fanwl nid wyf wedi dod o hyd i wybodaeth am Matthias. Efallai ei fod yn perthyn i Syr Henry Matthias o Fern Hill, Sir Benfro, a oedd yn Brotonotari cylchdaith Caerfyrddin o 1783 tan ddiddymu Llys y Sesiwn Fawr yn 1830. Byddai hyn yn esbonio sut y cafodd Matthias afael ar y llawysgrif wreiddiol yn y lle cyntaf.

Cofiannau troseddwyr

Mae'r genre cofiannau troseddwyr yn gyffredin yn Lloegr, ond mae'n brin iawn yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif, a dweud y lleiaf. Cefais wybod gan Miss Eiluned Rees, gynt o'r Llyfrgell Genedlaethol, golygydd y llyfryddiaeth safonol o weithiau print Cymreig cyn 1820, Libri Walliae, nad oes ond rhyw hanner dwsin o fywgraffiadau byrion o droseddwyr Cymreig yn bod cyn y dyddiad hwn. Efallai mai'r gwaith sy'n fwyaf tebyg iddo yw Circumstantial account of the evidence produced on the trial of Lewis Lewis the younger, for the MURDER of Thomas Price, late of Pen-y-Graig in the parish of Llanafan-Fawr in the county of Brecon (1789). Bywgraffiad troseddwyr mwyaf adnabyddus y ddeunawfed ganrif yn Lloegr yw cofnod caplan carchar Newgate. Gweler P. Linebaugh, 'The Ordinary of Newgate and his Account', yn J. S. Cockburn, gol., Crime in England 1550-1800 (Llundain, 1979), 236-69.

Yr hyn sy'n ei gwneud yn fwy gwerthfawr fyth, efallai yn unigryw, yw'r ffaith ei bod yn cynnwys trawsysgrif o achos llys Owen ar y cyhuddiad o lofruddiaeth yn Sesiwn Fawr y Gwanwyn, Caerfyrddin a gynhaliwyd fis Ebrill 1747. Y trawsysgrifiad yw'r unig ffynhonnell wreiddiol ar gyfer achos llys Owen gan fod ffeiliau carchar Llys Sesiwn Fawr Caerfyrddin ar gyfer 1743-9 ar goll. Ni wn i am unrhyw drawsysgrif o achos troseddol Cymreig o'r ddeunawfed ganrif ac mae'r drawsysgrif hon yn dystiolaeth werthfawr i achosion troseddol yn Llys y Sesiwn Fawr. O ddarllen y trawsysgrifiad o achos Owen mae'n ymddangos fod trefn achosion troseddwyr yn Llys y Sesiwn Fawr yn debyg iawn i'r arfer ym Mrawdlysoedd Lloegr fel y'i disgrifiwyd gan J. H. Baker yn 'Criminal Courts and Procedure at Common Law 1550-1800' yn J. S. Cockburn, op. cit., 15-48. Un gwahaniaeth mawr oedd yr angen am ladmeryddion yng Nghymru.

Rhesymau dros ysgrifennu'r gwaith

Nid wyf yn bwriadu ymdrin â pham y cafodd y gwaith ei gyfansoddi. Mae'n ddigon dweud fod 'na resymau moesol ac ariannol y tu ôl iddo. Yr ystyriaeth foesol oedd argraffu ar feddwl y darllenydd pa mor erchyll ac anorfod oedd diwedd unigolyn a oedd yn barod i dorri'r rheolau moesol a osodwyd gan y Beibl a'r Gyfraith. Roedd camweddau moesol Owen yn cynnwys anufudd-dod i'w rieni, trythyllwch, balchder ac ymffrost. Yr ystyriaeth ariannol oedd y posibilrwydd o wneud arian o gyhoeddi a gwerthu'r hunangofiant. Dyna'r rheswm y cyhoeddodd caplan carchar Newgate ei adroddiadau. Yn yr achos hwn mae'n ymddangos mai Daniel James, ceidwad y carchar, yn hytrach na John Davies, y gweinidog, oedd yn bwriadu elwa. Wedi cwblhau'r llawysgrif mae'n bosib y'i rhoddwyd i James (NLW MS 21834B, ff. 1) fel tâl am y gost iddo yntau o gadw Owen yn y carchar. Dywed yr hunangofiant fod James yn ŵr lletygar, a'i fod wedi tosturio wrth Owen a rhoi iddo ei anghenion. (NLW MS 21834B, ff. 120).

