Llyfr Ryseitiau Merryell Williams

Cyfeirnod: Peniarth MS 513D

Cyfrol o ryseitiau coginio a meddyginiaethol yw hon, a gasglwyd gan Merryell Williams o Ystâd Ystumcolwyn, Sir Drefaldwyn, yn niwedd y 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif. Fe'i hysgrifennwyd mewn llawysgrif Saesneg. Tu mewn i'w chloriau cawn gipolwg ar y mathau o brydiau a grëwyd yng ngheginau uchelwyr canolbarth Cymru yn y cyfnod hwn.

 

Merryell Williams (1629-1703)

Ganwyd Merryell Williams yn 1629, yn ferch i Richard ac Elizabeth Powell o Worthen, Sir Amwythig. Roedd ei mam yn wyres i Syr Thomas Bromley, a fu'n Arglwydd Ganghellor o 1579 tan 1587. Priododd Merryell â John Williams (1627-1685), un o feibion teulu cyfoethog Ystâd Ystumcolwyn a oedd yn dal tiroedd mewn sawl plwyf megis Meifod a'r Trallwng. Am weddill ei hoes bu Merryell yn feistres ar yr ystâd eang hon. Bu farw ym mis Ionawr 1703.

Fel gwraig i uchelwr, byddai Merryell yn gyfarwydd â dyletswyddau'r ferch yn y cartref, er enghraifft coginio, trefnu gwleddoedd, gwneud a chadw gwahanol winoedd, trafod gwlân a chyflawni holl waith llaethdy. Er na fyddai'n gyfrifol am gyflawni'r holl waith hyn ei hun, byddai'n rhaid iddi wybod digon i fedru hyfforddi eraill, megis cogyddion a morynion, ar beth oedd angen ei wneud. Yn y cyfnod hwn, byddai gwragedd a fedrai ysgrifennu yn casglu a chofnodi ryseitiau ar gyfer defnydd personol ac er mwyn rhannu cyfrinachau'r gegin gyda'i gilydd. Dros 300 mlynedd ers i Merryell Williams gychwyn cofnodi eu ryseitiau, mae ei chyfrol unigryw ar gael ar-lein ar gyfer cenhedlaeth newydd o gogyddion.

Llawysgrif Peniarth 513D

Cyfrol o 577 tudalen yw hon, o faint sylweddol ac wedi ei rhwymo mewn swêd brown. Ymddengys y bu clo arni ar un adeg. Er taw Merryell Williams a ysgrifennodd y rhan helaeth o'r ryseitiau yn y gyfrol hon, mi ychwanegwyd rhagor atynt yn hwyrach gan o leiaf ddwy law arall. Wedi marwolaeth Merryell yn 1703 aeth y llawysgrif i ddwylo Lumley Williams, sef nai ei gŵr ac etifedd Ystâd Ystumcolwyn. Erbyn 1859 roedd y gyfrol yn rhan o gasgliad bychan o lawysgrifau ar goginio yn Llyfrgell Syr Robert Williams Vaughan, Hengwrt, pryd yr adwaenid hi fel Hengwrt MS 389. Wedi marwolaeth Vaughanyn y flwyddyn honno, etifeddwyd y casgliad gan W.W.E. Wynne, Peniarth, ac fe'i prynwyd gan Syr John Williams ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol yn 1904.

Cynnwys y llawysgrif

Ryseitiau coginio ar gyfer tai uchelwyr yw cynnwys y llawysgrif, a cheir mynegai llawn iddynt ar ddechrau'r gyfrol. Rhennir y ryseitiau i'w hadrannau priodol. Ceir cyfarwyddid ar sut i gadw a storio cig anifeiliaid, adar a physgod yn ogystal â'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer eu coginio, er enghraifft sut mae paratoi pen mochyn a sut i stiwio adar y to. Rhoddir canllawiau ar sut i gadw llysiau a ffrwythau a gwneud jam a cheir ryseitiau ar gyfer pobi bwydydd megis bara Ffrengig a bisgedi. Mae yna ganllawiau ar gyfer creu gwinoedd a diodydd gan gynnwys gwin briallu a brandi ceirios du, a ryseitiau ar gyfer gwahanol feddyginiaethau megis moddion ar gyfer atal chwydu ac at bigyn clust.

Cyfieithwyd llawer o ryseitiau'r gyfrol hon i'r Gymraeg gan y Dr Enid Pierce Roberts yn ei llyfr Gwraig orau o'r Gwragedd (Gwasg Pantycelyn, 2003). Wrth gyfieithu o'r gyfrol, dylanwadwyd ar Dr Pierce Roberts gan draddodiad llafar ei nain, a oedd yn hanu o Sir Drefaldwyn, ynghyd â'i gwybodaeth am yr hen ddulliau o goginio. O ganlyniad, mae'r eirfa Gymraeg a ddefnyddir yn agos iawn i'r hyn a fyddai'n cael ei defnyddio yng nghyfnod Merryell Williams.

Darllen ymhellach

Dr Enid Pierce Roberts, Gwraig orau o'r Gwragedd (Gwasg Pantycelyn, 2003)

Bobby Freeman, First catch your peacock : her classic guide to Welsh food (Y Lolfa, 2006)