Cyfeirnod: NLW MS 11431B
Chwaraeodd Morgan Llwyd (1619-1659) ran amlwg yn y cyffroadau crefyddol a gwleidyddol a welwyd yng Nghymru yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Drwy gyfrwng ei ryddiaith goeth, rethregol saif fel un o awduron blaenllaw ei oes.
Ganed Morgan Llwyd yng Nghynfal-fawr, Maentwrog, Gwynedd yn 1619. Aeth i Wrecsam yn 1629 i fod yn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg. Yno cafodd dröedigaeth yn 1635 wrth wrando ar Walter Cradock (1610?-59) y diwinydd Piwritanaidd yn pregethu. Ymunodd â Cradock yn Llanfair Waterdine, swydd Amwythig, ac yn ddiweddarach aeth gydag ef i Lanfaches lle roedd eglwys gynulleidfaol gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1639. Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref yn 1642 ymunodd Llwyd â lluoedd y Senedd fel caplan.
Yn 1644 fe'i hanfonwyd fel pregethwr teithiol i ogledd Cymru gan y Senedd ac ymsefydlodd yn Wrecsam. O 1650 hyd 1653 bu'n Brofwr o dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru, ac ef oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i weinidogion addas i gymryd lle y rhai a ddiswyddwyd yn y plwyfi. Yn 1659 fe'i gwnaed yn weinidog eglwys plwyf Wrecsam ond bu farw'n ddiweddarach y flwyddyn honno.
Cyhoeddodd un ar ddeg o weithiau, wyth yn y Gymraeg a thri yn y Saesneg. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Llythyr i'r Cymry cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn. Mae ei argyhoeddiad ysbrydol dwfn yn llenwi ei weithiau a gwelir dylanwad cyfriniaeth Lwtheraidd Jacob Böhme (1575-1624) yn amlwg mewn nifer ohonynt. Drwy gyfrwng ei arddull rethregol, llawn delweddaeth, y mae'n ceisio dwyn perswâd ar ei gyd-Gymru i baratoi eu hunain ar gyfer ail-ddyfodiad Crist i'r ddaear.
Mae Llawysgrif NLW 11431B yn cynnwys tri thudalen o ddrafft anorffenedig yn llaw Morgan Llwyd o ddeialog rhwng hen ŵr a phlentyn ynghylch y Beibl. Mae'n debygol na orffennwyd y deialog, gan fod lle gwag ar ddechrau'r tudalen cyntaf. Nid yw'r llawysgrif wedi'i chyhoeddi ond gwelir arddull tebyg yn un arall o'i weithiau, sef Y Disgybl a'r athro.