Thomas Jones Pencerrig

 

Yr oedd Thomas Jones, a adwaenir yn draddodiadol fel Thomas Jones Pencerrig, yn arlunydd tirluniau Cymreig o gryn dalent a dyfeisgarwch. Y mae'n fwyaf enwog fel artist y tirlun cyffredin, tirluniau tebyg i'r rhai o gwmpas cartref y teulu, neu'r waliau gwyngalch gwag disglair eu lliw gyferbyn â'i stiwdio yn Napoli.

Gŵr o ysbryd eithriadol ydoedd a lwyddai i gyfuno tuedd foesol ddofn gydag agwedd y meddyliwr annibynnol at fywyd. Gellid ystyried ei fywyd yn gymysgfa fawr o obeithion a chwalwyd ynghyd ag asesiad realistig o'i orchestion personol. Yr oedd yn arlunydd poblogaidd a thalentog, un a lwyddai i hudo noddwyr, ond un hefyd a oedd yn methu â dyfalbarhau gyda'r agweddau llwyddiannus ar ei gelfyddyd. Yn 1787, pan oedd ei gyfoeswyr yn cael eu gorfodi i dderbyn gwaith engrafio dienaid, yn gorfod troi at ddysgu neu'n derbyn comisiynau undonog, fe etifeddodd Thomas Jones stad y teulu ac o ganlyniad ei flynyddoedd olaf oedd y rhai mwyaf creadigol o'r safbwynt artistig.

Bywyd cynnar

Ganwyd Thomas Jones yn Llandrindod ar yr union adeg y dechreuwyd poblogeiddio'r ffynhonnau yno fel cyrchfan iachusol ar gyfer trigolion lluddedig y trefi poblog. Symudodd ei deulu o Landrindod i stad gymharol neilltuedig Pencerrig, ychydig filltiroedd o Lanfair-ym-Muallt.

Yr oedd ei deulu yn Ymneilltuwyr amlwg a fu'n gyfrifol am godi a chynnal capel bychan Cae-bach yn Llandrindod sydd ar gael hyd heddiw yn gymuned fywiog o addolwyr. Addysgwyd y Thomas ieuanc gan weinidog anghydffurfiol cyn cofrestru yng Ngholeg Crist, Aberhonddu. Wedi cyfnod yn Aberhonddu ymaelododd yn fyfyriwr cyffredin yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 1759. Bu'r ddwy flynedd a dreuliodd yno yn fodd i gadarnhau ei uchelgais o fod yn arlunydd yn hytrach na bod yn ŵr eglwysig neu'n ysgolhaig.

Yn ffodus iawn, fe adnabu tad Thomas Jones dalent a diddordeb ei fab mewn celfyddyd. Profodd y gefnogaeth honno yn hanfodol iddo yn ystod ei ddatblygiad cynnar ac ar gyfer ei yrfa yn Llundai

Hyfforddiant yn arlunydd

Dychwelodd Thomas Jones i Gymru gyda'i dad yn 1761 ac yno fe'i perswadiwyd gan hen gyfaill teuluol, Charles Powell, Castell Madog, i ymuno ag ysgol luniadu newydd, gyffrous wedi ei threfnu gan William Shipley. Erbyn Tachwedd 1761, yr oedd Thomas Jones wedi ei gofrestru'n fyfyriwr yn yr ysgol honno ac yn gwneud cynnydd buan.

Cafodd ei benodi'n brentis i'r Cymro Richard Wilson ym mis Mawrth 1763, a chyn bo hir ymunodd Joseph Faringdon ag ef. Cadwodd y ddau hyn ddyddiaduron yn ystod eu gyrfaoedd ac y mae'r llawysgrifau hynny, erbyn heddiw, ymhlith y papurau pwysicaf a gadwyd gan arlunwyr y ddeunawfed ganrif.

Yr oedd stiwdio Richard Wilson, ger Covent Garden, yn amgylchfyd ardderchog ar gyfer dysgu arferion gorau ei ddydd. Mynnodd Wilson fod Thomas Jones yn copïo'r lluniadau sialc a grëwyd ganddo yn yr Eidal rhwng 1750 a 1757. Yn ddiweddarach yn ei astudiaethau gyda Wilson, dysgodd Thomas Jones sut i gopïo gwaith ei feistr a dysgodd, yn bwysig ddigon, lawer o wybodaeth am dechneg y gŵr mawr hwnnw.

Sefydlu gyrfa yn arlunydd

Yn 1765, gadawodd Thomas Jones ofal Richard Wilson ac fe'i etholwyd yn gymrawd o Gymdeithas yr Arlunwyr yn y flwyddyn ganlynol. Aeth ei yrfa o nerth i nerth yn dilyn dyfarnu'r wobr gyntaf am dirluniau gan Gymdeithas yr Arlunwyr yn ei harddangosfa flynyddol ym Mai. Yr oedd y clod arbennig hwn yn arwydd fod ei gyd-arlunwyr yn cydnabod bod talent newydd go arbennig wedi ymddangos ym myd celfyddyd gain Llundain; i bob golwg yr oedd gyrfa ddisglair o'i flaen.