Yr hyn sy'n dilyn yw crynodeb byr o hunangofiant Owen. Yr wyf wedi cadarnhau rhai elfennau yn ei hanes ac wedi ychwanegu tystiolaeth bellach. Ar y cyfan mae sail ffeithiol i'r hunangofiant, ond mae'n bendant hefyd fod Owen wedi ymestyn tipyn ar rai elfennau er mwyn ceisio gosod ei hun mewn gwell goleuni. Nid wyf wedi cael cyfle i chwilio ffynonellau eraill a allai fod yn ddefnyddiol, megis cofysgrifau Swyddogion y Tollau a phapurau Cyfreithiwr y Trysorlys.

Blynyddoedd cynnar

Yn ôl tystiolaeth y cofnodion plwyf sydd ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol, ganed William Owen ym mhlwyf Nanhyfer, Sir Benfro fis Ionawr 1717, yn fab i Owen David Bowen (er nad yw Owen yn ei enwi o gwbl yn ei hunangofiant) a 'ystyriwyd yn ffermwr mwyaf y plwyf hwnnw.' Nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i gyfoeth a safle cymdeithasol Owen David Owen yn y plwyf. Fel ffermwr cyfoethocaf y plwyf byddai disgwyl iddo gymryd arno swyddi megis cwnstabl y plwyf a warden yr eglwys ond nid yw'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny. Os yw cofnod Owen yn gywir yna mae'n rhaid bod ei dad yn ddyn cymharol gyfoethog, oherwydd ychydig o ffermwyr fyddai'n medru afforddio anfon mab i ffwrdd i'r ysgol, heb sôn am ystyried talu am addysg brifysgol iddo. Sylwer hefyd fod tad Owen wedi prynu llong iddo.

Cafodd Owen yr addysg orau y gallai'r 'wlad' ei afforddio, fwy na thebyg yn Aberteifi, ond gwrthododd yn llwyr gynnig ei dad i'w ddanfon i brifysgol i baratoi ar gyfer yr offeiriadaeth ac yn yr un modd y gwrthododd gynnig prentisiaeth gyda chyfreithiwr. Roedd yn casáu ffermio a mynnai mai morwr yr oedd am fod. Felly yn 1731 neu 1732 rhedodd i ffwrdd o'i gartref ac i Hwlffordd lle'r ymunodd â chriw llong fechan oedd yn masnachu gyda Bryste. Bu'n hwylio ar y llong am flwyddyn cyn dychwelyd adref wedi dysgu sawl gwers o'i brofiad o fod yn ddim ond crwt te a chael ei chwipio. Mynnai ei fod 'yn ormod o ŵr bonheddig ar gyfer triniaeth o'r fath.'

Priodi

Yr oedd ei rieni wrth eu boddau pan gychwynnodd weithio ar y fferm, ond yn fuan iawn fe gafodd ddigon o fod 'ar yr un lefel â gweithiwr cyffredin' ac felly dyma ddianc am yr eilwaith. Y tro hwn ymunodd â llong o Bideford. Pan ddychwelodd adref yn 1733 bodlonodd ei rieni ar ei ddymuniad a phrynu llong fechan iddo. Yna dyma 'ymdrybaeddu mewn trythyllwch' gyda morwyn Madam Stokes yn Aberteifi. Nid oedd ymddygiad ei fab wrth fodd Owen Bowen o gwbl ac chymerodd y llong yn ôl. Mae'n rhaid fod Owen yn teimlo'r un peth am ymddygiad ei dad ac felly'n priodi'r forwyn er mwyn dial arno. Ei henw oedd Anne Nicholas. Yn ôl cofnodion plwyf Aberteifi yn LlGC cawsant eu priodi ar 15 Chwefror 1735. Mae Owen yn sôn am ddau blentyn, sef Anne a fedyddiwyd ar 4 Tachwedd 1735 a William a fedyddiwyd ar 31 Awst 1737. O weld nad oedd gan ei ferch-yng-nghyfraith newydd yr un geiniog i'w henw, ildiodd ei dad a dychwelyd y llong i'w fab a rhoi swm o arian iddo sefydlu ei hun mewn busnes.

Cychwyn smyglo

Bu Owen yn masnachu'n gyfreithlon am flwyddyn cyn mentro ar ei daith smyglo gyntaf er mwyn ennill ei ffortiwn. Bu'r daith yn fethiant llwyr gan i long y smyglwr dibrofiad gael ei hatafaelu gan swyddogion y Tollau ar ei thaith yn ôl o Ynys Manaw. Heb ddimai goch i'w enw, yn difaru ei fod wedi priodi mor ifanc, ac yn chwilio am antur, listiodd fel ail fêt ar long oedd yn mynd i India'r Gorllewin. Ond bu'n rhaid iddo ddianc o'r llong hon wedi ffrae gyda'r capten ac fe ymunodd â llong smyglo arfog o'r enw y Terrible.

