Twristiaid cynnar yng Nghymru

Cyfeirnod: NLW MS 1340C a NLW MS 22753B

Y 'daith fawr' a theithiau ym Mhrydain

Yn ystod y ddeunawfed ganrif fe ddaeth yn ffasiynol i aelodau o'r dosbarth uwch i wneud 'taith fawr' o amgylch Ewrop, gan ymweld â gwledydd fel Ffrainc, yr Eidal a hyd yn oed Gwlad Groeg. Dechreuodd pobl lai cyfoethog efelychu'r ffasiwn hwn trwy deithio drwy rannau mwyaf darluniadol Prydain. Arweiniodd ansefydlogrwydd cynyddol y sefyllfa wleidyddol yn Ewrop ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif at ddiwedd y 'daith fawr', ond i gynnydd yn y nifer o deithiau ym Mhrydain.

Cofnododd llawer o'r twristiaid cynnar hyn eu sylwadau ar y tirwedd, traddodiadau a hanes mewn dyddlyfr a cyhoeddwyd rhai ohonynt. Efallai y teithiwr mwyaf adnabyddus trwy Gymru i gadw dyddlyfr oedd Thomas Pennant (1726-1798) a gyhoeddodd hanes ei deithiau yn 'A tour in Wales' (1778-1783).

Dylanwad taith William Gilpin drwy Ddyffryn Gwy

Un ardal a oedd yn arbennig o boblogaidd gyda thwristiaid cynnar oedd Dyffryn Gwy. Disgrifir a darlunnir yr ardal hon gan Thomas Martyn yn ei 'A tour to south Wales' (LlGC llsgr 1340C). Fel llawer o deithwyr eraill o'r cyfnod dilynodd Thomas Martyn ôl troed William Gilpin (1724-1804). Yr oedd llyfr Gilpin Observations on the River Wye, and several parts of south Wales, etc. relative chiefly to picturesque beauty, a gyhoeddwyd yn 1782, yn seiliedig ar daith a wnaed yn 1770. Er bod pobl wedi bod yn ysgrifennu llyfrau taith am rai blynyddoedd, hwn oedd y cyntaf i gydio yn y dychymyg poblogaidd. Yn draddodiadol, credir mai'r gyfrol hon oedd yn gyfrifol am ddechrau'r ffasiwn am 'dwristiaeth ddarluniadol'. Canolbwyntiodd twristiaeth ddarluniadol ar werthfawrogiad o olygfeydd yn hytrach na hanes neu bensaernïaeth a gellir ei gysylltu â thwf y mudiad Rhamantaidd.

NLW MS 1340C: A tour to south Wales (1801)

Gwelir dylanwad Rhamantiaeth ar waith Thomas Martyn yn ei ddefnydd o ddyfyniad o waith William Cowper (1731-1800), bardd a oedd hefyd yn ddylanwad ar William Wordsworth (1770-1850), ar dudalen 3 o'i ddyddlyfr. Mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys sylwadau ar arferion lleol, bywyd gwyllt a golygfeydd. Er bod y gwaith yn canolbwyntio ar rannau mwyaf darluniadol de Cymru, y mae hefyd yn cynnwys sylwadau ar y rhannau o Loegr y bu'r awdur yn teithio drwyddynt ar y ffordd o'i gartref yn Llundain. Darlunnir y gwaith gan nifer o ddyfrliwiau a brasluniau.

Gellir cael mynediad dros dro i fersiwn digidol o'r llawysgrif yma. Cysylltwch â ni os cewch chi unrhyw drafferthion.

NLW MS 22753B: Tour through Wales (1772)

Y mae 'Tour through Wales', a ysgrifennwyd yn 1772 gan Jinny Jenks (c.1737-1778), yn canolbwyntio'n bennaf ar ogledd ddwyrain Cymru. Ymysg y lleoedd y mae'n ymweld â hwy mae Dyffryn Clwyd, Hafodunos a Llanelwy. Wrth deithio y mae Jenks a'i chymdeithion yn cwrdd â rhai o'r bobl bwysig leol, gan gynnwys Esgob Llanelwy a ddisgrifir ganddi fel 'dyn golygus iawn'. Y mae'n amlwg i'r dyddlyfr hwn gael ei ysgrifennu cyn dylanwad y mudiad Rhamantaidd. Er iddi gyfeirio yn aml at dirwedd a natur, yn wahanol i Thomas Martyn ni theithiodd Jinny Jenks i ardal dwristaidd draddodiadol. Mae'n ymddangos bod ganddi gymaint o ddiddordeb mewn cwrdd â phobl ac ymweld â threfi ag yr oedd ganddi mewn syllu ar olygfeydd.

Darllen pellach

  • Malcolm Andrews. The search for the picturesque. Aldershot : Scolar Press, 1989.
  • Thomas Martyn, Sketch of a Tour through Swisserland (1787)