Cymeriad cymdeithasol iawn a chwmnïwr parod oedd Thomas Jones a allai fwynhau cwmni ystod eang o bobl yn llawen. Ceir llawer iawn o wybodaeth yn ei Atgofion ar yr agweddau hyn ar ei gymeriad a'i fywyd. Erbyn y 1760au hwyr yr oedd wedi sefydlu ei hun yn arlunydd ffasiynol, er braidd yn hen-ffasiwn, o bortreadau plastai a golygfeydd Eidalaidd eu naws.

Sefydlodd Thomas Jones ei fusnes ar ei gartref yn Llundain, gan symud allan i'r wlad ar gomisiynau neu ymweliadau. Yr ymweliad mwyaf trawiadol â Chymru yn ystod ei yrfa oedd yn 1768, pan aeth â phrif gynorthwywr stiwdio Syr Joshua Reynolds, Giuseppe Marchi, i ganolbarth Cymru. Yno fe baentiodd Marchi y gyfres o bortreadau'r teulu Jones tra gweithiai Thomas Jones ar ei luniadau tirluniau, mewn olew mae'n debyg, y rhai y daeth yn enwog amdanynt fyth ers hynny.

Arlunydd aeddfed

Etholwyd Thomas Jones yn Gymrawd o Gymdeithas yr Arlunwyr yn 1772; tystiai'r anrhydedd hwn fod ei gydweithwyr yn credu iddo gyrraedd safon uchel yn ei ddewis bwnc a'i fod yn barod i'w ystyried yn arlunydd haeddiannol.

Yn 1773 paentiodd Thomas Jones The Bard. Pan gafodd y llun ei arddangos ym Mai 1774 gan Gymdeithas yr Arlunwyr, cafodd ei ddisgrifio gan adolygydd fel '[a] most capital piece'. Yr oedd wedi arddangos ei fedr, trwy baentio mewn dull aruchel, yn debyg iawn i'w feistr, ond gyda'i weledigaeth greadigol ei hun o Gymru'r drydedd ganrif ar ddeg. Yn fuan wedi hyn dechreuodd ei brosiect printiau pwysig a chyn pen blwyddyn yr oedd wedi ymadael am yr Eidal.

Mae ei Atgofion yn cyflwyno adroddiad llawn inni ar ei gyfnod Eidalaidd a ddechreuodd yn Hydref 1776 ac a barhaodd hyd fis Tachwedd 1783. Mae'r llun Bay of Naples yn enghraifft nodweddiadol o'i arddull yn y cyfnod hwn, llinell eglur, llawer o liw gyda phwyslais ar ystyriaethau ffurfiol y tirlun. Ar ei ddychweliad i Lundain, gyda gwraig a dau o blant erbyn hyn, ceisiodd Thomas Jones ailgodi ei fusnes. Yn anffodus ychydig o gomisiynau a dderbyniodd ac ni wireddwyd addewid o gymorth a gafodd gan y bonheddwr dylanwadol Syr William Hamilton.

Gŵr bonheddig

Fe ymddengys fod Thomas Jones a'i deulu wedi byw'n gysurus er gwaetha'r diffyg gwerthiant a chomisiwn. Fe nodir ganddo yn ei Atgofion iddo gymryd 'a little, neat house in London Street Tottenham Court Road, where I lived very contentedly on the income of a small landed estate.'

Mae'n debyg mai ei gysylltiadau Cymreig a fu'n gyfrifol am ddenu Thomas Johnes o'r Hafod i estyn comisiwn iddo gynhyrchu golygfeydd o'r Hafod yn 1786. Mae'r unig luniadau sydd wedi goroesi o'r ymweliad hwnnw i'w canfod o fewn tudalennau Llyfr Lluniadu'r Hafod.

Erbyn gwanwyn 1787 yr oedd ei frawd hynaf wedi marw ac yn 1789 symudodd Thomas Jones yn ôl i Gymru i reoli stad y teulu a thyfu'n aelod blaenllaw o gymdeithas sir Faesyfed. Mae'n darlunio'n fyw iawn yn ei Atgofion sut y gwelai Pencerrig yn 'ymddeoliad cartrefol' lle paentiai er mwyn ei foddhau ei hunan.

Arhosodd y mwyafrif o'i ddyfrlliwiau olaf yn eiddo i'r teulu hyd arwerthiannau cymharol ddiweddar 1954, 1961 a Chymynrodd gweithiau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ac Amgueddfa Llandrindod o stad Mrs Jane Evan-Thomas.

Treuliodd Thomas Jones ei flynyddoedd olaf yn atgyfnerthu ei stad trwy blannu coed, trwy arbrofi â chnydau, trwy gynorthwyo ei staff a chan weithio dros y gymuned yn Uchel Siryf. Bu farw ar 29 Ebrill 1803 a chafodd ei gladdu ym meddrod y teulu yng nghapel Cae-bach yn Llandrindod.