Steganographia

Cyfeirnod: Peniarth MS 423D

Cyfrol o destunau astrolegol yw Llsgr. Peniarth 423D, a ysgrifennwyd mewn Lladin. Mae'n drawsgrifiad, dyddiedig 1591, o Steganographia gan Johannes Trithemius (1462-1516), a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn hwyr yn y 1490au. 'Steganography' yw'r weithred o ysgrifennu mewn côd cyfrinachol.

 

Dr John Dee (1527-1609)

Dim ond yn ddiweddar y priodolwyd y fersiwn hon o Steganographia Johannes Trithemius i law Dr John Dee, gan Daniel Huws, ein prif awdurdod ar lawysgrifau Cymreig. Roedd Dr John Dee yn fathemategydd nodedig, yn ddaearyddwr ac yn seryddwr ac ef oedd 'hoff athronydd' y Frenhines Elisabeth I. Roedd Dee o dras Gymreig ac yn ei ddyddiaduron mae’n sôn yn aml am ei gefndryd Cymreig; un ohonynt oedd Thomas Jones o Dregaron, sy'n fwy adnabyddus fel Twm Siôn Cati. Cyflwynodd Dee gynlluniau i sefydlu llyfrgell genedlaethol ond nid ariannwyd y cynllun hwnnw felly aeth ati i greu casgliad ei hun. Roedd ei lyfrgell, a oedd yn cynnwys sawl cyfrol yn y Gymraeg, gystal â rhai o lyfrgelloedd prifysgolion y cyfnod.

Nid dyma'r unig adysgrif a wnaed gan Dee o'r gwaith hwn. Ar y pryd, roedd galw mawr am y Steganographia dros Ewrop gyfan, ac yn 1563 roedd wedi olrhain copi a oedd ym meddiant uchelwr Hwngaraidd dienw, a theithiodd Dee yn bell iawn er mwyn gwneud adysgrif ohono. Yn hwyr yn y 1580au, tra’r oedd Dee a'i deulu yn teithio yn Ewrop, dygwyd nifer o gyfrolau o’i lyfrgell. Mae'n debyg ei fod wedi colli ei gopi gwreiddiol o’r Steganographia bryd hynny, ac wedi creu’r adysgrif diweddarach yma yn ei le.

Yn ddiweddarach, bu’r gyfrol hon yn eiddo i John Jones, Gellilyfdy (g. c.1578-83, bu f.1658?), cyn iddi ddod i ddwylo Robert Vaughan a chasgliad Hengwrt. Pan fu farw Syr Robert Willames Vaughan o Hengwrt ym 1859, gadawodd ei gasgliad i’w gyfaill W. W. E. Wynne, a symudwyd y llawysgrifau i lyfrgell Peniarth, Meirionnydd. Prynwyd y casgliad cyfan gan Syr John Williams (1840-1926) ym 1904 a phan fu farw mab hynaf Wynne ym 1909, trosglwyddwyd y llawysgrifau i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Y llawysgrif

Mae'r llawysgrif yn cynnwys 114 tudalen, ac mae mewn rhwymiad modern. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys fod y testun yn sôn am sêr-ddewiniaeth a syniadau ‘hudol’ aneglur. Honnwyd ei fod yn cynnwys, ymysg pethau eraill, ddull o anfon negeseuon cudd dros bellter mawr. Mae’n cynnwys traethodau hirion am wahanol ysbrydion ac angylion, gyda defodau a thablau o fformiwlâu 'hudol'. Fodd bynnag, mae'n ymddangos erbyn hyn nad oes unrhyw beth ‘hudol’ yn eu cylch. Mewn gwirionedd, mae’r rhestrau o rifau a llythrennau yn allwedd i ffurf glyfar o amgryptio, ffurf nas darganfuwyd hyd y 1990au. Mae'n ymddangos fod Johannes Trithemius wedi dyfeisio ffurf gyntefig o’r un system amgryptio a ddefnyddiwyd yn nes ymlaen i greu'r côd Enigma enwog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ni wyddys a oedd John Dee yn deall y system benodol hon, nac ychwaith a wnaeth ef ei defnyddio. Roedd hi’n hysbys ei fod wedi defnyddio gwahanol ieithoedd a seifferau yn ei ysgrifau, a byddai codau o'r fath yn sicr yn ddefnyddiol i’w ffrind, Syr Francis Walsingham, a ddatblygodd arbenigedd mewn atal gweithgareddau cudd tra’r oedd yn gweithio fel Ysgrifennydd Preifat i’r Frenhines Elisabeth I. Fodd bynnag, mae'n bosib bod Dee wedi ei ddenu i'r defodau a’r swynion gan ei fod yn credu, fel nifer o’i gyfoedion, bod modd canfod gwybodaeth trwy sgwrsio gydag ysbrydion.

Darllen pellach:

  • (Goln.) Julian Roberts & Andrew G Watson: John Dee’s Library Catalogue (Llundain : Bibliographical Society, 1990)
  • Daniel Huws: Twm Siôn Cati (Carmarthenshire Antiquary, Vol. XLV, pp. 39-45, 2009)
  • Jim Reeds: “Solved: The Ciphers in Book III of Trithemius’ Steganographia” yn Cryptologia, Vol. 22, Rhifyn 4, tud. 291-317 (Taylor & Francis, Inc. Bristol, PA, USA, Oct. 1998)
  • Benjamin Woollet: The Queen’s Conjuror (HarperCollins, 2001)
  • Gwyn A. Williams: “Welsh wizard and British Empire : Dr John Dee and a Welsh identity”: The Annual Gwyn Jones Lecture (Caerdydd : Gwasg Coleg Prifysgol Caerdydd, 1980)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?