Rhywbryd yn ystod 1736 pan oedd ar un o'i theithiau smyglo daeth dwy long gwarchod y glannau o Sbaen i fyny at y Terrible. Roedd capten y Terrible - yn ôl adroddiad Owen roedd hwnnw'n gachgi heb ei ail - am iddynt ddianc cyn gynted â phosib ond roedd Owen a'r swyddogion eraill am sefyll eu tir ac ymladd. O dan arweiniad Owen (roedd y capten o dan glo yn ei gaban) ymladdodd y criw am ddwy awr yn erbyn y llongau o Sbaen ac yn ystod y ffrwgwd lladdwyd 60 o'r Sbaenwyr, 25 ar unwaith pan rowliodd Owen gasgenni powdr ar fwrdd un o'r llongau. Lladdwyd un ar ddeg o griw y Terrible a chafodd Owen anaf difrifol i gefn ei ben. Croesawyd Owen a'r criw yn ôl yn saff gan drigolion Barbados. Mae'n debyg i'r croeso fod yn un gor-dwymgalon wrth i Owen 'ymollwng ei hun i fenywod, gan gofleidio pob cyfle', ac er ei fod yn 'ddyn sobr a synhwyrol nad oedd yn arfer rhegi na thyngu' bu ei gyfathrachu yn gyfrifol am gynhyrchu plant gordderch 'o bob lliw'.

Aeth yr anturiaethau smyglo yn eu blaenau, gan gynnwys mynd i'r afael â'r Sbaenwyr ar arfodir Salamanca a Honduras, hyd nes iddynt ddod i ben yn sydyn pan lwyddodd un o longau rhyfel Prydain chwythu ei brif fast i ffwrdd gan ei orfodi i dynnu'i liwiau. Cymaint oedd llawenydd capten y llong ryfel oherwydd iddo gipio Owen, a oedd yn ei dyb yntau yn 'fachan dewr', fel y'i penododd yn ganol-longwr iddo.

Genedigaeth mab

Hwyliodd ar y llong hon am ugain mis hyd nes iddo dderbyn llythyr gan ei dad yn adrodd am enedigaeth mab iddo a enynnodd hiraeth yn ei galon. Wedi twyllo'r capten â llythyr ffug cafodd ganiatâd i ymadael. Cyrhaeddodd yn ôl yn Portsmouth fis Tachwedd wedi bod i ffwrdd am dair blynedd a hanner. Mae'n rhaid taw at fis Tachwedd 1739 y mae'n cyfeirio gan iddo ymadael ag Aberteifi ychydig fisoedd ar ôl genedigaeth ei ferch fis Tachwedd 1735. Mae'n rhaid ei fod wedi cychwyn am y Caribî tua mis Mai 1736.

Roedd Owen yn weddol dda ei fyd erbyn hyn a chyda'r arian a roddwyd iddo gan ei dad maldodus fe brynodd long yn Abertawe a dechrau masnachu'n gyfreithiol. Cafodd lwyddiant mewn busnes a thyfodd i gynnwys bragu a pharatoi ysgadan. Os cafodd lwyddiant mewn busnes, ni ellid dweud yr un peth am ei briodas. Cyfaddefodd ei wraig iddi gael perthynas odinebus â bonheddwr lleol ac o'r foment honno dechreuodd Owen ei chasáu, ac er iddo ei chadw hi mewn modd teilwng cafodd yntau fwy nag un berthynas odinebus ei hun. Os yw ei gofnod yn un cywir yna byddai'n hawdd dangos nad Owen oedd tad William bach. Bu'r berthynas a gafodd gyda dwy Wyddeles yn arbennig o aflwyddiannus; cafodd ei dwyllo gan y ddwy. Roedd un yn wraig wedi'i chadw gyda phlentyn gordderch a'r llall yn llymeitian ar y slei, ac nid oedd Owen yn casáu dim yn fwy na 'meddwen'.

Terfysg ŷd yn Aberteifi

Yna dychwelodd i'w hen ffyrdd a hynny yn bur lwyddiannus. Ond daeth trafferth i'w gwrdd, fodd bynnag, ar lun terfysg ŷd yn Aberteifi. Ymosododd torf o ryw 80 ar ei long gan agor y gorddrysau a dwyn y brif hwyl. Pan welodd Owen nad oedd saethu dros bennau'r terfysgwyr yn dwyn dim ffrwyth fe saethodd atynt a niweidio'r arweinydd. Yna, gyda'i griw o ddau, gyrrodd y dorf o'i long a'u gorfodi i roi'r brif hwyl yn ôl. Wedi i bopeth dawelu cafodd Owen wybod gan y dorf nad oedd ganddynt unrhyw elyniaeth bersonol tuag ato ond fod dyn lleol a oedd wedi cweryla gydag Owen wedi'u meddwi a'u hannog i ymosod ar y llong.

Digwyddodd hyn ar 1 Mawrth 1741. Ond nid yw cofnod Owen yn un cyflawn. Nid yw'n sôn am y ffaith iddo ddwyn achos yn erbyn saith o'r llu terfysgol am greu reiat a dwyn ei brif hwyl. Fe ddaeth Uchel Reithgor Aberteifi i benderfyniad yn yr achos yn ystod Sesiwn Fawr Aberteifi yng ngwanwyn 1742 ond ni wyddys beth oedd y ddedfryd (LlGC, Sesiwn Fawr 4/892/4). Nid yw hyn chwaith yn cydfynd â honiad Owen ei fod wedi cymodi gyda'r terfysgwyr oherwydd cyn ffurfio heddluoedd proffesiynol roedd erlyn bron yn gyfangwbl yn nwylo unigolion. Roedd Owen ei hun wedi'i rwymo i gadw'r heddwch yn arbennig tuag at John Bowen o Landudoch, morwr. Ceir enw Bowen ar ben y rhestr o saith sydd yn y ditment ac felly mae'n debygol mai ef oedd y 'pennaeth' fel mae Owen yn ei alw yr oedd yn gyfrifol am ei saethu.

Ymosod ar Aber-mad

Cafodd Owen hoe o smyglo pan benderfynodd gynorthwyo Thomas Parry, cyfreithiwr yn Aberystwyth a chyfaill 'cywir'. Roedd Parry wedi ennyn llid teulu Johnes Aber-mad trwy 'fynnu ei ffordd ei hun' ac roedd yn cael ei drafferthu gan y teulu a oedd â deugain o ddynion i'w gwasanaethu. Yna arweiniodd Owen fintai o 'wŷr bonheddig ac eraill' i ymosod ar y tŷ yn Aber-mad. Ffoes y mwyafrif o'i ddilynwyr ar yr awgrym cyntaf o ergydion, gan adael Owen ag ond deunaw yn ei giwed. Er gwaethaf hyn daliodd Owen ati a bu'n ymladd yn ddidor am un awr ar ddeg. Daeth y cyfan i ben pan osododd Owen gasgenaid o bowdwr gwn ar wagen, gosod y wagen ar dân a'i gwthio o dan falconi Aber-mad. Ildiodd y rhai dan warchae ar unwaith.

Er mor anhygoel yr ymddengys ymosodiad ar gartref dyn a oedd, wedi'r cwbl, yn Uwch Siryf Sir Aberteifi yn 1737, mae digon o dystiolaeth amgylchiadol i gadarnhau'r ffeithiau. Roedd Thomas Parry yn etifedd i ystad Llidiardau ym mhlwyf Llanilar ac felly yn gymydog i deulu Johnes Aber-mad. Fe wnaeth Parry 'fynnu ei ffordd ei hun' a hynny trwy ddod ag achos o ddyled yn erbyn Thomas Johnes fis Ebrill 1741. Gwrthododd Johnes ymddangos yn y llys er gwaethaf nifer o wysion. Cafodd y llys o blaid Parry gan roi iddo iawndal. Mae'r ffaith i Johnes wrthod ymddangos yn y llys yn gydnaws gyda'i ymddygiad cyn ac wedi 1741 (mae'n ymddangos ei fod wedi gorfodi i'r negeseuwyr fwyta'r gwysion!). Roedd Johnes mewn trafferth ariannol dybryd ac wedi codi morgais ar yr ystad yn 1736. Gwrthododd dalu llog ar y morgais ac er i achosion gael eu cymryd yn ei erbyn roeddent yn fethiant am fod y "rhagddywededig Thomas Johnes wedi byw am flynyddoedd yn herio'r gyfraith yn agored ac yn gyhoeddus" (LlGC, Sesiwn Fawr 18/272, m. 4; 'Cardigan Freeholders in 1760' yn West Wales Historical Records, iii (1912-13), 111 a Bethan Phillips, Peterwell: the history of a mansion and its infamous squire (Llandysul, 1983), 125-7).

Carcharwyd Johnes yng ngharchar y Fleet yn 1758 ac ysgrifennodd Lewis Morris fod Johnes wedi'i gario i garchar Aberteifi gan dorf o 100 o ddynion, a bod 100 o ddynion Johnes, o glywed ei fod ar y ffordd i'w magl, wedi ymdeithio i Aberteifi i'w gipio. (Dyfynnir yn West Wales Historical Records, op. cit., 111). Mae hyn yn cydfynd yn dda â honiad Owen fod gan Johnes rhyw ddeugain o bobl o dan ei awdurdod (NLW MS 21834B, t. 44). Mae'n wybyddus hefyd fod torf o ffermwyr yn bennaf o Lanychaearn a Llanilar bron yn sicr tenantiad ystad Aber-mad o dan arweiniad gŵr bonheddig o Lanbadarn a John Johnes o Lanychaearn, bonheddwr, wedi ymosod ar dŷ Thomas Parry yn Aberystwyth ar 14 Mehefin 1742. Torrwyd ffenestri a chafwyd bygythiadau i ddymchwel y ty a lladd Parry (LlGC, Sesiwn Fawr 4/892/5). Er bod mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i Parry gychwyn ar ei achos yn ei erbyn mae'n debyg fod Johnes wrth wrthod ymddangos yn y llys wedi arafu'r canlyniad, neu os nad hynny, fod y ddyled a'r iawndal yn dal heb eu talu. Mae'n bosib fod yr ymosodiad ar Aber-mad yn ddial am yr ymosodiad ar dŷ Parry.

Yn ôl at smyglo ac at 'wraig' newydd

Wrth ddychwelyd at smyglo llwyddodd Owen i osgoi cael ei gipio ar Ynys Manaw trwy gymryd arno ei fod yn farwnig Cymreig yn teithio ar ei iot. Yn Whitehaven dim ond y tywydd a'i harbedodd, a ger Workington gwnaeth ddifrod difrifol i un o longau'r Tollau. Hwyliodd o Workington i Ynys Manaw lle syrthiodd mewn cariad â gwraig ifanc ac er ei bod wedi'i haddo mewn priodas i fonheddwr lleol enillodd Owen ei serch. Roedd yn loes calon iddo ei fod yntau eisoes yn briod. Ystyriai odineb ei wraig yn ddigon o reswm dros ei hysgaru ond ymataliodd oherwydd yr holl anghyfleustra fyddai'n dilyn ar hynny. Roedd ysgariad yn beth prin yn y ddeunawfed ganrif gan ei fod yn galw am fesur seneddol preifat ac felly o'r herwydd yn beth drud iawn.

Ar ei daith nesaf smyglodd nwyddau i Sir Benfro cyn hwylio i Aberteifi. Yma daeth o hyd i'w wraig yn feddw gaib ac yn mynd i ddyled yn y tafarndai lleol. Talodd y ddyled a phenderfynodd adael ei wraig a phriodi'r Fanawes. Yn rhyfeddol, yn ystod ei amser yn Aberteifi, gofynnodd swyddogion y refeniw i'r potsiwr droi'n gipar wrth eu cynorthwyo i ddod o hyd i smyglwyr halen. Ond y tu ôl i gefnau'r swyddogion roedd Owen yn gwerthu'r nwyddau yr oedd ef ei hun wedi'u smyglo cyn hwylio yn y pendraw am Ynys Manaw.

Swyddogion y tollau yn taro

Wedyn fe benderfynodd hwylio am Westmorland a chymryd y wraig ifanc gydag ef er mwyn ei phriodi, ond am ei bod o dan oed cydsynio nid oedd ei chyfeillion ar Ynys Manaw yn barod i roi eu caniatâd. Wedi glanio, cerddodd Owen i Kendall i gyfarfod â 'chydnabod' ynglŷn â chargo gan adael ei long yn ngofal gŵr o Swydd Efrog. Wrth ddychwelyd cafodd fod y llong wedi'i hatafaelu gan swyddogion y tollau a lwyddodd i lwgrwobrwyo'r gŵr o Swydd Efrog. Cipiodd y swyddogion bron y cwbl o eiddo Owen a oedd ar fwrdd y llong, colled iddo ef (ac eithrio gwerth y llong ei hun) a amcangyfrifodd rhwng £400 a £500. Llwyddodd ei griw bychan i ddianc er bod pob un ohonynt wedi'u hanafu. Gadawyd Owen â dim ond swllt yn ei boced.

Wedyn dyma Owen a'i 'ferch ifanc' yn cymryd arnynt eu bod yn ŵr a gwraig ac yn cerdded o Kendall hyd at Lerpwl. Yn Lerpwl arhosodd hi gyda'i chwaer-yng-nghyfraith ac aeth Owen ymlaen i Aberteifi lle'r hysbysebodd y ffaith ei fod wedi colli ei long a chynnig buwch ar raffl a gododd £30 iddo. Dywedodd wrth ei wraig ei fod yn ei gadael ac aeth i Ynys Manaw trwy Lerpwl.

Ailgychwynodd smyglo trwy ddefnyddio llong o Ynys Manaw. Smyglodd nwyddau i Lerpwl a Cumberland ym mis Tachwedd 1743 ac yna aeth â llwyth sylweddol o de i Abermo cyn hwylio i Gonwy i brynu iot gan sgweier lleol gyda'r arian yr oedd ei 'wraig' newydd wedi'i roi iddo.

Cythrwfl yn Aberteifi

Wedi cael gwared â'r rhan fwyaf o'r nwyddau oedd wedi'u smyglo ym Mae Sain Ffraid, Sir Benfro, ar 12 Mawrth 1744, hwyliodd gyda gweddill ei lwyth i Aberteifi. Yma daeth criwser y refeniw ar ei draws ond llwyddodd i'w gwrthsefyll a dadlwytho ei nwyddau anghyfreithlon. Ymosodwyd ar ei long wedi'i hangori ar Afon Teifi gan Gasglwyr y Tollau ac ugain o gynorthwywyr, a oedd yn cynnwys pedwar carcharor rhyfel o Sbaen, dau droseddwr, swyddog-y-llanw, a 'phob math o ddihirod a chynffonwyr'. Digwyddodd yr ymosodiad ar 4 Ebrill 1744. Lladdodd Owen a'i griw bedwar dyn-dau Gymro, gan gynnwys y swyddog tollau, a dau Sbaenwr ac anafu un o'r troseddwyr a dderbyniwyd wedyn gan Owen i'w griw ar ei gais yntau. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach gyda dyfodiad tywydd teg hwyliodd am Ynys Manaw.

Yn Uchel Reithgor Sir Aberteifi a gynhaliwyd yn Sesiwn yr Hydref 1744 dychwelwyd gwir fil yn erbyn Owen ond gan na ellid rhoi neb ar brawf am drosedd yn ei absenoldeb (roedd Owen wedi dianc i Ynys Manaw, wrth gwrs) ataliwyd yr holl broses. Sefydlodd cwest y crwner fod Owen wedi llofruddio James Phillips, y swyddog Tollau. Yn achos y Cymro arall a laddwyd, rhyw John Hughes, sadler, dywedwyd iddo yntau gael ei lofruddio gan berson neu bersonau anhysbys. Dyma hefyd y dyfarniad ar un o'r Sbaenwyr o'r enw Domingo de Zioneto tra bo'r Sbaenwr arall o'r enw Alfonso Pintado wedi mynd dros yr ochr ac wedi ymladd i gadw ei fywyd oddi wrth y rhagddywededig William Owen ond iddo syrthio i'r afon a boddi (sef dedfryd o farwolaeth ddamweiniol mae'n debyg) (LlGC, Sesiwn Fawr 4/893/1).

Roedd y rhwyd yn cau am Owen bellach. Arwyddodd Llywodraethwr Ynys Manaw warant i'w arestio. Daliwyd dau o'i griw eisoes a chafodd ei long ei hatafaelu. Gorfodwyd yntau a'i 'wraig' i guddio mewn ogofau hyd nes iddynt ddianc mewn llong wystrys o Strangford. Nid oedd heddwch i'w gael yn Strangford chwaith oherwydd roedd gan y Casglwr Tollau yno wybodaeth yn erbyn Owen a'i gorfododd i symud i mewn o'r arfordir i Lusgrove ym mis Mai 1744. Yno fe gymerodd ef a'i 'wraig' arnynt eu bod yn bedlerwyr ac am dri mis buont yn dilyn y marchnadoedd a'r ffeiriau. Penderfynodd wedyn fynd i Gymru i geisio cyngor a oedd hi'n ddiogel iddo ildio a sefyll ei brawf ai peidio, hynny yw, am lofruddio James Phillips. Er gwaethaf sicrhad gan ei gyfeillion y buasai'n ddiogel iddo wneud hynny, ciliodd i Iwerddon.

Ei gipio a'i arestio

Yna dychwelodd i Ynys Manaw ar fusnes. Golygodd tywydd drwg ei fod yn methu gadael yr ynys a daeth i glyw'r awdurdodau ei fod yno. Dihangodd i'r mynyddoedd yng nghwmni ei 'wraig'. Cipiwyd hi yn gyflym a'i charcharu am gario bwyd iddo. Yn oer ac yn llwgu ildiodd Owen ei hun. Daethpwyd ag Owen a'i griw i Lerpwl gan negesydd y Brenin, ac wedi bod yn y ddalfa am gyfnod o rai misoedd aethpwyd ymlaen â hwy i Henffordd. Wedi i Owen gael ei ddal ni chafodd yr achos ei gynnal yn Sir Aberteifi lle digwyddodd y drosedd ond yn Henffordd. Mae'n sicr fod hyn wedi digwydd oherwydd credai Comisiynwyr y Tollau fod gwell siawns o sicrhau dedfryd euog yn swydd Henffordd a oedd heb unrhyw arfordir ac o'r herwydd heb draddodiad o smyglo a lle'r oedd yr elyniaeth tuag at swyddogion y Tollau, a oedd yn gyffredin mewn cymunedau morwrol, yn absennol. Daeth Comisiynwyr y Tollau â chyhuddiadau difrifol i'w herbyn ond cafodd Owen, a ymgymerodd â'i amddiffyniad ei hun, argraff ddofn ar y barnwr a'r bonheddwyr oedd yn gwylio oherwydd ei areithio rhugl. Wedi achos yn para deuddeng awr cafodd ef a'i griw eu rhyddfarnu.

Cyhuddwyd Owen a dau aelod o'i griw o lofruddio James Phillips ac un o'r Sbaenwyr o'r enw Domingo St. Sebastian ac nid Domingo de Zioneto. Cafwyd y tri yn ddieuog ar yr ail gyhuddiad (pwy oedd yn poeni am farwolaeth carcharor rhyfel o Sbaen, beth bynnag?), ond ar y cyhuddiad cyntaf, er iddynt eu cael yn ddieuog o lofruddiaeth fel y dywed Owen, fe'u cafwyd yn euog o ddynladdiad (PRO, Assi. 2/13). Ni wyddys beth oedd y ddedfryd ond ni anfonwyd neb i'r carchar os yw Owen i'w gredu oherwydd iddo fynd i Ynys Manaw yn union ar ôl yr achos. Dyddiad yr achos oedd 16 Mawrth 1745 ac nid 23 Mawrth fel y dywed Owen. Os yw Owen yn gywir yn dweud i'r achos bara am 12 awr yna roedd yn achos arbennig o hir gan fod achosion llys am drosedd yn rhai byr iawn yn y ddeunawfed ganrif (PRO, Assi. 2/13; J. H. Baker, op. cit., 37).

Yn ôl i Ynys Manaw

Dychwelodd i Ynys Manaw a chymryd tŷ yn Douglas. Wedyn penderfynodd fynd ar un daith smyglo arall a chafodd daith lwyddiannus i dde Cymru. Wedi'r owtin honno llwyddodd ei wraig i'w gael i ymatal rhag smyglo a bu'n rhedeg llong 'pacquet' rhwng Dulyn ac Ynys Manaw am y 'tymor' yn 1745.

Ond buan yr anghofiodd ei benderfyniad i ymddeol o smyglo oherwydd ym mis Medi 1745 dechreuodd ar daith i dde Cymru mewn llong o eiddo ei gefnder. Roedd achos llys rhyngddo a pherson arall ar ddigwydd a bu'n rhaid iddo adael ei 'wraig'. Mae'r hyn mae Owen yn ei ddweud yma yn aneglur iawn. Mae'n dweud ei fod yn 'rhaid iddo adael mab chwaer ei wraig' (NLW, 21834B, t. 106). A oedd e'n golygu ei bod yn rhaid iddo adael ei 'wraig' gyda'i chwaer-yng-nghyfraith lle'r oedd hi'n byw yn Lerpwl a lle yr oedd ei 'wraig' wedi ymweld â hi o'r blaen (ibid., t. 82)? Hwyliodd ar 2 Hydref ond daeth ar draws storm enbyd y diwrnod wedyn a oedd yn gyfrifol am ddinistrio'r llong. Owen oedd yr unig un i ddianc. Dychwelodd i Ynys Manaw i ddisgwyl ei 'wraig' yn ôl. Disgwylodd yno tan ddiwedd Tachwedd, ond gan nad oedd erbyn hynny wedi clywed dim ganddi fe hwyliodd i Lerpwl ac o'r fan honno ymlaen i Aberteifi. Ar ei ffordd i Aberteifi cafodd wybod gan gydnabod hwylio iddo fod y llong (a oedd yn cario ei 'wraig'), y llong yr oedd ei 'wraig' wedi hwylio arni i Lerpwl o Ynys Manaw, er nad yw hyn yn glir iawn o'r testun, wedi'i dryllio ddau fis yn gynt heb i neb ddianc yn fyw. Roedd colli ei 'wraig' yn ergyd drom iawn i Owen. Arhosodd gyda chyfeillion yn Aberteifi tan fis Mawrth 1746 cyn dychwelyd i Ddulyn a chael gwaith fel mêt ar long.

Yn dilyn dwy fordaith fel mêt aeth yn gapten ar breifatîr ag arni 20 gwn ym mis Gorffennaf 1746, yr Admiral Blake o Lerpwl. Dychwelodd y preifatîr i Gorc fis Ionawr 1747 heb lawer o lwyddiant. Yn waeth byth, fe loriwyd y criw i gyd gan glefyd ar arfodir Barbary bu farw llawer ac aeth Owen ei hun yn wan iawn. Wedi gwella symudodd o Gorc i Ddulyn. Ar y ffordd, fodd bynnag, cafodd annwyd a'i gwanychodd drachefn. Arhosodd yn Nulyn am ychydig, yn glaf iawn. Erbyn hyn roedd ei holl eiddo un ai wedi'i werthu neu yn siop y gwystlwr. Gadawodd Ddulyn i fynd i Lerpwl gan aros mewn tŷ oedd yn eiddo i feddyg cyn dychwelyd i Aberteifi i wella.

Lladd James Lilly

Pan ddychwelodd i 'dde Cymru' cyfarfu â rhyw James Lilly ar y ffordd ac fe deithiodd y ddau gyda'i gilydd, Lilly ar gefn ceffyl, Owen ar droed. Roedd pobl eraill ar y ffordd, y gwaedd ac ymlid, mae'n debyg, rhyw ganllath i ffwrdd. Clywodd y bobl hyn ergyd a gweld Lilly yn syrthio oddi ar ei geffyl gyda'i ddryll yn ei law. Daliwyd Owen, cafodd ei holi a'i roi yn y ddalfa.

Roedd James Lilly yn athro cleddyfaeth o Aberteifi. Roedd Owen yn ei adnabod yn dda, ac roedd wedi dwyn achos sifil yn ei erbyn yn 1742, yn gysylltiedig â gwaith roedd Owen wedi'i wneud dros Lilly (bron yn sicr mai symud nwyddau oedd hynny; gweler NLW MS 21834B, t. 34). Aeth yr anghydfod at gyflafareddiad ond ni wyddys beth oedd canlyniad hynny (LlGC, Sesiwn Fawr 18/272/m. 1; Sesiwn Fawr 14/53, ff. 50). Yn ôl un ffynhonnell roedd Lilly ei hun yn smyglwr adnabyddus (Penny London Post, 10 April 1747). Pan saethodd Owen Lilly roedd y ddau yn cael eu dilyn gan y gwaedd ac ymlid.

Mae'n debyg eu bod wedi torri i mewn i dŷ rhyw John Thomas o Nanhyfer, dwyn ugain gini a saethu gwas yn ei wyneb wrth wneud hynny (Penny London Post, ibid.). Wedi diflannu am rai diwrnodau gwelwyd Owen a Lilly yn Aberteifi ac fe aeth gwaedd ac ymlid ar eu hôl. Saethodd Lilly geffyl yr un oedd yn arwain yr erlidwyr a saethodd Owen yr erlidiwr ei hun (Penny London Post, ibid.). Yr erlidiwr o 'grwt post' o Aberteifi oedd Evan George o Aberteifi. Dyfarnwyd 20/- i'w weddw a 40/- i'w rannu rhwng rhyw hanner dwsin o aelodau'r gwaedd ac ymlid gan Sesiwn Chwarterol Sir Aberteifi er mwyn annog eraill yn y dyfodol i erlid drwgweithredwyr drwg-enwog (Archifdy Ceredigion, Cofnodion Llys Chwarter Sir Aberteifi/O.B./1, Sesiwn y Pasg 1747). I wneud pethau'n waeth roedd Lilly hefyd wedi dianc o garchar Hwlffordd lle'r oedd yn disgwyl ei alltudio i America am saith mlynedd am ddwyn dau grys lliain (LlGC, Sesiwn Fawr 15/53. ff. 60; A Calendar of All High-Sheriffs for the County of Carmarthen... Front... 1400-1818 (Carmarthen, 1818), 35).

Erbyn hyn ni chawn byth wybod pam yn gywir y saethodd Owen Lilly. Ai lladd Lilly wnaeth Owen, oedd ar droed ac yn sâl, er mwyn dwyn ei geffyl i ddianc rhag ei erlidwyr? Canlyniad cwest gan y crwner oedd llofruddiaeth. Cyhuddwyd Owen a'i roi ar ei brawf yng Nghaerfyrddin ar 17 Ebrill 1747. Wedi amddiffyn ei hun, cafwyd ef yn euog. Cafodd ei ddienyddio ar 2 Mai 1747. Yr oedd yn ddeg ar hugain mlwydd oed.

Glyn Parry

Mynediad at ddelweddau digidol

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, nid oes mynediad at ddelweddau digidol o'r Catalog na gwefannau'r Llyfrgell ar hyn o bryd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.